Ysbeidiau Heulog
Ysbeidiau Heulog
Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 75 - Gwenno Morgan 02.02.2023 55:20
O bosib y tro cyntaf i rywun rhannu'r pethau bach sy'n ei gwneud nhw'n hapus, sydd wedi bod yn ddewis rhywun arall yn y gorffennol... Y cerddor rhagorol Gwenno Morgan yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 74 - Cnychu 26.01.2023 41:11
Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd y cnychwyr mawr. Mae Llwyd yn rhannu'r stori am golli ei wyryfdod. Ych a fi. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 73 - Siôn Alun Davies 19.01.2023 1:01:06
Actor byddech chi'n ei adnabod o bethau fel y ffilm arswyd rhagorol 'Gwledd', neu'r cyfresi 'Craith' a '35 Diwrnod', Siôn Alun Davies sydd yn siarad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 72 - Hanna Jarman 12.01.2023 55:47
Awdur ac actor adnabyddus o'i waith sy'n cynnwys yr anhygoel Merched Parchus, ac awen un o brif cymeriadau nofelau Llwyd - yr un a'r unigryw Hanna Jarman yw gwestai'r bennod yma. Gwrandwch wrth iddi synnu Llwyd Owen a Leigh Jones gyda'i dewisiadau o beth sy'n ei gwneud hi'n hapus! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith...
Pennod 71 - Ac i bawb sydd yn y Tŷ 05.01.2023 46:04
Llwyd Owen a Leigh Jones yn dychwelyd gyda phennod gyntaf y flwyddyn 2023. Sut hwyl dros yr ŵyl gaethon nhw, a beth yw'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 70 - Peredur ap Gwynedd 22.12.2022 56:40
Gitarydd o fri, seiclwr brwd, a cwmni gwych dros awren fach, Peredur ap Gwynedd yw gwestai'r bennod yma. Sgwrs am ei waith gyda'r grŵp Pendulum a beth sydd ar y gweill gyda nhw ar ôl blwyddyn fawr, a'r term Gymraeg gorau am ei hoff fwyd Nadolig, ond beth sy'n cadw'r bwyellwr yn hapus?! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD:...
Pennod 69 - Soixante-neuf 15.12.2022 42:30
Carreg filltir rhywiol i Llwyd Owen a Leigh Jones wrth iddyn nhw drafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod wythnos rhyfeddol o oer. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 68 - Alun Davies 08.12.2022 1:03:10
Un o hoff nofelwyr Llwyd Owen sy'n cadw cwmni iddo fe a Leigh Jones yn y bennod yma - Alun Davies. Beth sy'n ei gadw e'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 67 - Nia Morais 01.12.2022 47:26
Y dramodydd o Gaerdydd, ac awdur preswyl Theatr y Sherman yw gwestai'r bennod yma - Nia Morais! Beth sy'n ei chadw hi'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 66 - Sywel Nyw (Lewys Wyn) 24.11.2022 56:41
Y cerddor Lewys Wyn (aka Sywel Nyw) yw gwestai'r bennod hon. Aelod o'r Eira ac ennillydd y wobr am Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2022 am ei record hir "Deuddeg" (sydd yn cynnwys gwestai fel Mark Cyrff, Endaf Emlyn a mwy), ac hefyd yn frawd bach i Gruff Lynch a Casi Wyn, ond beth yw'r pethau bach sydd yn ei gadw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twit...
Pennod 65 - Colled 17.11.2022 43:01
Yn y bennod yma mae Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n cadw nhw'n hapus, fel arfer. Er hyn, rhybudd i chi - mae sgwrs ddwys a difrifol am golled a galar ar ddechrau'r bennod. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 64 - Llio Maddocks 10.11.2022 59:18
Gwestai'r bennod yma yw'r awdur ac instafardd, Llio Maddocks. Beth yw'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 63 - Gwres Canolog 03.11.2022 51:57
Cafodd Leigh noson hwyr cyn recordio'r bennod yma ac mae'n amlwg wrth iddo frwydro'i ffordd drwy brawddegau am awr. Yn lwcus i chi roedd Llwyd ar frig ei bŵer wrth recordio! Pennod arall o'r podlediad sydd yn rhoi sylw i'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 62 - Dylan Ebenezer 26.10.2022 1:01:38
Mae e ar fin mynd i Qatar i weithio yng Nghwpan y Byd, ond a fydd e'n cael aros mewn gwesty sych neu wlyb gyda Malcolm Allen? Llais a gwyneb cyfarwydd i bawb ledled Cymru, Dylan Ebenezer yw gwestai'r bennod yma! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 61 - Megan Angharad Hunter 19.10.2022 55:54
Yr awdur amryddawn, ac ennillydd Llyfr y Flwyddyn gyda'i nofel chyntaf - Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter yw gwestai'r bennod yma. Beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Gwrandewch i ddarganfod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 60 - Pererindod i'r Sied 12.10.2022 1:00:39
Carreg filltir wrth i'r podlediad cyrraedd 60 pennod, ac i Llwyd Owen a Leigh Jones recordio pennod yn y cnawd gyda'u gilydd am y tro cyntaf erioed o'r sied chwedlonol yn Rhiwbeina. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 59 - Tomos Williams 06.10.2022 1:01:45
Gwestai cyntaf wrth ddod yn ôl atoch chi bob wythnos yw'r cerddor jazz a chyflwynydd Radio Cymru, Tomos Williams. Chwaraewr trwmped gyda Burum Khamira a llwyth o grwpiau eraill - beth yw'r pethau bach sy'n cadw Tom yn hapus? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 58 - Bola Llwyd 28.09.2022 49:17
Ar ôl seibiant bach (mawr), mae'r bois yn ôl bob wythnos o hyn ymlaen! Llwyd Owen a Leigh Jones yn rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Roedd bola Llwyd yn gwneud synnau drwy'r holl recordio o'r bennod yma - gwrandewch yn astud i weld os ydych chi'n gallu clywed y grwgnachau!
Pennod 57 - Gwylanod Cefndirol 17.08.2022 43:31
MAE'R BOIS NÔL! Pennod fach i'ch cadw chi'n gynnes cyn i Llwyd Owen a Leigh Jones dychwelyd i bodgrefftio bob wythnos o fewn mis. Dyna addewid cyhoeddus! Ond, beth sydd wedi bod yn eu cadw nhw'n hapus dros y tair mis diwethaf?
Pennod 56 - Homes Under The Hammer 12.04.2022 41:52
Mae Llwyd a Leigh yn ôl (am y tro) i siarad am eu absenoldeb ac wrth gwrs y pethau bach sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw ers y bennod diwethaf. Sôn am Gymreictod (wrth gwrs), nofelau (wrth gwrs) a llond llwyth o falu awyr. Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 55 - Dogging 16.03.2022 44:45
Llwyd Owen a Leigh Jones unwaith yn rhagor yma i siarad am y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Ffilms am gomics, adar, safleoedd dogging. Jyst rhai o'r man bethau hapus yn y bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 54 - Iwan ap Huw Morgan 09.03.2022 1:01:57
Cyn i chi wrando i'r bennod yma, ewch nol i wrando ar y bennod o hen bodlediad Llwyd gyda'r gwestai arbennig yma, Does Dim Gair Cymraeg am Random - trwy cyd-ddigwyddiad llwyr pennod 54 o hynny yw hi hefyd! Felly pwy yw Mr 54? Cerddor sy'n rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw Woodooman, iachawr a rhywun sydd wedi byw bywyd lliwgar iawn, Iwan ap Huw Morgan. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidia...
Pennod 53 - Ffion Dafis 06.03.2022 49:27
Gwyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld S4C dros yr ugain mlynedd diwethaf, a bronnau cyfarwydd i unrhyw un wnaeth weld bws Cymreig ym 1999. Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu a theatr, pwy arall ond Ffion Dafis?! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 52 - Slebs 23.02.2022 42:03
Yr wythnos yma mae Llwyd a Leigh yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. O.N. Mae Leigh yn drysu rhwng Clapham Common a Hampstead Heath wrth siarad am Ron Davies (cofio fe?!). Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 51 - Sara Huws 16.02.2022 52:55
Hanesydd, gwyneb cyfarwydd fel cyflwynydd teledu a chodwr pwysau, Sara Huws yw gwestai'r bennod yma! Ond sawl iaith mae hi'n siarad, sawl gratiwr caws sydd ganddi a beth yw'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac Instagram: instagram.com/YsbeidiauHeulog RHYBUDD: Iaith anweddus!
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.