Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Author

Haclediad

Category

Technology

Podcast website

haclediad.cymru

Latest episode

Jun 24, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Episode 11: Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl 28.07.2011

Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd  iSdeddfod  gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a  gweledigaeth y buddsoddwr Roger McNamee  ar sut bydd yr haenen gymdeithasol ac HT...

Episode 10: Yr un niwlog 30.06.2011

Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple. Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’...

Episode 9: 9: Yr un [redacted] 27.05.2011

Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig ( @nwdls ) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone. Os nad yw Twitter wedi rhoi’n manylion cyswllt i’r cwrt, a’n  byddwn hefyd yn trafod effait...

Episode 8: 8: Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8! 21.05.2011

Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd y gîcs byddwn yn trafod Star Wars yn cael ei gyhoeddi ar BluRay, a’r dyfodol i ffrydio fideo. Diolch am wran...

Episode 7: 7: Yr un sy’n Magnifico 05.04.2011

Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw,  Bryn ,  Iestyn a  Sioned . Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf  Lleol.net , datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan  Golwg360 ac  erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r  iPad2 wedi...

Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw! 02.03.2011

Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’...

Episode 5: Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011 02.02.2011

O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych ( cy.umap.eu ), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni lwyth o gwestiynau gan y gynulleidfa wych, a gewch chi wrando i glywed y rhai gwirion a gwirioneddol ddidd...

Episode 4: Yr un gyda’r gwestai arbennig! 19.01.2011

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym ( @meigwilym ), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned ( @llef ), Bryn ( @bryns ), Iestyn ( @iestynx ) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a thrafod gêm iPhone Gymraeg gyntaf ‘Cerrig Peryg’ ynghyd â llawer mwy....

Episode 3: Haclediad Y Nadolig 03.12.2010

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd ( @iestynx ) Bryn Salisbury ( @bryns ) a Sioned Edwards ( @llef ) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi o...

Episode 2: Yr Ail Ddyfodiad 08.11.2010

Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2 . Unwaith eto mae Bryn Salisbury ( @bryns ), Iestyn Lloyd ( @iestynx ) a Sioned Edwards ( @llef ), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “ 2.9 Million Enemies in 45 minutes ” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-...

Episode 1: Croeso i’r Haclediad 25.10.2010

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘ Haclediad ‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad . Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury ( @bryns ), Iestyn...

Listen to the Yr Haclediad podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.