Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes

Paid Ymddiheuro

Health CY ↓ 17 episodes

Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” pan mai’n dod at eich hiechyd? Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid i hyn newid. Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd menywod o ddulliau atal cenhedlu i iechyd meddwl, o’r mislif i’r menopos. Elin a Celyn yma. 'Da ni’n ddwy fyfyriwr meddygol ym mhrifysgol Caerdydd sy’n angerddol dros leihau’r stigma o amgylch iechyd menywod. Dyma fan diogel i rannu profiadau a dysgu gyda'n gilydd. Yr unig reol: Paid Ymddiheuro

Author

Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes

Category

Health

Podcast website

podcasters.spotify.com

Latest episode

Oct 30, 2025

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

3.4 Taclo Stigma Anableddau Cudd: Byw tu allan i'r Bocsys 30.10.2025

Tackling the Stigma around Invisible Disabilities: Living beyond the boxes. In this episode of Unapologetic , we are chatting to Cerys Davage, host of the Unbalanced podcast, which raises disability awareness and shares individuals' stories. Cerys shares her personal journey with limb girdle muscular dystrophy, from her first symptoms to how she manages her condition day-to-day , and the chall...

3.3 Byw i'r Eithaf: Mam, Mab ac MS 23.10.2025

Living Beyond Limits: a Mother, a Son and MS In this heartfelt episode, we sit down with a mother and her son, Gaynor and Guto, as they share their lived experience with Multiple Sclerosis — a condition that affects women four times more than men, according to the National MS Society. Together, they offer an honest, down-to-earth conversation about what it really means to live with MS on a daily b...

3.2 Poen Anweledig: Diagnosis o'r Diwedd 16.10.2025

Invisible Pain: A Diagnosis at Last Yn y bennod emosiynol ac onest hon o Paid Ymddiheuro, mae Elin a Celyn yn siarad â myfyrwraig feddygol blwyddyn gyntaf, Begw Fussell, sy’n rhannu ei diagnosis diweddar o endometriosis—cyflwr a luniodd ei harddegau’n dawel, effeithio ei bywyd academaidd, ac a’i gorfododd i lywio drwy system iechyd a anwybyddodd ei phoen dro ar ôl tro. O’r symptomau cynharaf , i’r...

3.1 Byddwch yn Barod: Goroesi eich Mislif ar Alldaith 09.10.2025

Be prepared: Surviving your Period on an Expedition. Welsh language episode of Unapologetic. Imagine this: you’ve trained for months, nailed your nutrition, perfected your sleep, and you’re finally setting off on the biggest adventure of your life — an expedition. But just as you're hitting your stride, your period arrives. Sound familiar? Let’s be honest — it’s more than just bad timing. For...

2.6 Dy Ddewis Di: Profiadau ar y Coil 08.09.2024

Wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf yr ail gyfres. Fel cyfres 1, bydd hon yn episod gyda Elin a Celyn yn unig. Dewch i wrando ar eu profiadau nhw wedi dewis y coil fel dull atal cenhedlu. Un ar y copper coil a'r llall ar y Mirena IUS- dewch i glywed y pros a'r cons a phob dim yn y canol. Diolch i chi unwaith eto am eich holl gefnogaeth! Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro! Cofiwch os...

2.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD 01.09.2024

Mae PMDD yn bwnc mae Celyn ac Elin wedi bod yn awyddus iawn i’w drafod ar Paid Ymddiheuro. Mae Premenstrual Dysphoric Disorder yn gyflwr a gafodd ei ychwanegu at y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM) yn 2013 ac yn cael ei ddiffinio yno fel cyflwr iselder sy’n achosi symptomau corfforol ac emosiynol difrifol rhwng ofwliad a’r mislif. Heddiw mae’r merched yn cael cwmni Alys G...

2.4 Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched 25.08.2024

Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched Mae Elin a Celyn yn ffodus iawn i gael cwmni nid un ond dwy westai ar y podlediad heddiw: Dr Awen Iorwerth a Molly Cana. Eleni, rydym wedi gweld nifer o straeon newyddion am anafiadau ACL yn y byd pêl-droed, yn enwedig mewn menywod. Oes rheswm penodol dros hyn? Oes risg uwch i ferched ynghlwm â’r anaf yma? Bydd Molly ac Awen yn trafod hyn a llawer mwy,...

2.3 Y Bennod Nesaf: Beichiogrwydd a PCOS 18.08.2024

Heddiw, mae Elin a Celyn yn croesawu Mair yn nôl i’r podlediad. Roedd Mair yn westai ar gyfres 1 o Paid Ymddiheuro, yn trafod ei phrofiadau hi gyda PCOS a’i thrafferthion gydag anffrwythlondeb. Rydym yn falch iawn o’i chael hi ar yr ail gyfres i rannu ei newyddion hapus gyda ni. Dewch i drafod y stigma o amgylch anffrwythlondeb, y disgwyliadau cymdeithasol o amgylch beichiogrwydd a llawer mwy! Mwy...

2.2. 'Nabod dy Gorff dy Hun: Hwyl Fawr i'r Stigma am Secs ac STIs 11.08.2024

Helo bawb! Gobeithio eich bod wedi bod yn mwynhau cyfres 2 hyd yn hyn. Heddiw mae Elin a Celyn yn nôl i drafod pob dim secs, STIs a llawer mwy! Am flynyddoedd mae’r rhain wedi bod yn dermau ac yn drafodaethau yn anffodus yn llawn stigma. Ar wahan i wersi addysg rhyw bach yn awkward yn yr ysgol, pa mor barod ac wedi’u grymuso yw pobl ifanc heddiw i ddelio a’r pethau yma? I drafod hyn, cwmni Dr Ffra...

2.1 Gafael ym mhob dim. Gafael ym mhob cyfle: Byw â Chancr y Fron 04.08.2024

Croeso nôl i gyfres 2 o Paid Ymddiheuro! A oeddech yn ymwybodol fod tua 55,000 o fenywod a 400 o ddynion yn derbyn diagnosis o gancr y frôn yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig? Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anwen Edwards yn episod gyntaf yr ail gyfres. Dewch i ymuno â nhw i drafod taith Anwen o dderbyn diagnosis o gancr y fron, i rannu’r newyddion â’i theulu i'r driniaeth. Cawn glywed am bwysi...

1.5 Rheoli'r Rhwystredigaeth: Mwy na Chur Pen yw Meigryn 03.08.2024

Croeso nôl i chi gyd. ‘Da ni bron ‘di cyrraedd diwedd y gyfres gyntaf o’r podlediad! Gobeithio eich bod chi gyd yn mwynhau hyd yn hyn. Heddiw, dim ond Elin sy’n gallu bod efo chi, a bydd hi’n cael cwmni Heledd Haf Evans i drafod profiadau’r ddwy ohonynt gyda meigryn. Dyma gyflwr sydd yn aml yn cael ei anwybyddu o fewn cymdeithas a dydy llawer o bobl ddim yn deall ei fod yn wahanol iawn i brofi cur...

1.6 Bydd Yfory'n Gofalu am ei Hun: Gorbryderu am Iechyd 15.09.2023

Y Bennod Olaf…am rŵan. Wel, wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf cyfres gyntaf Paid Ymddiheuro – am siwrne gyffrous hyd yn hyn! Diolch i’n gwesteion ni gyd am fod yn rhan o’n stori ni; ‘da chi gyd yn ANHYGOEL. Dyma gyfle i chi ddod i adnabod tîm Paid Ymddiheuro, Elin a Celyn, ychydig yn well. Ydych chi wedi sylweddoli sut mae eich teimladau yn newid drwy gydol y mis? A oes gennych chi ffyrdd o y...

1.4 Mae Gan Bawb Lais: Y Frwydr am Ddiagnosis Endometriosis 01.09.2023

Bore da bawb! Mae Elin a Celyn yn ôl heddiw i drafod endometriosis. Mae 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag endometriosis, felly pam yw hi’n cymryd, ar gyfartaledd, 7.5 mlynedd i gael diagnosis ohono? Heddiw, cawn gwmni Heledd Roberts ac Elinor Morris i rannu eu straeon ysgytwol a’u profiadau pwerus . Mae’r ddwy stori yn dra wahanol, ond thema tebyg sy’n rhedeg drwy’r ddwy yw brwyd...

1.3 Y Llwybr Troellog: Gwella'r Wybodaeth am PCOS 25.08.2023

Croeso nôl i Paid Ymddiheuro. ‘Da ni wedi cyrraedd pennod 3 felly hanner ffordd drwy’r gyfres gyntaf! Heddiw, cawn gwmni Mair Garland i rannu ei stori hi o fyw gyda Polycystic Ovarian Syndrome (PCOS). Yn ôl yr NHS, dyma gyflwr sy’n effeithio 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig, ond faint ydych chi wir yn ei wybod am PCOS? Dewch i glywed stori Mair am y symptomau a’i sbardunodd i weld y meddyg t...

1.2 Nid Diwedd y Daith: Trin a Thrafod y Menopos 11.08.2023

Helo! Croeso nôl bawb. Heddiw caiff Elin a Celyn gwmni Emma Walford i drafod ei phrofiadau hi drwy'r perimenopos hyd yn hyn. Cawn ddysgu fod cymaint mwy i'r menopos na 'hot flushes' yn unig, ac am bwysigrwydd siarad amdano yn agored gyda'ch teulu a'ch ffrinidau. Dewch i ddysgu am symptomau posibl, HRT a ble i droi am fwy o gymorth. Felly, paid â bod ofn a phaid ymddiheuro!...

1.1 Ma’ Periods yn rhoi Pŵer: Y Mislif a Dulliau Atal Cenhedlu 04.08.2023

Helo bawb! Croeso i'n pennod gyntaf. Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anni Davies i drafod y mislif a dulliau atal cenhedlu. Dewch i ddysgu am y gylchred fislifol, synnu at yr ystod eang o ddulliau atal cenhedlu ar gael, ac efallai cael eich perswadio i brynu 'menstrual cup' ! Mwynhewch a chofiwch: Paid Ymddiheuro!

Paid Ymddiheuro: Rhagflas 31.07.2023

Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” neu “dio’m yn bwysig”, “ma’n siwr mai fi sy’n bod yn ddramatig, pan fo'n dod at eich iechyd? Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid gofyn pam yw hyn ac mae’n rhaid iddo newid. Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd merched o ddulliau ata...

Listen to the Paid Ymddiheuro podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.