Y Pod Cyf
Colli'r Plot
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Y Bocs Llyfrau 08.09.2022 59:35
Y bocs llyfrau ar ddiwedd y dreif, mae Bethan yn trefnu recce i Batagonia ac mae Aled yn datgelu trefn unigryw o ddarllen llyfrau! Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Curiad Gwag - Rebecca Roberts Y Defodau - Rebecca Roberts The Surface Breaks - Louise O'Neill Utterly Dark - Phillip Reeve Llawlyfr Y Wladfa - D...
Eisteddfod, Gwobrau a beirniaid 09.08.2022 43:44
Trafod gwobrau, beirniadaethau a phrofiadau Eisteddfod Tregaron 2022. Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Pridd - Llŷr Titus Frankenstein - Mary Shelley Dracula - Bram Stoker Capten - Meinir Pierce Jones Modryb Lanaf Lerpwl - Meinir Pierce Jones Five Minutes of Amazing, My Journey Through Dementia - Chris Graham He...
Yn Fyw o Sesiwn Fawr: Cofio Marion Eames a mwy 19.07.2022 55:17
Rhifyn arbennig o bodlediad Colli'r Plot yn fyw o Dŷ Siamas yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: The Ocean at the end of the lane - Neil Gaiman A Voice Coming from then - Jeremy Dixon Caniadau'r Ffermwyr Gwyllt - Sam Robinson Don't Ask About My Genitals - Owen J Hurcum The Stories of my life, James Patterson - James Patterson Lloerig - Geraint Lewis T...
Cymryd Meddiant O Ddiwylliant / Cultural Appropriation 27.05.2022 1:01:03
Mae'r 5 ohonom ni yn gyffrous am y llyfrau dan ni wedi darllen ac mae Manon wedi ail-ddarganfod ei mojo darllen. Sgwrs ddifyr wrth i ni drio cael term Cymraeg am Cultural Appropriation yn y Gymraeg. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: 5ed Gainc y Mabinogi - Peredur Glyn Swansong - Jill Lewis Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands - Tony Bianchi Ras Olaf Harri Selwyn - Tony Bianchi Twl...
Sgwrs Megan Angharad Hunter 10.05.2022 31:54
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Megan Angharad Hunter. Awdur y nofel Tu ôl i'r Awyr, enillydd gwobr Llyfr Y Flwyddyn 2021.
Defaid, Cathod, Cwn a Sgwennu Llyfrau Plant 29.04.2022 1:09:50
Ceisio recordio pennod arall o Colli'r Plot wrth i Bethan Gwanas rhedeg ar ôl defaid a chath wyllt Siân Northey ceisio fod yn rhan o'r podlediad. Trafod llwyth o lyfrau, sgwennu llyfrau plant a llawer mwy. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Prawf MOT - Bethan Gwanas Ystoriau Heddiw - T.H. Parry Williams A Brief History Of Time - Stephen Hawking Dal Y Mellt - Iwan “Iwcs” Robe...
Losing The Plot 15.03.2022 58:28
Croeso i bennod newydd o Losing The Plot gan lais Radio 4 Dafydd Llewelyn. Darllen llyfrau mewn unrhyw iaith er pleser, trafod llyfrau dan ni wedi mwynhau, darganfod ein llyfrau ar Good Reads, canmol sgwrs Siân gyda John Roberts a phenblwydd hapus i ni! Pwy fydd Dafydd yn holi erbyn y podlediad nesaf? Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod: Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter...
Sgwrs gyda'r awdur John Roberts 03.03.2022 37:38
Dyma Siân Northey yn sgwrsio gyda'r awdur John Roberts. Awdur y nofelau Gabriela ac Yn Fyw Yn Y Cof.
Trefnu ein silfoedd llyfrau 01.02.2022 57:16
Sut mae mynd ati i gael trefn ar ein silffoedd llyfrau? Podlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Mae 'na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Yn Fyw Yn Y Cof - John Roberts The Gilded Ones - Namina Forna The Great Godden - Meg Rosoff Bedydd Tân - Dyfed Edwards...
Sgwrs Geraint Vaughan Jones 22.12.2021 31:51
Dyma Manon Steffan Ros yn sgwrsio gyda un o'i hoff awduron Geraint Vaughan Jones am y nofel Niwl Ddoe. Mae'r criw yn trafod y nofel yn y bennod Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin.
Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin 15.12.2021 1:07:18
Croeso i barti Nadolig Colli’r Plot! Trafod pa lyfrau ydyn ni eisiau gan Siôn Corn, Niwl Ddoe gan Geraint Vaughan Jones a Dafydd yn ceisio bod fel Lenin. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Nadolig, Pwy a Wyr? - Amrywiol Paid â Bod Ofn - Non Parry Hela - Aled Hughes Mori - Ffion Dafis Dod 'Nôl at fy Nghoed - Carys Eleri Yn Fyw yn y Cof - John Roberts 100 Cymru - Y Mynyddoedd a...
Sgwrs Rocet Arwel Jones 01.12.2021 30:40
Roedd Aled yn awyddus i ddysgu mwy am waith Cyngor Llyfrau Cymru. Wrth i'r cyngor dathlu penblwydd yn 60 cafodd sgwrs gyda Arwel Jones (Rocet), Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru .
Pum Diwrnod a Phriodas a Phenblwydd 19.11.2021 1:01:40
Croeso i 10fed rhifyn o bodlediad Colli’r Plot. Mae’r bennod yma yn dathlu pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn 60. Byddwn yn trafod Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel ac yn cael hanes joli llenyddol cyntaf Manon i Barcelona. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Less is More - Jason Hickel The Ladies of Llangollen – Elizabeth Mavor Bachgen Bach o Fryncoch - Ieuan Parry Piranesi...
Sgwrs Lleucu Fflur Jones 28.10.2021 18:34
Aeth Bethan Gwanas draw i Benllyn i recordio sgwrs gyda Lleucu Fflur Jones, awdur y nofel RYC. Roedden ni gyd wedi gwirioni gyda'r nofel.
O gloriau seicadelig i sŵn buwch 22.10.2021 55:12
Cloriau seicadelig, sŵn buwch, a chyflwyniad bythgofiadwy dros Zoom. Podlediad arall llond llyfrau a sgyrsiau am sgwennu. Mae 'na lot o chwerthin ac ambell ddarn dwys. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Glas a Gwyrdd - Eiry Miles Plant Annwfn - DG Merfyn Jones Pantywennol - Ruth Richards I Am Thunder - Muhammad Khan Ryc - Lleucu FFlur Jones Y Dydd Olaf - Owain Owain Eat, Slee...
Be ‘dan ni’n ddarllen? 17.09.2021 47:01
Dan ni nôl ar ôl cael saib dros yr haf ac mae ‘na ddigonedd i'w drafod. Llond pod o lyfrau, gwobrau, straeon spwci, a chnoc o’r bedd ar ddrws Bethan. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod Storiau'r Dychymyg Du - Geraint Vaughan Jones Straeon i Godi Gwallt - Irma Chilton Tu ôl i'r awyr - Megan Hunter Robyn - Iestyn Tyne a Leo Drayton Cat - Megan Hunter a Maisie Awen Farenheit 451...
Pennod y Sesiwn Fawr 17.07.2021 43:57
Bydd y criw yn trafod pa mor bwysig yw lleoliad mewn nofel neu stori, gyda phwyslais arbennig ar Feirionnydd gan mai yn fanno mae'r Sesiwn, a'r Sesiwn sydd wedi ein gwadd ni i falu awyr y tro yma. Bydd rhai o selogion y Sesiwn wedi gyrru cwestiynau ymlaen llaw. Rhai call, gobeithio...
Pwysigrwydd siopau llyfrau 28.05.2021 1:01:16
Yn y rhifyn yma yr ydym yn trafod pwysigrwydd siopau llyfrau i ni fel awduron a sut mae mynd ati i hyrwyddo ein nofelau. Sut mae'r Steddfod wedi dylanwadu ar ein sgwennu, ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan Casia Williiam am ein hoff awduron Saesneg.
Jolis llenyddol ac adolygu llyfrau 29.04.2021 49:19
Y tro yma, mi fyddwn ni’n trafod: jolis llenyddol, adolygu llyfrau pobl dach chi’n eu nabod, neu o leia’n nabod eu neiniau; pam ei bod hi gymaint haws prynu llyfrau Saesneg ac ydi Kath Jones Pobol y Cwm yn rhy ryff i brynu cyfrol y Fedal Ryddiaith? Mi fyddwn ni hefyd yn trio ateb rhai o’r cwestiynau dach chi wedi eu gyrru atan ni. Daliwch ati i’w gyrru nhw beth bynnag. Dan ni’n siŵr o’u hateb...
Dylanwadau a chwestiynau call 16.04.2021 50:39
Croeso i bennod 4 Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Yn y bennod yma yr ydym yn trafod y nofelau sydd wedi dylanwadu arnom ni, syrthio mewn cariad efo ein hoff awduron, ac yn clywed be' di’r term mae pobol Patagonia yn defnyddio ar gyfer 'tumbleweed'. Mae Bethan ac Aled yn cymharu cyfarfod Stephen King ac yr ydym yn ateb rhai o'ch cwestiynau chi.
Golygyddion 02.04.2021 50:41
Dyma drydedd bennod Colli’r Plot gyda Siân Northey, Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros. Yn y bennod yma, er mawr syndod i bawb, mae Bethan Gwanas yn dyfynnu o'r Beibl. Mae Manon yn parhau i synnu efo sawl gair mae hi'n gallu ei sgwennu mewn diwrnod, ac mae Dafydd yn dal ati i fod yr hyn nath Gwyn Siôn Ifan ei ddisgrifio fel ‘yr hen Dafydd Llewelyn ar ei ore'. Mae’r pedwar yn ateb...
Teipio rhyddiaith, sgwennu barddoniaeth 23.03.2021 44:25
Croeso i ail bennod Colli'r Plot – sef podlediad gyda'r sgwennwyr – Manon Steffan Ros, Siân Northey, Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn. Yn y bennod hon 'da ni'n trafod strwythur a sut ma' rywun yn mynd ati i 'sgwennu eu stwff. Buom ni'n trafod plot a chymeriadau, a pha 'run sydd bwysicaf, ynghyd a sut 'da ni'n mynd ati i greu'n cymeriadau, gyda Manon yn cynnig sgŵp rhyfeddol i ni ac yn cyfaddef...
Pam dan ni’n sgwennu 12.03.2021 51:44
Croeso i bodlediad Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Siân Northey, Dafydd Llewelyn a Manon Steffan Ros. Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul, a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod ni, mi fyddan ni’n mynd ar gyfeiliorn ac yn mynd i gyfeiriadau cwbl annisgwyl ac yn deud pethau doedden ni’m wedi bwriadu eu deud o gwbl. Y testun cynta' - pam dan ni’n sg...
Colli'r Plot yn dod yn fuan 02.03.2021 2:06
Colli'r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros. Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi. Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys. Diolch i'r Cyngor Llyfrau am wneud y podcast yma’n bosib a'n helpu ni i Colli'r Plot. Ac yn olaf diolch i Bandicoot am ddefnyddio'r trac O Nefoedd! ar gyfer y po...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.