BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoria
Site do podcast
Último episódio
4 de out de 2026
Onde ouvir?
Podcasts no app Replaio Radio Em breveOs podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts
Episódios
Eurgain Haf 15.12.2024 50:27
Daw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
Owain Gwynfryn 08.12.2024 48:47
Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George. Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn. Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed. Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniat...
Anthony Matthews Jones 24.11.2024 49:22
Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun. Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.
Meirion MacIntyre Huws 10.11.2024 49:15
Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George. Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd. Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty. Bellach mae ganddo gwmni paneli...
Yr Athro Angharad Puw Davies 03.11.2024 49:19
Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George. Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn Abertawe Mae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis. Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.
Richard Jones-Parry 27.10.2024 47:39
Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George. Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd. Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.
Aled Lewis 20.10.2024 49:43
Aled Lewis yw gwestai Beti George. Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain. Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da. Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyf...
Malachy Owain Edwards 13.10.2024 50:20
Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg. Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni. Wrth drafod ei hunaniaeth m...
Iestyn George 06.10.2024 1:04:20
Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.
Dr Carwyn Jones 29.09.2024 50:45
Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddo...
Dr Ffion Reynolds 22.09.2024 50:23
Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw. Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o’r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni’n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o’i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica...
Iolo Eilian 15.09.2024 49:47
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Iolo Eilian, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cenedlaethol iechyd a gofal yn yr Iwerddon. Mae'n wreiddiol o Lanrug, ac ar ôl treulio amser fel nyrs a gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam a Gogledd Iwerddon, mae bellach yn byw yn Galway gyda'i deulu ac yn gyfrifol am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y weriniaeth, ac yn rheoli cyllid o 23.5 biliwn o bunnoedd.
Yassa Khan 08.09.2024 50:28
Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George. Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa. Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo...
Rhodri Ellis Jones 01.09.2024 50:28
Rhodri Ellis Jones, ffotograffydd dogfen o Ddyffryn Ogwen sy'n byw ger Bologna yn yr Eidal yw gwestai Beti George. Mae wedi gweithio ar draws y byd yn Affrica, Albania, Cuba, Nicaragua ac El Salvador ac wedi dogfennu yn ddiweddar pobol leiafrifol yn China. Mae bellach yn ddinesydd yr Eidal ac yn rhannu hanesion ei blentyndod yn Sling, Tregarth a'r bywyd anturus mae o wedi ei fyw. Fe fydd arddangos...
Katie Hall 04.08.2024 49:37
Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu’n cefnogi’r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teit...
Steffan Donnelly 28.07.2024 50:44
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Steffan yn y swydd ers 2 flynedd ac yn sôn am yr heriau mae nhw'n ei wynebu fel cwmni gan bod y cyllid wedi aros run fath ers 2009. Mae hefyd yn sôn am ei fagwraeth yn Llanfair Pwll, Ynys Môn, ac am ei ddiddordeb yn y theatr ers yn ifanc iawn. Fe dreuliodd wyliau haf ei blentyn...
Y Fonesig Elan Closs Stephens 21.07.2024 58:29
Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a’i Phobol. Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi’n sôn am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau y...
Mici Plwm 14.07.2024 50:11
Yr actor a digrifwr Mici Plwm yw gwestai Beti George. Fe dreuliodd Mici Plwm 12 mlynedd mewn cartref plant a hynny heb weld ei Fam. Fe gafodd brentisiaeth fel trydanwr ac wedyn gyrfa lewyrchus fel diddanwr a chyflwynydd teledu, ac mae'n un o'r ddeuawd Syr Wynff a Plwmsan. Roedd ei Fam, Daphne Eva Barnett, yn ferch i Ernest Barnett Harrison oedd yn Brif Arolygydd yr Oriel Gelf Genedlaethol Llundain...
Alison Roberts 07.07.2024 49:18
Fe gafodd Alison Roberts ei geni a’i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o’i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd....
Myron Lloyd 30.06.2024 48:40
Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob...
Karen Wynne 23.06.2024 50:40
Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu. Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan h...
Ffion Gruffudd 16.06.2024 50:06
Gwestai Beti George yw Ffion Gruffudd, Cyfreithwraig sydd yn cael ei chydnabod gan fforwm economaidd y byd fel un sydd yn arbenigo ar ddiogelwch seiber. Mae hi'n Bennaeth diogelwch seiber byd eang i gwmni anferth, Allen & Overy and Shearman. Mae Ffion yn ymwneud gydag achosion mawr iawn ac mae llawer iawn o gyfrifoldeb a phwysau ar ei hysgwydd. Mae hi’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan Nati...
Nia Bennett 26.05.2024 50:18
Beti George sy'n sgwrsio gyda Nia Bennett, Cadeirydd Mudiad yr Urdd. Fe gafodd ei hudo i fyd adnoddau dynol HR pan oedd hi'n astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn gweithio ym Mrwsel i Eluned Morgan, bu'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cymdeithas Tai Taf, gan weithio gyda'r gymuned Somali. Mae hi'n frwd dros helpu cwmnïau i lwyddo,...
Dan McCallum 19.05.2024 49:51
Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George. Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a’i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman. Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda’r Kwrdiaid yn...
Caitlin Kelly 12.05.2024 50:22
Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a’i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o’r dechrau,”meddai. Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a’i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i...
Podcasts parecidos
O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos