Ysbeidiau Heulog
Ysbeidiau Heulog
Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 25 - Plismona Hwn! 25.08.2021 48:15
Ein pumed pennod ar ugain - y jiwbilî arian. Recordiwyd y bennod yma diwrnod cyn i Charlie Watts farw ond mae Lllwyd yn llwyddo i ddarogan ei farwolaeth. Sbwci. Pynciau llosg yr wythnos hon/hwn/yma ydy plismyn iaith, safonau'r Gymraeg Twitter legends (a gewch chi shout out?)a chludfwyd. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/Ysbeidia...
Pennod 24 - Elis James 18.08.2021 1:09:59
Comediwr, ysgrifennwr, actor, podlediwr a darlledwr - oes diwedd i ddawniau'r anfarwol Elis James? Beth sy'n cadw comediwr ail mwyaf enwog Caerfyrddin yn hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 23 - Y Gachdafarn 11.08.2021 57:53
Mae Llwyd a Leigh yn ôl i siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Gan gynnwys: meini hirion Sir Fôn, heriau corfforol magu plant, sgwrs mwyaf agored Leigh am ei iechyd meddwl dros yr wyth mis diwethaf, ac os arhoswch chi reit tan y diwedd, fe fyddech chi'n clywed cath Leigh! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilyn...
Pennod 22 - Gareth Bonello 04.08.2021 1:15:02
Cerddor a chantor, carwr adar, ac yn ôl y sgwrs yma, rhyw faint o hanesydd cymdeithasol hefyd. Gareth Bonello (aka The Gentle Good) yw gwestai'r wythnos yma mewn sgwrs sy'n hedfan heibio wrth drafod yr arddull creadigol, pêl-fasged, traddodiadau werin a'r iaith Gymraeg. Mae ei albwm diweddaraf gyda'r Khasi-Cymru Collective ar gael nawr yn y mannau arferol (ac ar Bandcamp: https://thegentlegood.ban...
Pennod 21 - Mirain Iwerydd 28.07.2021 42:46
Gwyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn - Mirain Iwerydd yw gwestai'r bennod hon. Ond beth sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 20.5 - Dr Lowri Bowen (Rhan 2) 25.07.2021 23:40
Pennod bonws (pennod 20.5? Ugain a hanner? Ugain ychwanegol?) gyda ail hanner ein sgwrs gyda Dr Lowri Bowen am ei hamser hi yn gweithio fel meddyg yn Antarctica. Gwrandewch i ran cyntaf y sgwrs ym mhennod 20, ac am hanes anghredadwy Ernest Shackleton ym mhennod 18. Cofiwch i'n dilyn ni ar Twitter (Mae Lowri wedi rhoi lluniau wnaeth hi dynnu o Antarctica i ni rhannu): https://twitter.com/YsbeidiauH...
Pennod 20 - Dr Lowri Bowen 21.07.2021 59:52
Pennod arbennig iawn yn cynnwys rhan gyntaf ein sgwrs gyda Dr Lowri Bowen - meddyg bu'n gweithio yn yr Antarctig am deunaw mis. Mae Lowri yn rhannu streuon am ei phrofiad hi ac am fywyd dydd i ddydd yn un o lefydd mwyaf ynysig ac anghysbell y byd. Mae Llwyd a Leigh yn cael sgwrs bach wedi hynny am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ddiweddar hefyd (wrth gwrs). Dilynwch ar Twit...
Pennod 19 - Lewis Owen (aka Bendigaydfran) 14.07.2021 1:03:42
Dylanwadwr a main man TikTok Cymraeg, Lewis Owen (aka Bendigaydfran) yw gwestai'r wythnos yma. Os ydych chi wedi gweld unrhyw beth ar-lein am annibyniaeth Cymraeg, mae'n siwr eich bod chi wedi gweld ei wyneb. Yn y bennod yma mae Lewis yn siarad am y pethau bach sy'n ei wneud e'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/Ysbeidiau...
Pennod 18 - Oes Bluetooth yn Sir Benfro? 07.07.2021 1:10:45
Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Gan gynnwys: Sir Benfro, FREEDOM DAY (F*CK YEAH), Leigh yn bathu gair lluosog newydd am "pabell", Llyfr y Flwyddyn ac alldaith Ernerst Shackleton. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD:...
Pennod 17 - Rufus Mufasa 30.06.2021 1:11:17
Rapiwr, bardd, awdur a jyst corwynt creadigol ysbrydoledig yn gyffredinol - gwestai'r bennod yma ydy'r unigryw Rufus Mufasa. Llwyd Owen a Leigh Jones sy'n holi iddi am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 16 - Gwerddon Mewn Anialwch 23.06.2021 45:06
Mae Llwyd a Leigh yn talu teyrnged i'r diweddar David R. Edwards - rhywbeth mae'n siwr bydd Dave Datblygu wedi casau. Beth sydd yn cadw'r ddau yn hapus yr wythnos yma? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 15 - Gruff Rhys 16.06.2021 52:48
Oes angen cynflwyniad ar gyfer un o bobl mwyaf blaenllaw Cymru? Cerddor, canwr, awdur, gwneithurwr ffilmiau, anifail blewog... Gawn ni hyd yn oed fentro... trysor cenedlaethol?! Gruff Rhys sy'n rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn y bennod angholliadwy yma o Ysbeidiau Heulog. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.co...
Pennod 14 - Y Gwreiddiol a'r Gorau 09.06.2021 52:40
Llwyd a Leigh yn ôl i drafod llwyth o bethau gan gynnwys: neges at gynhyrchwyr Radio'r BBC (aka lladron di-egwyddor), iechyd/salwch meddwl, coed drewllyd, mynd yn hen, gigiau byw a mwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 13 - Siôn Tomos Owen 02.06.2021 1:02:09
Awr yng nghwmni'r cyflwynydd, arlunydd, bardd a token person y cymoedd ar S4C, Siôn Tomos Owen, wrth iddo ddiddanu a rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 12 - Tynged y Ffaith 26.05.2021 53:04
Cyn i Llwyd a Leigh siarad am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw'r wythnos yma, mae nhw'n trafod twpdra Cymry Big Brother a'u sylwadau sarhaus dros yr iaith yn ogystal â'r heriau sydd i fagu plant trwy'r Gymraeg tu hwnt i Glawdd Offa. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 11 - Steff Dafydd 19.05.2021 54:44
Prif leisydd y band Breichiau Hir, dylunydd graffeg o fri (gan gynnwys gwaith celf Ysbeidiau Heulog) ag artist sy'n rhyddhau gwaith o dan yr enw Penglog, Steff Dafydd sydd yng nghwmni Llwyd Owen a Leigh Jones yr wythnos yma, ond beth yw'r pethau bach sy'n gwneud Steff yn hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: ht...
Pennod 10 - Natureboys 12.05.2021 1:00:07
Gan ei fod hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl mae'r bois yn trafod eu iechyd meddwl nhw a'r pethau naturiol sy'n codi ysbryd. Mae Leigh yn trafod y peth fydd yn gwneud iddo droi i mewn i gammon, a Llwyd yn dewis mwy o gerddoriaeth! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 9 - Elin Fflur 05.05.2021 57:54
Ar ôl cael ei blackmailio gan Llwyd ar deledu byw, dyma chi bennod sydd yn hollol angholladwy yng nghwmni'r trysor cenedlaethol, Elin Fflur. Efallai hon oedd y bennod mwyaf hwyl i'w recordio hyd yma. Mae Elin yn dod â'r laffs a'r straeon ddoniol wrth iddi rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi. Well i chi beidio colli'r bennod yma, mae hi'n glasur! Cyfranwch at ein costiau: http...
Pennod 8 - Kenny G: Sax Offender 29.04.2021 53:56
Yr wythnos yma mae Llwyd a Leigh yn llawenhau yn ail-agoriad tafarndai, comiwnyddion, acenion Caerdydd pur, pianos a Kenny G. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 7 - Sian Eleri 21.04.2021 51:03
Pennod gyda gwestai'r wythnos yma - a phwy gwell i rannu ei chwmni na'r DJ Sian Eleri? Llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio 1 yn ogystal â rhai Radio Cymru, beth sy'n rhoi gwen ar ei hwyneb hi yn ystod y cyfnod hollol honco hwn, a be' sy'n gwneud iddi colli'r plot yn llwyr wrth siarad efo Llwyd a Leigh? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://tw...
Pennod 6 - Aur Pur 15.04.2021 47:57
Mae Llwyd a Leigh yn #weeklywankers o hyn ymlaen. Mwy o bethau bach yn dod atoch chi yn fwy aml nac o'r blaen. Mae pynciau trafod y bennod yma yn cynnwys yfed alcohol a mynd ar ddeiets a gemau cyfrifiadur a llwyth o bethau eraill wrth i'r ddau malu awyr unwaith eto. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iait...
Pennod 5 - Esyllt Sears 08.04.2021 1:37:15
Y comedïwr Esyllt Sears sydd yn rhannu'r pethau bach gyda Llwyd a Leigh sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi. Sgyrsiau mawr am bethau bach gwirion. Diolch fil i R.Seiliog am helpu gyda problemau technegol wrth olygu'r bennod yma ac am ei wneud yn fymryn fwy wrandawadwy! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iai...
Pennod 4 - Yws Gwynedd 23.03.2021 1:39:30
Y cerddor, canwr a phensaer o fri Yws Gwynedd sydd yn ymuno â Llwyd a Leigh yn y bennod yma i drafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddo yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Pynciau llosg: galar, Pavarotti, Good Morning From Hell, caws, garddio, mwydod, pyramids. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBU...
Pennod 3 - Ani Glass 06.03.2021 1:20:45
Y cerddor a chantores arobryn Ani Glass sy'n sgwrsio gyda Llwyd a Leigh y tro yma am y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi. Pynciau llosg - Lluniau Rich, Jon Pountney, y gofod, Gareth Bale ac aeliau anhygoel Ani! Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Pennod 2 - Huw Stephens 18.02.2021 1:22:31
Beth yw'r pethau bychain sy'n gwneud bywyd Huw Stephens yn hapusach? Mae'r bennod yma hefyd yn cynnwys sgwrs ddwys rhwng Llwyd a Leigh am eu iechyd meddwl. Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: https://twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.