Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Author

Haclediad

Category

Technology

Podcast website

haclediad.cymru

Latest episode

Jun 24, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Episode 35: 35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 21.02.2014

Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch! *Dolenni i ddod… The post Haclediad #35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad .

Episode 34: 34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014 10.02.2014

Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar LG Satya Nadella Haciaith 2014 Dolby Vision CES Sen.se Mother Hysbyseb Hive The post Haclediad #3...

Episode 33: 33: Ho-ho-haclediad 09.12.2013

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio cadw’r rhestr ‘Dolig lawr o dan £10,000 am unwaith. Hyn oll a mwy yn eich rhifyn Nadoligaidd sgleiniog o...

Episode 32: 32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal 08.10.2013

Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch! The post Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad .

Episode 31: 31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru 02.09.2013

Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers Guide – The Verge Gwladigidol The post Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfA...

Episode 30: 30: Yn Fyw o’r M@es 05.08.2013

Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call. Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o prosiectau Raspberry Pi. Wedyn mae na sgwrs arall am sefyllfa elyfrau yng Nghymru ar ôl lawnsiad app...

Episode 29: 29: Yr Un Preifat 16.07.2013

Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd llawer, llawer mwy i’ch clustiau chi fwynhau ar y traeth/Costa del Ardd Gefn yn Haclediad 29! The p...

Episode 28: 28: Cynhadledd-I/O 29.05.2013

Henffych! Dyma i chi rifyn cynta’r “hâf” o’r Haclediad. Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn sôn am gynhadleddau di-ri: cynhadledd Creadigidol S4C oedd yn ceisio cael gafael ar ddyfodol digidol ein sianel genedlaethol ac yna cynhadledd Google I/O, gyda yna lwyth o bethau newydd i’w gweld gan y cewri chwilota a hysbysebu, wel, heblaw am eu cofnodion treth hynny ydi. Fe gyfarfu Bryn â’i arwr, y Nerdist a f...

Episode 27: 27: ‘Home’ 12.04.2013

Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins , a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad! Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR...

Episode 26: 26: Yr un byw na fu21: Hei Mistar Urdd! 13.02.2013

Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy ar Haclediad #26! Dolenni Gareth Morlais twtlol.co.uk Chwe uchelgais ar-lein i’r...

Episode 25: 25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012 18.12.2012

Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am weld yn yr hosan yna ddiwedd mis Rhagfyr? Byddwn hyn edrych mlaen yn ogystal i ddigwyddiad y flwyddyn – Hacio’r Ia...

Episode 24: 24: Yr un efo Elliw! 23.10.2012

Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach . Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei gorau i gadw trefn. Gadewch i’r rhefru ddechrau… O.N. Mi gafwyd hwn ei recordio pythefnos yn ôl, oherwydd materio...

Episode 23: 23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 20.08.2012

Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd [1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes [1] yn ogystal â llei...

Episode 22: 22: Yr un 7 modfedd 23.07.2012

Yn Haclediad 22 (yr un olaf cyn Hacio’r Iaith yn yr eisteddfod), byddwn ni’n busnesa ar ddatblygiadau tech Google yn eu cynhadledd I/O, pwt ar S4C yn rhoi’r gorau iddi ar clirlun, tabled newydd sgleiniog y Microsoft surface – ac wrth gwrs edrych mlaen i’r Haclediad byw yng ngŵyl dechnoleg yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Diolch am wrando, a falle welwn ni chi yn y brifwyl! Dolenni Google I|O Y Rhyf...

Episode 21: 21: Hei Mistar Urdd! 03.06.2012

Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag Iestyn, Bryn a Sioned i’ch diddanu dros y penwythnos hir yma. Joiwch! Dolenni Ap Ur...

Episode 20: 20: Yr un am y Ffôns a'r Porn 09.05.2012

Amser maith yn ôl, mewn bydysawd pell i ffwrdd (well, Dydd Gwener ddiwethaf), ddaru ni (Sioned, Iestyn a Bryn) ymgasglu i drafod y digwyddiadau yn y byd technegol… dan drafodaeth oedd Ffôn newydd Samsung, sydd ddim mor hot ‘na ny. Cynlluniau’r llywodraeth i flocio porn sa bod ni’n gofyn amdano a thomen o podlediadau a fodlediadau newydd sydd wedi cael ei lansio yn y misoedd diwethaf. Diolch i Gafy...

Episode 19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!) 07.04.2012

Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned ( @llef ) Bryn ( @bryns ) ac Iestyn ( @iestynx ) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny. Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael...

Episode 18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio” 28.02.2012

Helo wrandawyr! Ar yr Haclediad mis yma – bydd Bryn, Iestyn a SIoned yn trafod sut aeth Hacio’r Iaith 2012 (ardderchog, wrth gwrs), dyfodiad Sianel 62 i’ch dyfeisiau bob nos Sul (darlledir y chwyldro arlein?), deddfwriaeth ACTA (yda ni am gael ein cicio oddiar y we, eto?) dim .cymru a sibrydion iPad 3, ffiw! Yng nghanol hyn i gyd bydd mwydro, dadlau a gwylio fideos doniol am Samsung (wele yma , ac...

Episode 17: Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012 07.02.2012

Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r  gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses! I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn A...

Episode 16: Yr Un Sâl! 09.01.2012

Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn...

Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C 20.12.2011

Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol . Mae Rhodri ap Dyfrig ( @nwdls ), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test , gwrandewch i glywed y ddyfarniad. Nadolig Llawen iawn hefyd i chi gyd sy’n gwrando, a diolch mahwsif i...

Episode 15: Yr un Gaeafol 05.12.2011

Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn ( @Bryns ), Iestyn ( @Iestynx ) a Sioned ( @llef ) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!)....

Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) 07.11.2011

Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) , y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned , Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa , gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn u...

Episode 13: Tân ac Afalau 07.10.2011

Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd, ond s’neb yn poeni am hynna, ‘ni gyd yn trio gadael beth bynnag! Dole...

Episode 12: Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin) 06.09.2011

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref. Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr,...

Listen to the Yr Haclediad podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.