S4C

Pod Sgorio

Sports CY ↓ 149 episodes

Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio.

Author

S4C

Category

Sports

Podcast website

podsgorio.fireside.fm

Latest episode

Aug 13, 2025

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pod 24: Gemma Grainger 09.02.2022

Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger. Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru. Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a’u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm faw...

Pod 23: Cup fever! Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG 02.02.2022

Croeso i pod 23! Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy’n trafod y ffenestr drosglwyddiadau wrth i rai o brif sêr Cymru ymuno â chlybiau newydd. Cawn ymateb o Aberystwyth ar ôl i’r clwb chwarae eu milfed gêm yn yr Uwch Gynghrair. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG brynhawn Sul wrth i Adam Roscrow o’r Met ac Aeron Edwards o Gei Connah ymuno â ni ar y pod. 06/02 – Met Caer...

Pod 22: Golwg ar y Cymru Premier 28.01.2022

Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy’n talu sylw i’r Cymru Premier yn y bennod ddiweddaraf o’r bodlediad gan edrych ymlaen at Y Bala v Y Drenewydd yn fyw nos Wener.

Pod 21: Gwyn Derfel 20.01.2022

Gyda’r uwch gynghrair yn dychwelyd dros y penwythnos, Gwyn Derfel, rheolwr cyffredinol y Cymru Premier sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer i drafod datblygiadau diweddar o fewn y gynghrair.

Pod 20: Goreuon 2021 27.12.2021

Goreuon 2021 Cyfle i wrando nôl ar bigion gorau o’r pod dros y misoedd diwethaf yng nghwmni Sioned a Dylan

Pod 19: Rob Page 21.12.2021

Rheolwr Cymru, Robert Page sy’n ymuno â Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd ar gyfer ein podcast Nadoligaidd arbennig. Dyma gyfle i drafod y flwyddyn a fu ac i ddod i adnabod y gŵr o’r Rhondda yn well. Mwynhewch a Nadolig Llawen!

Pod 18: Rhys Griffiths 16.12.2021

Croso i pod rhif 18! Rhys Griffiths sy'n ymuno â Dylan a Sioned am sgwrs i drafod tymor Pen-y-bont hyd yma, gobeithion Ewropeaidd y clwb a'i yrfa llwyddiannus fel chwaraewr. Cyfle hefyd i glywed gan tri gwr doeth Y Seintiau Newydd wrth i Leo Smith rhoi gwers Cymraeg i Anthony Limbrick a Declan McManus. 'Steddwch nôl a mwynhewch!

Pod 17: Aber-fest 09.12.2021

Pod 17: Aber-fest Golwg nôl ar y penwythnos yn y Cymru Premier, cip ar y Cymry ar draws y Cynghreiriau a chyfweliad gydag ymosodwr Aberystwyth a Chwaraewr y Mis Tachwedd, John Owen. Bydd hefyd cyfle i glywed gan tîm hyfforddi Aberystwyth cyn gêm fyw Sgorio rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd – y gêm yn fyw ar Youtube, Facebook ac S4C Clic nos Wener, gyda’r gic gyntaf am 8.00

Pod 16: Ian Gwyn Hughes 01.12.2021

Croeso i pod 16! Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu’r Gymdeithas Bêl-droed sy’n ymuno â Dylan a Sioned am sgwrs i drafod y flwyddyn a fu. Am 12 mis i’r Gymdeithas; Cymru yn hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer lle yng Nghwpan y Byd 2022 am y tro cyntaf ers 1958, dechrau arbennig i dîm y merched dan arweiniad Gemma Grainger, Prif Weithredwr newydd ac Euro 2020! Lot i’w drafod…

Pod 15: Goliau’r Cymry a Chymru yn yr het ar gyfer y gemau ail gyfle 24.11.2021

Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy’n edrych nôl dros y penwythnos yn y Cymru Premier ac yn edrych ‘mlaen at ddigwyddiadau ar y llwyfan rhyngwladol, lle bydd merched Cymru yn parhau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd a bydd y dynion yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle.

Pod 14: Cymru yn cyrraedd y gemau ail gyfle a phêl-droed y canolbarth 17.11.2021

Pod 14: Gemau ail gyfle Cwpan y Byd a phêl-droed y canolbarth Cyfle i edrych nôl ar wythnos fawr i Gymru wrth i’r tîm rhyngwladol gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022. Bydd ymosodwr Y Drenewydd, James Davies yn ymuno â Dylan a Sioned i drafod tymor y Robiniaid a phêl-droed canolbarth Cymru.

Pod 13: Ashley Williams 10.11.2021

Cyfweliad estynedig gydag Ashley Williams ar drothwy Gemau Rhagbrofol Cwpan Y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.

Pod 12: Mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Mark Jones 03.11.2021

Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer. Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.

Pod 11: Andy Morrison 27.10.2021

Andy Morrison Rheolwr y Tymor 2020/21 sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer am sgwrs hir yn edrych dros ei yrfa bêl-droed. Cawn gyfle i glywed am ei amser fel chwaraewr gyda Blackburn, Blackpool a Man City, a’i amser fel un o reolwyr gorau’r Cymru Premier dros y blynyddoedd diwethaf.

Pod 10: Huw Griffiths ac Aaron Williams 21.10.2021

Cyfle i edrych nôl ar holl hynt a helynt pedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda Dylan a Sioned wrth i Bod Sgorio cyrraedd ei pennod 10! Bydd ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams â rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths yn ymuno a ni cyn i'r ddau dîm gwrdd â'i gilydd yn y gynghrair penwythnos yma.

Pod 9: 4 pwynt oddi cartref i Gymru a Bae Colwyn yn y gwpan 13.10.2021

Cyfle i edrych nôl ar wythnos ryngwladol arall gyda Dylan a Sioned a chyfle i edrych ‘mlaen at benwythnos o bêl-droed Cwpan Cymru. Bydd Craig Hogg, rheolwr Bae Colwyn yn ymuno â ni cyn i Fae Colwyn wynebu Met Caerdydd ym mhedwaredd rownd y gwpan.

Pod 8: David Edwards 06.10.2021

Sgwrs arbennig gyda David Edwards, cyn-chwaraewr canol cae Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mis Hydref. Bydd Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd yn trafod ei amser gyda’r tîm rhyngwladol, gobeithion Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol a’i amser gyda’r Bala yn y Cymru Premier. Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar Sgorio: 08/10 - Y Weriniaeth Tsiec v Cymru - yn fyw ar S4C am 7.25 11/10 - Eston...

Pod 7: Cwpan Cymru ac ymddiswyddiad Andy Morrison 29.09.2021

Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer yn trafod ymddiswyddiad Andy Morrison yng nghwmni’r sylwebydd Mark Jones. Cawn glywed hefyd gan reolwr Cymru, Robert Page, prif weithredwr CBDC, Noel Mooney, a rheolwr Y Fflint, Neil Gibson.

Pod 6: Cyfweliad gyda'r Prif Weithredwr! 24.09.2021

Cyfweliad arbennig gyda Phrif Weithredwr Y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney a chyfle i edrych mlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru gydag Andy Morrison, rheolwr Cei Connah a Richard Ryan, rheolwr Trefelin. Am y tro cyntaf erioed, bydd camerâu byw Sgorio ar Barc yr Ynys, wrth i'r tîm o'r ail haen yn y de groesawu Pencampwyr yr Uwch Gynghrair. Trefelin v Cei Connah yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn 25/09/21 a...

Pod 5: Gavin Chesterfield (Y Barri) ac Anthony Limbrick (YSN) 15.09.2021

Cyfle i drafod y tymor Cymru Premier JD gyda rheolwr Y Barri, Gavin Chesterfield sydd wedi torri record y clwb am y nifer fwyaf o gemau wrth y llyw gyda 491 gêm. Cawn hefyd gyfle i glywed gan Anthony Limbrick, rheolwr Y Seintiau Newydd gan edrych nôl ar y gemau Ewropeaidd yr haf a'i obeithion am y tymor. Pod Sgorio, yng nghwmni Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer. Y Seintiau Newydd v Y Barri – yn fyw a...

Pod 4: Wythnos ryngwladol Medi '21 09.09.2021

Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o’r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos. Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd. Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.

Pod 3: Awst 2021 yn y Cymru Premier gyda Mark Jones, rheolwr Cymru C 02.09.2021

Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier. Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy’n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.

Pod 2: Owain Fôn Williams 26.08.2021

Cyhoeddi Carfan Cymru ar gyfer gemau mis Medi, Gareth Bale yn sgorio yn La Liga am y tro cyntaf ers Medi 2019 i Real Madrid a’r Fflint yn fflio yn y Cymru Premier. Ein gwestai arbennig yw golwr Dunfermline a Chymru, Owain Fôn Williams.

Pod 1: Croeso i'r Pod! Penwythnos agoriadol tymor 2021/22 18.08.2021

Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n trafod penwythnos agoriadol tymor 2021/22 y Cymru Premier, golwg ar y pyramid pêl-droed Cymreig a'r newyddion diweddaraf am y Cymry ar draws cynghreiriau Ewrop.

Listen to the Pod Sgorio podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.