Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Author

Haclediad

Category

Technology

Podcast website

haclediad.cymru

Latest episode

Jun 24, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Da Di Dane DeHaan De?! 24.04.2020

Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen - ond gyda gin drytach. Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd, apps contact tracing newydd, a llwyddiant De Korea, pam fod pawb angen printers a Nintendo Switches mor sydyn… Ac wrth gwrs...

Codiad Ymyl Heddychlon 25.03.2020

Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 - ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim be. Smij o dan 2 awr o hwyl ynghwmni mêts? JUST BE CHI ANGEN! A, byddwch yn ddiolchgar na wnae...

Gin & Aptonic 28.02.2020

Ar bennod ddiweddara'r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae'r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a'r Birds of Prey - hyn i gyd a mwy ar eich hoff wast o'ch amser prin ar y blaned hon 😊

Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd 16.01.2020

Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned - byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn. Hyn oll a llawer llawer mwy ym mhennod cyntaf 2020, diolch am danysgrifio! newydd dda gan griw’r Haclediad!

9 mlynedd yn y busnes 25.10.2019

Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡 Mae'r after party yn llawn awgrymiadau anime a sci-fi i lleddfu nosweithiau tywyll yr hydref, joiwch! Diolch chi gyd sy'n tanysgrifio a gwrando - ac yn benodol i unrhyw un sy'n cyrraedd diwedd pennod 😂

Pawb at y Biji-bô! 18.09.2019

Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef / @Iestynx / @Bryns 🙏

Ffeindia dy poni mewnol 03.08.2019

Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman!

FaceBucks 26.06.2019

Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae'r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic! Diolch am danysgrifio ☺️

Huawehei! 28.05.2019

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae'r A-Gin-Da, Game/Gay of Thrones, spoilers Endgame a thollti te yn yr After parti,...

Mae Popeth Yn Ossym! 09.04.2019

Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌

Sneaky Nest a Robo-Iest 15.03.2019

Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a...

Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious 19.01.2019

Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 - bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw!

Tri Gwirod Doeth 21.12.2018

Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

Ffototal Wipeout 12.11.2018

Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth gwrs)

Toilet BlockChain 01.10.2018

Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOs12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem). Diolch am wrando – gwaeddwch ar @llef @Bryns neu @Iestynx ef...

Llyfr Glas Kobo 18.08.2018

Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi.

Yn Fyw o’r Boudoir 15.06.2018

Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest) Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n g...

Google Assiffestant 13.05.2018

Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

Zuckin’ Hell 16.04.2018

Y tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa.

Iâ Iâ Baby 09.03.2018

Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed 08.02.2018

Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn . Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

May The Port Be With You 22.12.2017

Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018! O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom: datblygiad tech gorau i ti ffen...

Drive By Sextoy Hack-lediad 18.11.2017

Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig!

iOS gafr eto? 07.10.2017

Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy!

Social Justice Warriars 08.09.2017

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. Welwn ni chi mis nesa, diolch am wrando dwds!

Listen to the Yr Haclediad podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.