BBC Radio Cymru
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoria
Site do podcast
Último episódio
8 de set de 2026
Onde ouvir?
Podcasts no app Replaio Radio Em breveOs podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts
Episódios
Cyfres 1, Pennod 6: Byw gyda chanser 05.08.2024 46:47
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y bennod olaf, mae Mari yn cael cwmni Jill Lewis o Langlydwen a Lowri Davies o Flaendulais i drafod y profiad o fyw gyda chanser.
Cyfres 1, Pennod 5: Llawdriniaeth 22.07.2024 1:02:29
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Llawdriniaeth sy'n cael sylw yn y bennod hon ac yn cadw cwmni i Mari mae Lowri Mai Williams o Lanfyllin a Lowri Davies o Abertawe; y ddwy wedi cael llawdriniaethau yn dilyn diagnosis o ganser y fron.
Cyfres 1, Pennod 4: Iechyd Meddwl 08.07.2024 50:49
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y bennod hon, effaith canser ar iechyd meddwl sy'n cael sylw, ac yn ymuno i sgwrsio gyda Mari mae Caryl Davies o Dregaron a Wil Beynon o Landdarog.
Cyfres 1, Pennod 3: Rhannu'r newyddion gyda'r teulu 24.06.2024 44:46
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn y drydedd bennod mae Mari yn trafod rhannu'r newyddion gyda'r teulu, ac yn sgwrsio a rhannu profiadau gyda'i mam, Ann Davies a gafodd ddiagnosis o ganser yn y 1990au.
Cyfres 1, Pennod 2: Chemotherapi 10.06.2024 47:03
Mari Grug a'i gwesteion sy'n trafod clefyd sy'n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Yn yr ail bennod, chemotherapi sy'n cael sylw, ac yn cadw cwmni i Mari mae Karina Williams o San Clêr a fu'n derbyn triniaeth ar yr un adeg â Mari a Catrin Chapple, sy'n fferyllydd yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Cyfres 1, Pennod 1: Diagnosis 27.05.2024 49:39
Mari Grug a’i gwesteion sy’n trafod clefyd sy’n effeithio 1 mewn 2 ohonom, sef canser. Ym mhennod cyntaf 1 mewn 2 mae Mari yn canolbwyntio ar ddiagnosis ac yn cael cwmni Lindsey Ellis o Gerrigydrudion a gafodd ddiagnosis o ganser colorectal ym mis Ebrill 2021 a Dr Llinos Roberts, meddyg teulu o Gaerfyrddin.
Lleisiau Cymru 20.05.2024 1:05
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.
Podcasts parecidos
O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos