Ysbeidiau Heulog
Ysbeidiau Heulog
Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 100 - Rhys Mwyn 09.08.2023 1:17:11
Doethineb a streuon gydag un o arwyr Llwyd Owen a Leigh Jones. Yn gynt o'r Anhrefn a'r label recordiau o'r un enw, llais cyfarwydd ar Radio Cymru bob nos Lun... Yr un a'r unig Rhys Mwyn yw gwestai'r CANFED BENNOD. Ni fydd pennod arall am amser hir iawn wrth i Llwyd a Leigh gamu'n ôl, felly mwynhewch, gwrandewch ar hen bennodau, a DIOLCH ANFERTH I CHI I GYD AM WRANDO A CHEFNOGI. Cyfranwch at ein co...
Pennod 99 - Hufen iâ gyda fflêc 02.08.2023 47:57
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn... am y tro olaf am sbel. Pennod 100 bydd yr olaf am sbel wrth i'r ddau egluro yn y bennod hon beth sy'n digwydd, yn ogystal â chael laff wrth gwneud. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddu...
Pennod 98 - Rhydian Bowen Phillips 26.07.2023 56:32
Gwyneb a llais cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi cymryd sylw o'r cyfryngau yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf. Mae Rhydian Bowen Phillips yn gyn-aelod o foiband mwyaf Cymru, ond eisioes yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru 2 ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD...
Pennod 97 - Seren Morgan Jones 22.07.2023 1:10:05
Arlunydd aruthrol Aberystwyth, Seren Morgan Jones yw gwestai'r bennod hon. Mae hi'n siarad am ei gwaith, am etifeddiaeth ysbrydol, ac wrth gwrs am y pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 96 - Eddie Ladd 05.07.2023 56:28
Sgwrs ffraeth, difyr a dwys gyda'r dawnsiwr, ffarmwr, a chyn-gyflwynydd y gyfres eiconig Fideo 9 - Eddie Ladd! Mae hi'n rhannu'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 95 - Jon Gower 28.06.2023 1:14:41
Neb arall ond awdur toreithiog ac arobryn i gadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Cylchdaith rownd pen Jon Gower wrth iddo siarad am y pethau bach sy'n ei wneud yn hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 94 - Ed Holden 21.06.2023 51:28
Artist unigryw ac adnabyddus i unrhywun sydd wedi cymryd sylw o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg dros y chwarter canrif diwethaf. Cyn-aelod o fandiau megis Pep Le Pew a Genod Droog, ond eisioes yn artist unigol blaenllaw yn recordio fel Mr Phormula - Ed Holden yw gwestai'r bennod yma! Ond tybed, beth sy'n cadw'r bît-bocsiwr a rapiwr yn hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch...
Pennod 93 - 3 Hŵr Doeth 14.06.2023 1:02:59
Sgwrs gyda ddau o aelodau'r grŵp rap rhagorol o'r gogledd, 3 Hŵr Doeth - Boi Ma ac Yr Arch Hwch. Pennod sydd ddim yn siomi wrth i'r ddau rhannu'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus. Dewis Boi Ma: https://www.youtube.com/watch?v=xJYfOGb3sKw Gwyliwch fideo newydd y ddeuawd sydd yn sarhau ar GIGS: https://www.youtube.com/watch?v=ogigjUvxjGE Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynw...
Pennod 92 - Heledd Watkins 07.06.2023 49:35
Y gantores o'r gorllewin, aelod y band HMS Morris, Heledd Watkins yw gwestai'r bennod yma. Gwyliwch ei fideo newydd i 'House' yma... https://www.youtube.com/watch?v=QG5XYMV-VUs Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 91 - Gav Murphy 31.05.2023 59:23
Gwestai'r bennod yma yw'r newyddiadurwr gemau, ffrydiwr, kebab-garwr, a phodgrefftiwr, Gav Murphy! Gwrandewch arno'n rhannu'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 90 - Dyfed Edwards 24.05.2023 55:47
Awdur hir-sefydlog ym myd llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag awdur arswyd yn yr iaith Saesneg o dan y nom de plume Thomas Emson, gwestai'r bennod yma yw Dyfed Edwards. Llwyd Owen a Leigh Jones sydd yn trafod y pethau sy'n cadw'r awdur yma'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 89 - Nepotistiaeth 17.05.2023 50:07
Be sy'n cadw Llwyd a Leigh yn hapus yr wythnos yma? Sgyrsiau am TGAU, yfed dan oed, teledu o Awstralia, Leigh wastad ar ei wyliau a mwy. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 88 - Elliw Gwawr 10.05.2023 1:03:19
Gohebydd gwleidyddol, llais cyfarwydd ar gyfryngau Cymru, awdur llyfrau coginio, a ffan mwyaf y podlediad hon... Elliw Gwawr yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Penod 87 - Yma O Hyd 03.05.2023 46:36
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bychain sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yr wythnos yma. Gan gynnwys sgyrsiau am Yma O Hyd, Wrecsam, snŵcer, mynd ar y sesh ayyb. Dyma'r 'reaction video' sy'n cael ei drafod ar ddechrau'r bennod... https://www.youtube.com/watch?v=35vm7wpWgHg Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYB...
Pennod 86 - Gai Toms 26.04.2023 1:06:16
Un o gerddorion gorau Cymru gyda gyrfa sy'n estyn ar draws tair degawd - aelod o Anweledig, Mim Twm Llai ei hun, Gai Toms yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 85 - Bruce Bannau Brycheiniog 21.04.2023 53:29
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod Prydeindod, Cymreictod, enwau Cymraeg, Michael Sheen ac, wrth gwrs, y pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Fideo Michael Sheen yn cyhoeddi enw uniaith Gymraeg parc cenedlaethol y Bannau Brycheiniog... https://www.youtube.com/watch?v=m7fcRyIY3EQ Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iait...
Pennod 84 - R.Seiliog 12.04.2023 54:32
Cerddor sydd wedi bod wrthi ers rhyw dwy ddegawd yn barod, Robin Edwards - ag adnabyddir yn well fel R.Seiliog - yw gwestai'r bennod yma. Mae un o'r pethau sy'n ei wneud yn hapus wir wedi newid bywydau Leigh a Llwyd. Am bennod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 83 - Elin Parisa Fouladi 05.04.2023 47:40
Y cerddor, cantores, a chyflwynwraig Elin Parisa Fouladi yw gwestai'r bennod yma yng nghwmni Llwyd a Leigh. Efallai eich bod chi wedi gweld hi ar Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Iran ar hyn o bryd, ond beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 82 - Clociau 29.03.2023 54:10
Mae'r clociau wedi symud ymlaen! Haleliwia! Ond beth sy'n cadw Llwyd Owen a Leigh Jones yn hapus ar y bennod yma? Sgyrsiau am Star Wars, celf, a lot mwy! Ambell ddolen i fynd gyda'r bennod... Bill Murray yn canu thema Star Wars: https://www.youtube.com/watch?v=ljiVRV5B5i8 Grim Art Group: https://twitter.com/GrimArtGroup Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: tw...
Pennod 81 - Aneirin Karadog 23.03.2023 1:02:35
Prifardd, cerddor, rapiwr, cyflwynydd a lot mwy, Aneirin Karadog yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus? Clywch hefyd stori gan Leigh am y tro wnaeth e fentro i fyd reslo. Nodyn: Roedd nam wrth recordio oedd yn golygu bod Llwyd a Leigh methu clywed chwiban dun Aneirin, ond roedd hi wedi cael ei recordio'n glir. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynw...
Pennod 80 - Ceilliau 16.03.2023 55:06
Llwyd Owen a Leigh Jones yn ôl i drafod y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus gan gynnwys sgyrsiau am iechyd, alcohol ayyb. Dyma'r sgwrs rhwng Eddie Ladd a Brychan Llŷr mae Llwyd yn siarad amdano: https://www.youtube.com/watch?v=vhrv_vPSr0M Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 79 - Beti George 08.03.2023 59:17
Gall ambell westai o'r gorffennol ar y podlediad yma cael eu disgrifio fel "trysor cenedlaethol", ond does dim un ohonyn nhw yn yr un cynghrair â gwestai'r bennod yma. Nid oes angen cyflwyniad arni o gwbwl. Diolch aruthrol i'r chwedlonol Beti George am rannu urddas i'n podlediad bach ni. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD...
Pennod 78 - Hetwysgwyr 02.03.2023 44:24
Ar ôl wythnos ar ei wyliau mae Leigh yn dychwelyd i sgwrsio gyda Llwyd wrth i'r ddau sôn am yr awen, yn ogystal â'r pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 77 - H.Hawkline 23.02.2023 59:51
Roedd Leigh ar ei wyliau pan ddaeth y cyfle i Llwyd sgwrsio gyda H.Hawkline (aka Huw Evans), felly dyma sgwrs bach hyfryd, ffraeth ac agored am waith a bywyd y cerddor ac artist amryddawn cyn iddo deithio'r byd yn cefnogi ei albwm newydd Milk For Flowers. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 76 - Richard Elis yn dychwelyd 16.02.2023 49:48
Y gwestai cyntaf i ddychwelyd i'r podlediad, yr anfarwol, y pengratiwr ei hun, Richard Elis sydd yn ôl ar Ysbeidiau Heulog i drafod y pethau bach sy'n ei gadw e'n hapus. Clasur o bennod, ond roeddech chi'n gwybod hynny cyn gwrando! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.