myf.cymru
Sgwrs?
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl. Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Syndrom y Ffugiwr (Imposter Syndrome) 13.03.2025 31:00
Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, yr actor a chyflwynydd Luke Davies, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrify...
Meddyliau Ymwthiol 13.03.2025 41:12
Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd? Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn archwilio’r byd cymhleth o feddyliau ymwthiol. Mae Grace, myfyriwr ym Mhr...
Hunan Ofal a ‘Burnout’ 13.03.2025 38:20
Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio Angharad, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod eu profiadau a’u safbwyntiau ar y p...
Delio Gyda Newid 13.03.2025 36:54
Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder personol drwy gyfnodau o ansicrwydd. Mae Carys, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr actores Leah Gaffey...
Procrastinadu 13.03.2025 44:37
Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gorffwys bwriadol a diogi. Ymunwch ag Elliw, myfyriwr ym Mhrifysgol Abe...
Perthnasau 08.11.2023 43:42
Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn adeg lle mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau, hen a newydd, yn newid yn gyson. Yn y bennod hon mae...
Dynion ac Iechyd Meddwl 24.10.2023 35:09
Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, yr actor Gethin Bickerton a’r cwnselydd o Brifysgol Bangor, Endaf Evans. Mae’...
Alcohol 10.10.2023 44:46
“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?” Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydi...
Hunan-Werth 26.09.2023 43:01
Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nh...
Galar 12.09.2023 41:17
Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o alaru yn gallu cael ar ein bywydau. Y fyfyrwraig Nanw Maelor, a’r cerddor Al Lewis sy’n rhannu eu profiad...
Arian a Chostau Byw 11.07.2023 45:59
Mae arian yn rhywbeth sydd wedi peri gofid i’r mwyafrif ohonon ni ar ryw bwynt yn ein bywydau. Efallai ein bod ni wedi gorwario ar gerdyn credyd neu ar noson allan, yn poeni am y gost o fod yn fyfyriwr, yn gofidio am dalu rhent, neu’n becso am faint i ni’n ennill mewn swydd, ac wrth gwrs, y twf diweddar mewn costau byw - ac mae’r cyfan yn gallu effeithio ar ein lles a iechyd meddwl. Mae’n wir i dd...
Gwneud y Pethau Bychain 27.06.2023 44:13
Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon mae Trystan Ellis-Morris yn trafod rhai o’r pethau hyn - o gelf, i redeg, i nofio gwyllt - yng nghwmni...
Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn 13.06.2023 46:25
Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans i drafod eu profiadau nhw o fyw gydag anhwylder personoliaeth ac anhwylder deub...
Cael Cymorth 30.05.2023 35:16
Mae gofyn am help yn rhywbeth mae llawer ohonom yn gweld yn anodd i'w wneud, ym mhob agwedd o fywyd, ond yn arbennig efallai gyda’n hiechyd meddwl. Y cwnselydd Myfanwy Williams, y myfyrwyr Daisy a Hywel - sydd hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg gwefan meddwl.org - sy’n trafod y pwysigrwydd o gael cymorth pam fod angen, a’r effaith bositif mae hynny’n gallu cael ar ein lles a iechyd meddwl. Rhybudd...
Niwroamrywiaeth 14.05.2023 34:43
Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie Phillips a’r gantores Non Parry yn dod ynghyd i rannu eu profiadau nhw o niwroamrywiaeth. Trafodir y modd...
Dechrau yn y Brifysgol 04.09.2022 41:37
Cyffro? Pryder? Dim ond dau air i ddisgrifio rhai o’r teimladau mae rhywun yn eu cael cyn dechrau yn y brifysgol am y tro cynta’. Yn y bennod yma bydd y myfyriwr Lleu Price a’r awdures Megan Angharad Hunter sydd hefyd newydd orffen yn y brifysgol yn ymuno a Tara Bethan i sgwrsio efo Trystan ac Endaf. Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth . Beth os wyt ti’n teimlo dy fod ar y...
Iselder a Gorbryder 26.07.2022 42:00
Yn ymuno a Trystan ac Endaf y tro hwn mae Non Parry o’r grŵp Eden a Phrifardd Eisteddfod T yr Urdd 2021, Kayley Sydenham. Mae’r ddwy wedi siarad yn agored iawn am eu profiadau o ddelio a phroblemau iechyd meddwl ac am y gwaith mewn nhw’n gwneud yn awr wrth ofalu am eu hunain a helpu eraill. Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth . Cefndir iselder Kayley (3:30) Cefndir iselder...
Y Gymuned LHDT 15.06.2022 38:13
Y Gymuned LHDT sef yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yw’r pwnc y tro hwn. Mae Alys Hall o brifysgol Bangor, James Hope o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Ellis Jones - un o ffigyrau mwyaf adloniannol instagram a Tiktok yn ymuno a Trystan ac Endaf i rannu eu teimladau wrth dyfu i fyny yn hoyw neu’n ddeurywiol, eu profiad o homoffobia a’r ffordd ddaethant o hyd i gymuned newydd o...
Y Cyfnod Clo 25.05.2022 43:34
Y cyfnod clo neu lockdown yw’r pwnc y tro hwn. Mae wedi effeithio ac yn dal i effeithio pob un ohonom o addasu i astudio yn rhithiol ac ar-lein i orfod aros adre am wythnosau a cholli allan ar yr elfennau cymdeithasol o fod yn fyfyriwr. Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf y tro yma mae’r myfyrwyr Deio Owen a Leigh Woolford ynghyd ag Ifan Pritchard sy’n canu i’r grŵp Gwilym. Gwilym ar instagram https:...
Delwedd y Corff 14.05.2022 43:46
Delwedd y corff a hunan ddelwedd yw’r pwnc y tro hwn ac mae dylanwad enwogion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei drafod mewn dyfnder. Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf mae’r dylanwadwyr Jess Davies a Mari Gwenllian ynghyd a Mari Jones sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mari Gwenllian (H.I.W.T.I.) https://www.hiwti.com/ Jess Davies https://jabberwithjess.com/ Cofiwch fynd i http://myf.cymru am...
Awydd Sgwrs? 12.05.2022 1:52
Podlediad yng nghwmni Trystan Ellis-Morris sy’n trafod iechyd meddwl a lles myfyrwyr o bob oed. Bydd Trystan yn cael cwmni Endaf Evans sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Bangor ynghyd a myfyrwyr a lleisiau cyfarwydd i drin a thrafod materion sydd o bwys iddyn nhw. Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.