Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Author

Haclediad

Category

Technology

Podcast website

haclediad.cymru

Latest episode

Jun 24, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

House of Chŵd-cci 25.04.2022

Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅 Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥 Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com e...

BMX Bryndits 27.03.2022

Mae’n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i’r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a’i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy’r ridic/hyfryd/weird BM...

Hamiltwrd 18.02.2022

Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu’r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect’ a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs’; byddwn ni’n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical’. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job...

Hei Pen Pidyn 24.01.2022

Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓 ‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆 Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff ran...

Santa-ta 2021 24.12.2021

🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍 🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod. 🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn...

Bataverse 23.11.2021

🔥Cwtshwch yn agos i’r firepit rhithiol a neidiwch mewn i metaverse yr Haclediad am bennod newydd sbon gaeafol🔥 Y mis yma bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn sibrwd y newyddion tech, gemau a diwylliant diweddaraf i’ch clustiau - yn ogystal â gwylio ffilm ARALL o 1997: Batman & Robin, bet bo chi methu aros am honna. A fydd B&R yn “Valerian Level”? Gwrandewch i ffindio allan… 🎉 Diolch enfawr i b...

Bondigrybwyll 28.10.2021

Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae’ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o’r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi’n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y cha...

Zig-a-Zig-Nah. Just nah. 19.09.2021

🍂Mae’r hydref yma, cwtshwch lan gyda Bryn, Sions a Iestyn am dipyn o Spice a llond lle o afalau… Ydi, mae’r iphone 13 yma, ma grŵp Facebook dal yn crîps a #ffilmdiddim y mis ydy’r unigryw SpiceWorld: Ai Dyma’r Ffilm Waethaf i Nhw Wylio Erioed?! Diolch am danysgrifio, gwrando a chefnogi’r Haclediad 🥰

S**t Handwich 28.08.2021

Mae’r haf yn dod i ben, ond mae gan yr Haclediad bennod mor hir â phenwythnos gŵyl y banc i chi joio... O’r teslabot, ac amddiffyn plant gan Apple i Only Fans yn banio pr0n mae na rywbeth i bawb ma — a ffilm-di-ddim sy'n lanast o franchise starter, Suicide Squad (2016) Hyn i gyd ac awgrymiadau be i wylio/darllen/gwrando am y mymryn o haf sydd ar ôl yn 2021 - diolch am wrando 😘

Iawn Cant? 30.07.2021

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i’ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o’r Haclediad! Yma byddwn ni’n trafod bach o tech (podlediad ‘Hyfryd iawn’ ar Spotify, app Newydduon S4C), bach o ethics (rhannu data iechyd) a cachlwyth o stwff da i wylio ar streaming. I topio’r cyfan, ymunwch â ni am ein trip cyntaf i fyd ffi...

Sbeshal Audio 21.06.2021

Croeso i'ch chill hang misol am tech, TV a ffilms mor wael mae nhw'n... wael?! Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️ Welwn ni chi mis nesa am bennod... 100🤯

Cream of the Cymoedd 23.05.2021

OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?” SPECIAL GUEST, na be! Mis yma, mae Bryn, Iest a Sions yn croesawu Mr Game and Watch ei hun, Gav Murphy i’r sioe! Rhan o’r RKG Video collective, yr enwog @ CymroGav ar twitter a basically y boi ma’r BBC yn ffonio i gael rwyn i siarad am ‘games a ballu’. Bydd Gav a’r criw yn siarad am SUPER MARIO BR...

Non Fungible Gojira 24.04.2021

Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn Godzilla King of the Monsters . Ydy NFTs yn morally ofnadwy, neu’n ddyfodol disglair i’r byd celf arlein? Gav Murphy vs Griff Lynch yn nhudalennau Golwg; Mae Bryn yn couch-2-5-k-io, Sions yn optio allan o consumerism tra’n joio app Newydd...

Haclediad 2: Turbo // Tweet Fighter 31.03.2021

"For You, The Day Yr Haclediad Graced Your Village Was The Most Important Day In Your Life, But For Us? It Was Tuesday.” Mae Ffilm Di Ddim y mis yma yn epic yn y genre Game-to-Movie, peak 1994: yr anhygoel Street Fighter! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned hefyd yn rowndio fyny’r newyddion ar NFTs, Bitcoin a’r bolycs yna i gyd - ond mostly pennod ar Street Fighter ydy hon. This Is Merely Superconductor El...

Flappy Engines 28.02.2021

Dewch i fwynhau * 2+ awr o tech, sgwrs a films gwael gyda Iestyn, Bryn a Sioned - mis yma da ni nôl ar y blockchain yn prynu celf, yn gamifyo ein pelvic floor muscles ac yn canu marwnad i Daft Punk (RIP Robots Trist). #FfilmdiDdim y mis yma ydy Mortal Engines, oedd i fod yn hiwj o franchise starter i dîm cynhyrchu LOTR, ond a drodd allan yn... llanast! Diolch eto am wrando, neu just am roi ni mlae...

Blew a Bara 31.01.2021

Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned 😍 Mae'r trio yma i gadw cwmni i chi am awr (neu dair) arall i drafod preifatrwydd WhatsApp, Barddoniaeth Amanda Gorman, skillz bara Bryn a gwasanaeth ffitrwydd Apple. Ffilm di ddim y mis yw'r unigryw THE MEG... ffilm gyda mwy o deifio na'r premier league - o...

NaDollyg Llawen 2020 23.12.2020

Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️ Mae na minimal tech a maximal #ffilmdiddim yn y bennod yma - yn anffodus y ffilm yna ydi Dolly Parton's Christmas on the Square , gwrandwch i weld os di'r ffilm actually yn torri Bryn 😅 Diolch i BAWB sy'n gwrando, dros y flwyddyn, y 10 mlynedd dwetha, ac i bawb sydd heb d...

Manic Pixie Dream Hars Box 22.11.2020

Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92! Yn y bennod yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod yr iPhone newydd sgleiniog sy gan Iest a sut mae gwerthu ffôns wedi cloi bellach yn anghyfreithlon; 4k restorations lliw ffilmiau o ganrif yn ôl, wal magic John King, filmiau Cymraeg ar Amazon a #FfilmDiDdim sy bron mor...

Rheg Mlynedd yn y Busnes 25.10.2020

Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad! Mae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd â chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o’r RSS feed - gan groniclo’r bŵz, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi’n newid ni ar y ffordd. Y #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae’n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i...

Pope on a Rope 27.09.2020

Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy. Hefyd, bydd Bryn yn rhoi update PWYSIG am App Covid-19 tracker yr NHS. Hyn oll ynghyd â'r #ffilmdiddim Angels and Demons - yup, oedd o just mor ofnadwy ac oedden ni'n disgwyl 😬 Diolch o ❤️ am wrando, welwn...

Apple, Epic a’r Gwyddonydd Cwerylgar 24.08.2020

🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad. Felly - joia dros 2 awr lle does dim rhaid i ti feddwl am ddim byd, yn union fel da ni wrth recordio fo 😅 Dilynwch n...

Werewolf SuperTed 24.07.2020

Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy. #Ffilmdiddim y mis yma ydy ‘Jupiter Ascending’ - ffilm arall i doddi brên gan Y Wachowskis Cofia ddefnyddio’r chapters i neidio o gwmpas y 2awr+ o pod - neu gwranda arno fo i gyd, bebyns 😆 Diolch i bawb am wrando...

Rhagflast o'r Podcast 14.07.2020

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru

Mr Mistoffe-plîs stopia 19.06.2020

Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy. Ond yn bwysicach na hynny - #FfilmDiDdim y mis yw'r anghredadwy CATS! (2019) ymunwch â ni am ganu lletchwith a ffwr f...

Crims Hems-worth it? 22.05.2020

Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad - sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy. Ond chi wrth gwrs yma i wrando ar y legendar...

Listen to the Yr Haclediad podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.