Ysbeidiau Heulog

Ysbeidiau Heulog

Comedy GD ↓ 101 episodes

Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.

Author

Ysbeidiau Heulog

Category

Comedy

Podcast website

soundcloud.com

Latest episode

Aug 9, 2023

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pennod 50 - Hanner Cont 09.02.2022

Carregfilltir arall wrth i'r bois gyrraedd hanner cant pennod o Ysbeidiau Heulog. Rwtsh dibendraw ers oesoedd. Mae Llwyd a Leigh yn trafod crefftio wrth sgwennu, YR AWEN, wancars yn siarad rwtsh am yr iaith Gymraeg a llwyth o bethau eraill. Ewch i weld hoff lookalikes Llwyd yma: http://splitting-images.com/ Yn y bennod yma mae Leigh yn bathu conspiracy theory newydd sbon hefyd. Cyfranwch at ein co...

Pennod 49 - Gary Slaymaker 02.02.2022

Sgwennwr, carwr ffilmiau, digrifiwr, comedïwr, presennoldeb cyson ym mywyd Llwyd Owen (heb iddo wybod) am 30 mlynedd, a'r person gyntaf i wneud i Leigh chwerthin trwy'r Gymraeg (ag eithrio Martyn Geraint) - Gary Slaymaker ydy gwestai'r bennod yma. Roedd problemau mawr gyda cysylltiad Leigh i'r sgwrs felly ymddiheuriadau am unrhyw darnau o'r bennod yma sydd ddim cweit mor llyfn a'r arfer. Mae Ysbei...

Pennod 48 - Mwled Ffres 26.01.2022

Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad rwtsh unwaith yn rhagor am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Gan gynnwys sgwrs am Dydd Miwsig Cymru ac atgofion am gigs Cymraeg wnaeth newid bywydau'r dau, boreau oer a rhewllyd, a It's Always Sunny In Philadelphia. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.c...

Pennod 47 - Dewi Prysor 20.01.2022

Awdur, bardd, dramatydd, cerddor ac un o chweds mwya Cymru, Dewi Prysor yw gwestai'r bennod hon. Mae Dewi yn siarad a diddanu am yr holl awr ar ben ei hun mwy neu lai, ac yn rhannu ei 'party trick' tua diwedd y bennod. Un fedrwch chi ddim ei golli! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHY...

Pennod 46 - Pôtsîs 12.01.2022

Pennod arall yng nghwmni Llwyd Owen a Leigh Jones wrth iddyn nhw trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Blue Monday, Pôtsîs (ŵyau wedi'w herwhela?), campiau lawn a Grav. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 45 - Bethan Gwanas 05.01.2022

Awdur, cyflwynydd a thrysor cenedlaethol (ond peidiwch a'i galw hi'n "chi") - Bethan Gwanas sy'n cadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones yn y bennod yma. Beth yw'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus, a sut ydy Leigh yn gwneud iddi cochi am rywbeth o ugain mlynedd yn ôl? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: twitter.com...

Pennod 44 - Blwyddyn Newydd Crach 29.12.2021

Dyma sŵn dau ddyn hollol knackered yn trio siarad yn ddistaw rhag ofn iddyn nhw ddeffro pobl yn y stafelloedd cyfagos. Llwyd a Leigh yn ôl am un pennod arall cyn dechrau'r flwyddyn newydd i rannu'r pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 43 - Podpeth (Rhan 2) 23.12.2021

Rhan dau o'r sgwrs gyda arloeswyr podgrefftio Cymraeg - Podpeth! Mae gan Llwyd gwis Nadolig ar gyfer Elin, Hywel, Iwan a Leigh, ac i fod yn hollol onest mae'r holl rwtsh bron iawn yn ormod. A beth fydd pennod Nadoligaidd heb stori am Aled Jones fydd yn arwain at achos llys enllib. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPo...

Pennod 42 - Podpeth (Rhan 1) 22.12.2021

Ar gyfer Nadolig mae gennym ni dwy bennod arbennig yng nghwmni Elin Gruffudd a Hywel ac Iwan Pitts - aka Podpeth! Pan nad ydy Hywel yn canu nag Iwan yn lleisio Gareth yr orangwtan, mae'r tri yn arloeswyr ym myd podgrefftio Cymraeg felly mae'n fraint cael siarad rwtsh gyda'r tri am y pethau Nadoligaidd sy'n eu wneud nhw'n hapus. Rhan dau o'r sgwrs/sesh yn dod ar Noswyl Nadolig! Cyfranwch at ein cos...

Pennod 41 - Diesel Coch 15.12.2021

Blas Nadoligaidd i'r bennod yma wrth i Llwyd Owen a Leigh Jones dechrau teimlo'r tymor. Lladd y blaned, traddodiadau Dolig a pherlau o recordiau Dolig amgen o gasgliad preifat Llwyd. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 40 - Tudur Owen 08.12.2021

Gwestai sydd angen dim cyflwyniad, ond dyma un ta beth... Un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Cymru - comediwr, sgwennwr, cyflwynydd a mwy. Tudur Owen sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod rhagorol yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 39 - Fflur Evans 01.12.2021

Pennod yng nghwmni'r cyflwynydd, sgwennwr a phodledydd di-flewyn-ar-dafod, Fflur Evans. Pan nad ydy hi'n gallu cael ei ffeindio yn ardal ysmygu Clwb Ifor Bach, gallech chi ei chlywed hi'n siarad am ei bywyd garu ar ei phodlediad rhagorol, "Beth yw Ghosto yn Gymraeg?". Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Ia...

Pennod 38 - Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 20.11.2021

Mae'r bennod yma'n dod i chi'n gynnar wrth i Llwyd Owen a Leigh Jones trafod rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig cyn y noson wobrwyo ei hun. Mi fydd y bennod nesaf yn glanio yn y slot wythnosol arferol. Fel arfer, mae sgwrs am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn dilyn gyda'r dwys a'r difyr. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: h...

Pennod 37 - Carys Eleri 17.11.2021

Cantores, actor, cyflwynydd a chorwynt amry-amryddawn, Carys Eleri sy'n rhannu'r pethau bach yn y bennod yma. Bois Y Tymbl, perfformio, natur a lot mwy yn y sgwrs gwych hon. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 36 - Griff Lynch 10.11.2021

Cerddor, cantor, frontman Yr Ods, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm a theledu - Griff Lynch sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 35 - Sigl a Chraig 03.11.2021

Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad rwtsh ac yn cydbwyso'r dwys gyda'r difyr. Clociau'n newid, dyddiau byr, SAD, iechyd meddwl, Calan Gaeaf (sbŵci), mwy o chweds Twitter ac argymhelliad heavy metal. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 34 - Mari Beard 27.10.2021

Actores gyda wyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld 35 Awr, Tourist Trap, Merched Parchus ac eraill; cyflwynydd y podlediad Cwîns, ac wedi derbyn nifer o enwebiadau BAFTA Cymru ar hyd y ffordd, ie wir, gwestai'r bennod yma yw Mari Beard. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 33 - Help Llaw 20.10.2021

Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach unwaith yn rhagor. Pynciau llosg yr wythnos yma: Casineb arlein, argymhelliad sbŵci, a help llaw mewn sinema moethus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 32 - Gruffudd Owen 13.10.2021

Beth yw'r pethau bach sy'n rhoi gwen ar wyneb prifardd? Ymunwch â Llwyd a Leigh yn y bennod yma wrth iddyn nhw ddysgu beth yw'r pethau bach sy'n gwneud Gruffudd Owen yn hapus. Rêl chwip o sgwrs sy'n hedfan wrth i'r tri trafod bob dim o Tony Blair i gociau anifeiliaid. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Ia...

Pennod 31 - Y Dderwen Awstriaidd 06.10.2021

Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Pynciau llosg yn cynnwys: Cerflun Betty Campbell, celfyddyd, cawodydd, Arnold Schwarzenegger a mwy. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 30 - Melanie Owen 29.09.2021

Perchennog busnes, blogiwr, flogiwr, marchoges arobryn ac un traean o'r podlediad rhagorol (bron) wythnosol, MelMalJal - Melanie Owen sydd yn cadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones yn y bennod yma wrth iddi rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com...

Pennod 29 - Y Dwys a'r Difyr 22.09.2021

Llwyd a Leigh yn ôl gyda'r pethau bach a'r pethau mawr - y dwys a'r difyr. Technoleg a theclynnau, 9/11, cerddoriaeth Awstralia a phob dim arall o dan yr haul. Dyma'r pethau bach sy'n cadw'r ddau yn hapus yr wythnos yma. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 28 - Richard Elis 15.09.2021

Actor a chynhyrchydd (ond paid galw fe'n gynhyrchydd) sydd wedi gwneud y cwbwl gan gynnwys y Big 3 o operau sebon (Eastenders, Corrie a Pobol y Cwm). Mae Richard Elis wedi bod yn wyneb gyfarwydd ar draws y DU am flynyddoedd erbyn hyn, ac mae ganddo cult following yn Yr Iseldiroedd eisioes. Mwy am hynny yn y bennod yn ogystal â'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo. Cyfranwch at ein costi...

Pennod 27 - Clochben ap Llwyd 08.09.2021

Pennod arall gyda Llwyd Owen a Leigh Jones yn siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. ASMR, enwi plant dychmygol Llwyd, shout outs, bîff ar-lein, a mwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

Pennod 26 - Carwyn Ellis 01.09.2021

Y cerddor arobryn sydd yn recordio o dan enw ei hun, gyda'i fand Colorama, yn teithio gyda The Pretenders ac Edwyn Collins, ac i'w weld yn mwy diweddar gyda'i gwaith rhagorol gyda Rio '18 - Carwyn Ellis yw gwestai'r bennod yma. Streuon o'r heol yn teithio fel gaijin yn Japan, cacs o dramor ac effeithiau Brexit a'r pandemig ar yrfaoedd cerddorion. Gwrandewch ar ei waith gyda Rio '18 yma: https://ca...

Listen to the Ysbeidiau Heulog podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.