Haclediad
Yr Haclediad
Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Buspass Nains 07.07.2017 1:15:50
Llwythwch eich podfachwyr gyda'n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. Bonws!
Bryn on the Thunder 30.05.2017 1:10:32
Ym mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™. Joiwch, rêtiwch, a gadwch i ni wybod am fwy o tech Cymraeg (o.n. Recordiwyd hwn cyn i EE agor eu c...
Spring Breykjavik 04.05.2017 1:27:54
Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd - mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. Gei di weld os ‘di’n gweithio. Mwy am Siri a Gwlad yr Iâ, newidiadau bywyd o Facebook F8, Fitbit data yn y cwrt a llwythi mwy (yn cynnwys hanner awr arall o rambles i helpu ti gysgu, iei!) Cofia roi seren-neu-bump i ni ar iTunes, ac os ti aw...
Yr Hashnods Perthnasol 05.04.2017 1:13:14
Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n hwyl!
Bŵz rhad a Nokias anfarwol 10.03.2017 1:05:32
Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn amgz…
Episode 55: Nerdageddon yn Hacio'r Iaith 2017 31.01.2017 41:11
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw! Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.
Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017 16.01.2017 36:45
Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!
Episode 53: HacDolig 2016 14.12.2016 1:35:36
O’r diwedd, mae 2016 yn dod i ben, a mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad – mae na damed lleia o tech yn y bennod, ond llwyth o bŵz a trio argyhoeddi pawb y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Ciciwch tîn 2016 efo ni, Dolig Llawen!
Episode 52: 52: Oi! Chdi! Teclyn! 14.10.2016 1:23:59
Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych i wrando a gwylio arno, ond dim amser extra i wneud hynny – joiwch! The post Haclediad 52: Oi! Chdi!...
Episode 51: 51: Parti Haf 26.08.2016 1:06:36
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth helaeth ar goctêls y noson. Ymunwch â ni am barti hâf, pam lai? The post Haclediad 51: Parti Haf appeared f...
Episode 50: 50: Canol Oed 09.06.2016 1:21:54
Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros yr hanner can rhifyn diwethaf! The post Haclediad 50 – Canol Oed appeared first on...
Episode 49: 49: Haciaith 2016 28.04.2016 44:54
Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies… The post Haclediad 49: Haciaith 2016 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad .
Episode 48: 48: OMB Haclediad arall syth bin! 13.04.2016 1:18:33
Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn arwain at Hacio’r iaith 2016 yng Nghaerdydd ar Ebrill 16, mwynhewch! The post Haclediad 48: OMB Hacle...
Episode 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap 07.03.2016 51:55
Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off ar sangiadau gwyllt – mwynhewch! Dolenni Pres Duolingo The post Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap a...
Episode 46: 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd 24.12.2015 55:20
Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz). Felly dowch, tiwniwch mewn a byddwch lawen, mae Bryn, Iestyn a Sions yn dymuno Nadolig Llawen iawn i chi a 2016 eitha gwych, diolch am wrando! Dolenni Xeno Fuji Came...
Episode 45: 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo 06.11.2015 58:25
Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r cyfranwyr. Sboilar: ddim yn enwog o gwbl) Mwynhewch a diolch am wrando! Dolenni Telsa Gwynne (1969 – 2015) Second tee...
Episode 44: 44: Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn 08.10.2015 1:10:32
Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar ar y fwydlen – mwynhewch! Dolenni Automatic ar gael (pre-order) ym Mhrydain What explains the...
Episode 43: 43: Cwcio ar Gas 21.07.2015 1:08:34
Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol. Hyn oll a llawer, llawer mwy (gan gynnwys cynhyrfu am ffwrn ryngw...
Episode 42: 42: Minilediad Haciaith 2015 06.03.2015 29:35
Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch! The post Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad .
Episode 41: 41: detox, pa ddetox? 02.02.2015 53:46
Croeso i Haclediad cyntaf eleni! Mae Ionawr yn amser i iacháu’r meddwl a chorff… neu i gario mlaen yn union fel oeddech chi, hwre! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn eich tywys yn gyfforddus mewn i 2015 wrth drafod cynlluniau brawychus y llywodraeth i fynnu gallu dad-gryptio pob neges anfonwn ni o hyn mlaen (iaics), sut beth yw Windows 10 i’w ddefnyddio a thameidiau blasus digidol eraill. O, a sut i dd...
Episode 40: 40: Bywyd yn dechrau yn Ddeugain! 02.10.2014 57:19
Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth o Windows 8 i Windows 10. Diolch am wrando am y 40 rhifyn diwethaf giang, allwn ni’m gwneud...
Episode 39: 39: Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest 05.09.2014 1:07:39
Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am NATO, llongau rhyfel ym Mae Caerdydd na Hofrenyddion Tony Stark-aidd yn y rhifyn yma, ffiw...
Episode 38: 38: tripiau haf a chips poeth 25.07.2014 1:07:15
Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau ar draethau/yng ngerddi/mewn cocktail bars ledled Cymru, joiwch! Doleni Microsoft to slash 18,00...
Episode 37: 37: Google… anghofia hi. 13.06.2014 1:11:44
Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod tech i chi joio ar y traeth/tra’n llosgi selsig yn yr ardd (sa thermostat yn helpu falle). Dolenni Iaith rh...
Episode 36: 36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad 01.05.2014 1:03:28
Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a...
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.