Golwg 360

Craffu360

Society CY ↓ Odcinki: 28

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru. Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau. Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.

Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: golwg.360.cymru

Autor

Golwg 360

Kategoria

Society

Strona podcastu

golwg.360.cymru

Ostatni odcinek

12 cze 2026

Gdzie słuchać?

Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótce

Podcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów

Pobierz z Google Play Zainstaluj za darmo Android 5 mln+ pobrań · ocena 4,8 iOS niedługo

Odcinki

Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar beth aeth o'i le i Lafur Cymru, a sut i adfer 12.06.2026

Yn ymuno â Rhys ac Efan heddiw mae'r Llafurwr Owain Williams. Rydym yn pori drwy fethiannau Llafur Cymru a beth mae'n credu sydd angen digwydd nesaf i sicrhau bod Llafur yn goroesi ei her fwyaf: aros yn berthnasol.  Hefyd, byddwn yn trafod dyfodol Swyddfa Cymru o dan brif weinidogaeth bosibl Andy Burnham, a'r ffaith ein bod eisoes dros chwarter y ffordd drwy gan diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cy...

Gair y Gohebwyr: Efan yn yr Urdd, cwestiynau cyntaf i Rhun ap Iorwerth, a diffyg cyfeiriad ar y Gymraeg 04.06.2026

Rhys a Efan sy’n trafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos yng Nghymru, yn cynnwys sesiwn gyntaf Cwestiynau i’r Prif Weinidog i Rhun ap Iorwerth.

Gair y Gohebwyr: Llywodraeth newydd, Senedd newydd, gwleidyddiaeth newydd? 22.05.2026

Wedi seibiant am gwpl o wythnosau, mae ein gohebwyr yn ôl i drafod yr hyn sy’n newydd o fewn gwleidyddiaeth Cymru.  Mae gennym ni lywodraeth newydd, a chabinet i bori drwyddo. Rydym hefyd yn trafod y pleidiau eraill yn y Senedd. Mae Reform UK yn ymddangos fel plaid sy’n fwy parod i fod yn wrthblaid gadarnhaol nag oedd grŵp UKIP yn ôl yn 2016. Ond a fydd hyn yn parhau? Rhys Owen sy’n cymryd ni drwy...

Etholiad 2026: Dadl ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau 01.05.2026

Gydag wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, mae ymgeiswyr y pleidiau yn ymuno a Craffu360 ar gyfer dadl.  Efallai nad yw’n syndod fod y sgwrs genedlaethol cyn etholiad yn dueddol o ganolbwyntio ar y materion craidd ein hoes, megis y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg. Ond heddiw, rydym yn pori drwy gynlluniau’r pleidiau ar gyfer yr iaith Gymraeg, y diwylliannau a’r celfyddydau. Mi fyddwn yn trafod gwa...

Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar Lafur, y Ddadl Fawr, a gweledigaethau wan y pleidiau ar yr economi ac iechyd 24.04.2026

Yn ymuno Rhys ac Efan yr wythnos hon mae Owain Williams o Lafur Cymru.  Dan sylw mae ymgyrch anodd hyd yn hyn i Eluned Morgan a’r Blaid Lafur, ynghyd â chynlluniau’r pleidiau ar gyfer tyfu’r economi a symud tuag at Gymru fwy llewyrchus ac iach. Trafodwn hefyd y Ddadl Fawr ar S4C, a’r hyn a ddysgwyd gan yr arweinwyr a’r ymgeiswyr ar y llwyfan. Bu hefyd yn wythnos brysur i’r polau piniwn, gyda phedw...

Gair y Gohebwyr: Risg y Democratiaid Rhyddfrydol, mwy o ganolbwyntio ar Holyrood na Chymru, a beth fydd yn digwydd yn yr etholiad? 17.04.2026

Er rydym hanner ffordd drwy’r ymgyrch swyddogol, nid yw hi o reidrwydd yn teimlo fod yr ymgyrch wedi sbarduno i mewn i fywyd.  Gyda llawer o ddiddordeb y cyfryngau Prydeinig yn canolbwyntio ar yr ymgyrch yn yr Alban, mae ein gohebwyr, Efan Owen a Rhys Owen, yn trafod lle mae’r pleidiau arni ar hyn o bryd, ac os mae’r deil wedi newid o gwbl.   Hefyd mae’r mater o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfryd...

Beth yw cynnig Plaid Cymru i’r genhedlaeth ifanc? Gyda Niamh Salkeld 16.04.2026

Mewn cyfweliad hirhoedlog gyda phodlediad Craffu360, mae ymgeisydd Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, Niamh Salkeld, wedi bod yn datgan beth yw eu cynllun i bobol ifanc.  Mae ymddiriedaeth pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn gostwng yn ganlynol ar hyd y degawdau diwethaf. Hefyd o dan sylw, mae ‘effaith Caerffili’, a hynny wedi buddugoliaeth Lindsay Whittle yn yr is-etholiad yno...

Gair y Gohebwyr: Maniffesto Plaid Cymru, rhestr siopa’r Gwyrddion, ac ymgeiswyr wedi’u cadarnhau 11.04.2026

Ar Gair y Gohebwyr heddiw mae gan Efan Owen a Rhys Owen nifer o bynciau gwahanol i’w trafod.  Yn gyntaf mae maniffesto Plaid Cymru, sy’n addo llawer ar yr economi, y Gwasanaeth Iechyd, a gofal plant. Rydym yn edrych yn fanwl ar bolisi'r Blaid i gael 50% o ddisgyblion Cymru mewn addysg gyfrwng Gymraeg erbyn 2050; ydi hyn yn bosib? Hefyd mae’r mater o’r Blaid Werdd a’i faniffesto ei hun sydd wedi ca...

Gair y Gohebwyr - Diwedd y Chweched Senedd, ond be fydd nesaf? 25.03.2026

Gohebwyr Golwg360, Efan Owen ac Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod wythnos olaf y Chweched Senedd, ac yn cymryd golwg ar yr hyn ddigwyddodd yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Bydd y ddau hefyd yn trafod canllawiau arolwg barn YouGov ITV Cymru Wales, a beth all hyn olygu o ran yr ymgyrch sydd i ddod.

Pam mae lefelau ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth Cymru mor isel? 19.03.2026

Yn y bennod hon rydym yn gofyn pam mae ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru mor isel? Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos lefelau pryderus o ymgysylltu gyda gwleidyddiaeth a sut mae Cymru’n cael ei lywodraethu. A’i dibyniaeth ar gyfryngau Prydeinig sydd tu ôl i hyn? Mae ein gohebwyr, Efan Owen a Rhys Owen, yn trafod y canfyddiadau ymhellach gyda’r myfyriwr PhD sydd y tu ôl i’r astudiaeth yn Ys...

Jane Dodds a’r Democratiaid Rhyddfrydol: Gwrthwynebu annibyniaeth ond eisiau mwy o ddatganoli 12.03.2026

Yn ymuno a Craffu360 yw Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds. Yn pwysleisio ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal cymdeithasol, rydym yn gofyn a’i dim ond grŵp gwthio yn hytrach na phlaid wleidyddol maen nhw yng Nghymru? Hefyd mae’r mater o annibyniaeth, rhywbeth mae Jane Dodds yn rhybuddio bydd yn bosib mewn refferendwm erbyn 2034 os mae Plaid Cymru yn ennill y...

Gair y Gohebwyr: Lansiad maniffesto Reform, ysbion Tsiena a Llafur, a Gove yn hoffi Plaid Cymru 05.03.2026

Yn ymuno ac Efan Owen a Rhys Owen ar Gair y Gohebwyr yr wythnos yma, mae aelod o Academi Newyddiaduraeth Golwg360, Ben Withers.  O dan sylw mae lansiad maniffesto Reform, gyda’n Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen yn rhoi blas ar yr hyn oedd yn digwydd yng Nghasnewydd. Hefyd mae’r mater o ddiffyg ffydd yn ein gwleidyddiaeth, beth mae arést o dri pherson sydd yn hanesyddol wedi bod yn rhan o Lafur o fod...

Maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig: Cysgod Reform ac addewidion radical? Gyda Sam Kurtz 04.03.2026

Wedi lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda’u Llefarydd ar yr economi ynni, ac amaeth, Sam Kurtz.  O dan sylw mae penderfyniad ei ffrind James Evans i ymuno Reform, perthnasedd y blaid yng Nghymru, ac wrth gwrs mwy o fanylion ar addewidion eithaf radical y maniffesto.

Cynhadledd Plaid Cymru: Barod i lywodraethu? Gyda Mabon ap Gwynfor 27.02.2026

Yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor i drafod y neges sy’n siapio’r ymgyrch - yn enwedig y ffocws ar Reform UK - a geiriau cryf Rhun ap Iorwerth am y dewis rhwng “cynnydd neu bydredd”.  Oes perygl bod gormod o sylw ar Reform? A beth mae profiad etholiad 2024 a llywodraeth Keir...

Gair y Gohebwyr: Goblygiadau cyfansoddiadol yr hawl i farw, Gorton a Denton, a Chynhadledd Plaid Cymru 26.02.2026

Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn trafod wythnos brysur yn Senedd a thu hwnt.  Dan sylw mae’r tensiynau cyfansoddiadol yn sgil y bleidlais ar roi pwerau i Weinidogion Cymru dros hawl i farw - a’r hyn mae hynny’n ei ddatgelu am y setliad datganoli presennol. Hefyd, rydym yn edrych ar y mater bach o is-etholiad yn Gorton a Denton, a pha arwyddion sydd ynddo o’r hyn...

Gair y Gohebwyr: Trenau, cydweithio ar y chwith, a dyfodol y Teulu Frenhinol 19.02.2026

Ar Gair y Gohebwyr heddiw, er bod y Senedd ar wyliau, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn eistedd lawr i drafod wythnos brysur ym myd gwleidyddiaeth.  Ar yr agenda mae’r weledigaeth newydd gan Drafnidiaeth Cymru, Heddiw, Yfory, Gyda'n Gilydd - ond ai cefnogaeth go iawn ynteu ymdrech ymgyrchol gan Keir Starmer sydd y tu ôl iddi? Byddwn hefyd yn trafod y posibilrwydd o gydweithio ar y chwith i...

Gair y Gohebwyr: Starmer yn goroesi a thensiynau o fewn Reform dros y Gymraeg 13.02.2026

Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn cael eu hymuno gan Joshua Romain o Academi Newyddiaduraeth Golwg360. O dan sylw mae Keir Starmer yn goroesi bygythiad i’w Brif Weinidogaeth, a sut y gall newidiadau i’w dîm yn Rhif 10 arwain at newid yn y ffordd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwleidydda dros y misoedd nesaf. Rydym hefyd yn trafod gyda Joshua sut mae’r frw...

Gair y Gohebwyr: Dan Thomas yn arwain Reform, rhaniadau Llafur, a dyfodol Keir Starmer 06.02.2026

Mae golwg360 yn lansio cyfres newydd wythnosol fel rhan o bodlediad Craffu360 i drafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos o Fae Caerdydd a San Steffan.  Gohebwyr Golwg360, Efan Owen a Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod y newyddion mai Dan Thomas yw Arweinydd Reform yng Nghymru. O dan sylw mae arwyddocâd y penodiad o safbwynt ymbellhau o’u cyn arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, a be all hy...

Dyfodol y byd amaeth, gyda Gareth Parry o Undeb Amaethwyr Cymru 30.01.2026

Yn ymuno a Rhys Owen mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry.   Wedi cyfnod o flynyddoedd bregus i ffermwyr, a hynny ar lefel Gymreig gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac yntau ar y lefel Brydeinig, gyda newidiadau i dreth etifeddiaeth, mae Gareth Parry yn sôn am 2026 fel blwyddyn o obaith i ffermwyr.   O dan sylw mae’r hyn sydd ei angen o fewn maniffestos y pleidiau i sicrhau dyf...

Daeargryn wleidyddol? 5 mis tan etholiad y Senedd 12.12.2025

Gyda phum mis i fynd nes etholiad y Senedd, dyma bennod arbennig Nadoligaidd o Craffu360.  Yn ymuno a ni yw’r Cynghorydd Aled Thomas o’r Ceidwadwyr Cymreig, y Cynghorydd ac ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngwynedd Maldwyn Elwyn Vaughan, yr aelod o Lafur Cymru Owain Williams, ac fel sylwebydd o Senedd Explained Gwion Rhisiart.   Gyda system etholiadol newydd, etholaethau enfawr, a chyfle gwirioneddol i b...

Aled Eirug a’i lyfr newydd, Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder 01.10.2025

Yn ymuno a ni y tro hwn yw’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder.  Mi fydden yn trafod yr hyn oedd yn siapio ‘Dafydd El’ fel un o wleidyddion unigryw ei oes, a thrafod yr angen am ei fath o wleidyddiaeth bragmatig mewn Senedd go wahanol o fis Mai nesaf ymlaen. Mae Dafydd Elis Thomas: Nation Builder ar gael gan Wasg Prifysgol Cymru yma: https://www.u...

Mark Drakeford o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 28.08.2025

Yn ymuno a ni y tro hwn yw cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.  Fel rhywun fydd o bosib yn mynd lawr fel arweinydd mwyaf adnabyddus Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli, mi fydd ei ddylanwad yn parhau ymhell i’r dyfodol. Hefyd, ei benderfyniad o i ddiwygio’r Senedd sy’n debygol o greu’r amodau ar gyfer yr etholiad mwyaf cyffroes erioed mis Mai nesaf. Rydym yn trafod hyn a mwy o Faes yr Eis...

Maxine Hughes, Newyddiadurwr yn yr Unol Daleithiau 19.06.2025

Yn ymuno â ni ar Craffu360 y tro yma yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy’n byw yn Washington.  Yn brif wyneb Newyddion S4C yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer fel rhywun sy’n adrodd straeon gwleidyddol a materion cyfoes o’r wlad honno. Fyddwn yn trafod eithafiaeth, byw yn yr Unol Daleithiau, a’i ffrindiau mawr a perchnogion CPD Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynol...

Ieuan Wyn Jones, cyn-Ddirprwy Prif Weinidog Cymru 18.04.2025

Yn gyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac yn gyn-arweinydd Plaid Cymru, mae Ieuan Wyn Jones yn enw adnabyddus o fewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, a’r tebygolrwydd o gydweithio trawsbleidiol wedyn, Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360, sy'n trafod y sefyllfa debygol gyda Ieuan Wyn Jones, sydd â phrofiad helaeth o gydweithio mewn clymblaid â Llafur, fel rhan o...

Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C 06.03.2025

Ar ôl cyfnod cythryblus i'r sianel Gymraeg, mae gan S4C Brif Weithredwr newydd wrth y llyw. Yn y bennod hon, mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol golwg360, yn holi Geraint Evans, sy'n gobeithio troi’r dudalen a chanolbwyntio ar dyfu cynulleidfa a darparu cynnwys newydd, fel rhaglen Y Llais, er mwyn cyrraedd cynulleidfa iau....

Słuchaj podcastu Craffu360 w Replaio

Radio i podcasty w jednej aplikacji - za darmo, bez zakładania konta. Zainstaluj już dziś i nie przegap premiery

Pobierz z Google Play

Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS