BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoria
Site do podcast
Último episódio
4 de out de 2026
Onde ouvir?
Podcasts no app Replaio Radio Em breveOs podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts
Episódios
Dafydd Rhys 05.05.2024 51:02
Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George. Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd. Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a’i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae’r delyn a’r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a’r teulu yn symud yn aml. Mae Dafyd...
Shelley Rees 28.04.2024 50:54
Shelley Rees yr actores, cyn-wleidydd a chyflwynydd Radio Cymru yw gwestai Beti George. Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu am flynyddoedd wrth iddi bortreadu cymeriad Stacey yn yr opera sebon Pobol y Cwm, ar ôl gadael y gyfres yn 2012 bu’n Gynghorydd yn y Rhondda am 10 mlynedd, tan i ddigwyddiad lle y cafodd y ffin ei groesi ac fe gafodd ei bygwth a gadael y swydd yn fuan wedi hynny. Mae hi’n an...
Rhian Cadwaladr 21.04.2024 50:18
Yr awdur a’r actor Rhian Cadwaladr yw gwestai Beti George, Beti a’i Phobol. Yn wreiddiol o bentre’ Llanberis mae Rhian Cadwaladr wedi ysgrifennu 10 o lyfrau - yn nofelau, llyfrau i blant a llyfrau coginio. ‘Roedd ei Mham yn cadw caffi yn eu cartref yn ystod tymor y gwyliau, ac ers yn blentyn bach mae ganddi ddiddordeb mawr mewn coginio. Diléit arall ydi cerdded, ac mae hi’n sôn am yr her a osododd...
Jonathan Roberts 14.04.2024 50:22
Jonathan Roberts o’r Bala yn wreiddiol sydd yn gweithio fel Cyfieithydd i gwmni cyfreithiol mawr yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd yw gwestai Beti George. Yn 14 mlwydd oed, ‘roedd o’n ysu i symud o’r Bala i fyw mewn dinas fawr, ac fe fu’n byw yn Lerpwl a Llundain am gyfnod cyn teithio i Frasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas Rio. Mae’n byw mewn fflat sydd yn edrych ar y cerflun o Crist a...
Y Parchedicaf Andy John Archesgob Cymru 31.03.2024 50:08
Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae’r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur. Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym...
Geraint Jones 24.03.2024 50:19
Geraint Jones cyn-swyddog cyswllt amaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyn aelod o’r band Rocyn yw gwestai Beti George. Fe fu'n gweithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am 40 mlynedd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a ffermio. Mae bellach yn gweithio fel bownsar neu geidwad drysau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi wynebu dau gyfnod o salwch difrifol, ac yn siarad yn...
Hazel Thomas 17.03.2024 50:30
Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain. Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dor...
Yr Arglwydd Dafydd Wigley 12.03.2024 1:16:58
Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân. Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olyno...
Dr Caroline Turner 03.03.2024 50:13
Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwy...
Adam Jones 25.02.2024 50:45
Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i...
Miriam Lynn 11.02.2024 51:01
Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio...
Meleri Wyn James 04.02.2024 50:40
Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Ne...
Guto Bebb 28.01.2024 1:17:18
Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) e...
clare e.potter 21.01.2024 50:22
Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniae...
Nayema Khan Williams 14.01.2024 50:12
Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae...
Liz Saville Roberts 07.01.2024 51:31
Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofle...
Ifan Phillips 31.12.2023 50:22
Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.
Yws Gwynedd 24.12.2023 59:21
Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.
Cleif Harpwood 10.12.2023 51:38
Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o...
Rory Francis 03.12.2023 50:20
Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.
Tomos Parry 19.11.2023 49:30
Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd...
Bronwen Lewis 12.11.2023 50:20
Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales. Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bo...
Guto Harri 05.11.2023 1:12:25
Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'pho...
Mali Ann Rees 29.10.2023 49:00
Yr actores Mali Ann Rees ydi gwestai Beti a’i Phobol. A hithau ond yn 17 oed bu’n ddisgybl mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth ryngwladol. Bu ddigon ffodus wedyn i gael ei derbyn i goleg drama yn Llundain ond yn anffodus ni wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno gan i’r coleg gnocio ei hyder yn llwyr. Serch hynny, mae Mali yn un o’r actoresau amlycaf ac wedi actio mewn nifer o gyn...
Felicity Roberts 23.10.2023 48:18
Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei...
Podcasts parecidos
O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos