Haclediad
Yr Haclediad
Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Sherferherfer 24.06.2026 2:51:52
❄️ Mae Haclediad Mehefin yma i hitio chi fel chwa iâ ynghanol heatwave 2026 🥵 Tarwch y podlediad yma arno i glywed y diweddaraf o WWDC26, rant unhinged Sioned am y ban social media i rai dan 16 (newyddion da, ond tynnu’r cwmnïau off y bachyn) ac ymgais aflwyddiannus Bryn i ynganu enw diod Iest (all time bit!). Ffilmdiddim y mis ydy’r hir ddisgwyliedig Alita: Battle Angel - neu Llygaid Anime in Re...
Podslop 31.05.2026 2:49:37
🥵 Wrth i’r gwres fynd chydig yn nyts, gadewch i Haclediad mis Mai chillio chi allan efo cwpl o oriau o’r drafodaeth tech orau allan yna* *Yn y Gymraeg obvs Mis yma bydd Iest, Sioned a Bryn yn trafod cysyniad podslop, gwenwyno eich data i ddrysu AI a’r syniad bo ni wedi colli’r gallu i neud pethe mewn distawrwydd. Hyn oll a llawer llawer mwy! Ffilmdiddim y mis ydy Van Helsing - ydy hi’n adeg wirio...
Gwin Gwynfluencer 27.04.2026 2:55:24
Mae’r gwanwyn wirioneddol yma, ac wrth i’r coed flaguro a’r blodau ffrwydro mae criw'r Haclediad yma efo tusw tymhorol o farn heb ymchwil na gwybodaeth i chi gyd! Yn y bennod hon da ni’n deud tata i Tim Cook yn Apple, teimlo reit sâl wrth weld yr AI Influencer Cymraeg cyntaf a mynd i’r Vatican efo Bryn (*gweler Haclediad #90 " Pope on a Rope " am fwy o fanylion) Ffilm Pam Ddim y mis ydy’r an...
The Devil’s Bean Juice 29.03.2026 3:05:06
Mae’r Haclediad yma i efengylu ar ôl trip Bryn i Salt Lake City! Dewch i glywed y newyddion da am just pa mor creepy ydy Alexa, a pa mor bert fyddwn ni gyd yn edrych trwy filter DLSS5 😘 Bydd Iest yn gwirioni ar tech agored CorridorKey, a’r tri ohonom yn gwirioni ar dechnoleg BadgerNet i fabis Cymru 🦡 Y Ffilmdiddim ydy clasur y genre _The Great Wall _- sy’n teimlo fel ffordd i dojio trethi gan ba...
Draclediad - sponsored by Beavertree 28.02.2026 3:07:37
Mae’n awards season eto, a mae’r wobr i’r podlediad lleiaf cursed yn mynd i’r… Haclediad am unwaith!🎉 Da ni’n neidio mewn i surveillance capitalism efo Rings a robovacs, cael sgwrsio am fideo AI Psychosis Eddy Burback or diwedd, safon sŵn CDs a lansiad Tŵt Cymru 🚂 #FfilmDiDdim y mis ydy’r boncyrs o waedlyd Renfield - gyda 66% or Haclediad yn meddwl ei fod yn delight, ond pwy fydd isie rhoi stake...
Brought to you by Smellspace 31.01.2026 2:27:47
Blwyddyn newydd… checks notes dda i chi Hac-ffans! Mae Bryn, Iestyn a Sioned yn ôl i fynd a chi mewn i 2026 yn y ffordd orau posib - efo cursed episode arall a ffilm wnaeth ni’n actively blîn 😆 Ni’n trafod bits a bobs o newyddion, just pa mor sâl mae symudiad robots Boston Dynamics yn neud Sioned ac AI induced psychosis… wel mi nath Bryn a Iest recordio 30 munud wych arno, tra oedd GarageBand Sio...
Nadolig Nyrrê 24.12.2025 3:18:24
🎄Nadolig llawen a diolch am sdicio efo ni am flwyddyn arall hac-ffans! Mae'r criw yn mynd mewn i 2026 yn meddwl am gorau a gwaethaf 2025 - ac yn esbonio beth yn union ddigwyddodd i lais Iest yn y bennod diwethaf. Ffilmdiddim y mis ydy dryswch emosiynol Madame Webb - y ffilm sy'n gofyn 'just pa mor checked out allith un prif gymeriad fod?' Diolch o waelod calon i Iestyn am olygu'r sioeau, achub ni...
Haclediad v Arnie 30.11.2025 2:52:12
Mae'r oerfel wedi dod o'r diwedd, pa ffordd well i'w guro fo na lapio dy hun mewn blanced a gwrando ar tri ffrind yn trafod tech? Bydd Iest, Sions a Bryn yn herio Grokipedia, dysgu bod Siemens Llanberis yn thing, neidio ar yr Affinity trên a trio gweithio allan sut mae Disney am stopio bobl fod yn sglyfs pan rown nhw generative AI ar Disney+😣 FfilmDiDdim y mis ydy'r topical Running Man o 1987 - y...
Shite Night 29.10.2025 3:02:12
Helo Hac-fans, chi'n barod am bennod brawychus mis Hydref? Achos doedd Iest druan ddim, felly ymddiheuriadau am yr ysbrydion technegol ar ei sain o yn ystod y bennod 🙇👻 Byddwn ni'n trafod llwyth o bethau mis yma - Mapio Cymru, Data Centre posib i Gaernarfon, LLM Cymraeg, a gredwch chi fyth - actual adolygiad tech newydd gan Sioned o bawb! Y #FfilmDiDdim ydy Fright Night o 1985 - ydy o'n llanast...
A View to a Rhyl 05.10.2025 2:42:04
Croeso i Haclediad 150… (go iawn tro ma) ymddiheuriadau am recordio dros 400 awr o’r absoliwt nonsens yma dros y blynyddoedd 😆 All-good-vibes ydy’r amcan mis yma, dim ond chydig iawn iawn o AI spiraling, lot o atgofion neis, a barn Iest am liquid glass newydd sgleiniog Apple. Hefyd! FfilmDiDdim wael/wych am ddyddiau cynnar Silicon Valley, A View to a Kill… Pennod Bondigrybwyll arall amdani! Diolc...
Such Proffesiynoldeb, Much Safon 04.09.2025 2:49:29
🎒Tymor newydd, Haclediad newydd! Pennod ola desperate yr haf o’r Haclediad sy’n dod atoch chi heddiw, diolch i olygu medrus Iestyn Lloyd ar fferi i Iwerddon (dedication ar y diawl Iest, nais won). Bydd Iestyn, Sions a Bryn yn speedrunio straeon tech yr haf - Kobo 🤝 Instapaper, symud searches ni gyd draw i Kagi, deud helo i browser newydd Dia, llanast recordio, bywyd Steve Wozniak a llawer mwy! P...
Pre Haclediad Syndrome 27.07.2025 2:39:29
Mocktails, Grocktails a Donkey Dong Bananza - hyna i gyd a mwy ar bennod hafaidd arall o’r Haclediad! Bryn sy’n mynd â ni trwy data breaches llywodraeth Prydain, Iest sy’n rhoi barn artist ar ddefnydd Netflix o generative ᴀɪ a mae Sioned actually yn yfed diod classy am unwaith! Ffilmdiddim y mis ydy’r surprisingly diddanol Prince of Persia , byddwch yn barod am Alfred Molina chwyslyd yn yr anialwc...
Switch, Plîs 30.06.2025 3:01:35
Croeso i big Summer Blow Out yr Haclediad! Bydd Bryn, Iest a Sions yn mynd nôl i wreiddiau'r sioe mis yma, efo actual tech review go iawn o'r Nintendo Switch 2 🎮 Hefyd bydd 'na newyddion pam bo pawb yn flin efo Duolingo, ffrind y sioe Carl M yn cyflwyno dyfodol digidol i'r Senedd, a Ffilmdiddim games-aidd - Assassin's Creed. Diolch am eich cefnogaeth, cofiwch ollwng newid mân yn y pot Ko-fi os ch...
Talk Hard: Pretty Bad Case of Being Cut in Half 02.06.2025 2:50:23
Craciwch y golf claps na allan am bennod hafaidd o'r Haclediad! Datblygiadau dirgel AI sy’n mynd â bryd Sioned, Iestyn a Bryn mis yma - romcom y degawd gyda teaser am “rhywbeth” gan Sam Altman a Jony Ive, a guest appearance gan Nick Clegg i roi chi off eich swper. Yn wahanol i’r arfer mae’r criw wedi gwylio ffilm actually da ar gyfer y #Ffilmdiddim - y music biopic i ladd y genre (wrth ei dorri yn...
Sean a'i Scheepy Shwetah 29.04.2025 3:13:20
Croeso i Haclediad mis Ebrill! Mae Bryn, Sions a Iestyn nôl efo mwy o farn heb ymchwil na gwybodaeth 👉 Tro ma, ni'n cadw llygad ar y Broligarchy trwy Meta Raybans, trafod pa mor sbwci o gywir oedd Her (2012) am emotional affairs efo AIs ac wrth gwrs yn gwylio Ffilmdiddim am ddim :- ydy Sioned yn gywir bo ni wir ddim yn gwbod pa mor dda oedd pethe yn 2003, neu yd The League of Extraordinary Gentle...
Con-boocha 06.04.2025 2:25:26
'Ble mae'r Haclediad diweddaraf di bod?' da ni'n clywed chi'n holi. Wel, mae rhediad o cursed episodes wedi torri cynhyrchydd, boi sain ac enaid y podlediad - so ddefnyddion ni'r sweet sweet arian sponcon i anfon Iest off ar meditation retreat tra bo Bryn a Sioned yn ffaffian am loose leaf tea neu rw nonsens dosbarth canol arall. Ar bennod yma'r Haclediad - ni'n trafod Teslas, De-Americaneiddio ei...
The Pope’s Sgwishi Sobrasada Excorcist 02.03.2025 2:46:21
Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!) Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!) Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio...
Blunder Woman 1984 // "Haclediad is good, but it can be better" 01.02.2025 2:49:22
Croeso i flwyddyn newydd gyffrous ym myd yr Haclediad... psych! Na, just blwyddyn arall o ni'n tri yn arwain chi trwy storm💩bywyd modern 😃 Gweledigaeth AI Keir Starmer, y ban Tiktok yn yr UDA helyntion Apple TV Iest - mae hyn i gyd a mwy yn aros amdanoch chi! Ffilmdiddim y mis ydy'r lliwgar Wonder Woman 1984 - ffilm lle mae Pedro Pascal yn sianeli Raul Julia ac yn neud popeth yn well (ond dydy o...
Krampus Campus a’rJacked Santa 24.12.2024 2:50:23
🎄Nadolig llawen i chi gyd Hac-ffans! Neidiwch mewn i bennod arbennig llawn feibs hapus positif efo Bryn, Sions a Iestyn wrth i chi yrru adre /cwcio /cuddio mewn cwpwrdd dros Dolig*. 🎅 FfilmDiDdim y mis ydy Red One - sy’n gyrru Sioned mewn i existential creisis am ystyr oesol Jacked Santa. Fydd na chats am A.I. wrth gwrs, ond gan fwyaf fyddwn ni’n siarad am be da ni di joio dros y flwyddyn, ac yn...
International Spam of Mystery 28.11.2024 2:35:32
🌸YEAH BABY!🌼 Oedden ni’n meddwl bod angen rhaglen all-good-vibes ar bawb y mis yma, felly da ni wedi ditcho’r Ffilmdiddim am Ffilmi’rdim yn lle - dowch nôl i 1997 efo ni (eto?!) i wylio Austin Powers: International Man of Mystery ✌️ Wrth gwrs, mae genno ni sgwrs tech i chi cyn hyna tho, Prosiect Lleisior sy’n creu cofnod o leisiau Cymraeg i bobl sy’n eu colli, gwefan nuts Walzr.com sy’n ffendio’...
Penblwydd Morb-us i ni 28.10.2024 2:49:06
Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi’n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!🎃 Yn y bennod yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn taclo heriau ffôns i blant, ein penblwydd yn 14 (so da ni ddigon hen i gael ffôn yn ôl Smartphone Free Schools) a Ffilmdiddim perffaith o addas... ac ardderchog o dwp, Morbius 🦇🧛♂️ Mae na 14 mlynedd o’r nonsens yma wedi pasio, dio...
Môr-BADron 29.09.2024 2:50:23
Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?! FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad
The Wrong Sexy Trousers 31.08.2024 2:49:36
Mae’r haf ar ben, ond gadewch i Iestyn, Bryn a Sioned fynd â chi am un fling gwyliau arall... Mis yma da ni’n cael braw efo Pixel 9 Google, sy’n stwffio tech AI Gemini mewn i bob twll a chornel - a fyddwn ni’n gallu trystio unrhyw lun ffôn byth eto? Byddwch yn barod am Iest Test arall ar ôl trip i drio’r Vision Pro yn y siop Apple; a’r ffilmdiddim y mis ydy’r ‘camp’waith Y2K Entrapment - Abertawe’...
Mae’r Sharks ma’n In-Seine 31.07.2024 3:22:29
Clasur arall o barti haf sy'n dod i'ch clustiau chi mis yma - ymunwch â Bryn, Sions a Iestyn i ddeifio i'r Seine, teithio i Mexico a malu pob terminal Microsoft welwn ni. Outage fawr Crowdstrike, search GPT, Archif Ddarlledu Cymru a llawer mwy fydd yn yr epig yma i chi wrando ar y traeth 🏖️ Ffilmdiddim Olympaidd mis yma ydy 'Under Paris' - Sous la Seine... Sharks in Paris baby! Diolch o galon i bo...
Hac the Planet!! 29.06.2024 2:51:15
"I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod: 👉cariad Llywodraeth Cymru tuag at AI 👉S...
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.