Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: rss.com

Auteur

Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Categorie

Arts

Website van de podcast

rss.com

Nieuwste aflevering

1 okt. 2026

Waar luisteren?

Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaar

Podcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts

Download het op Google Play Gratis installeren Android bijna 10 mln downloads · beoordeling 4,8 iOS binnenkort

Afleveringen

65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais 12.03.2026

Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor.

64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn 05.03.2026

Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels.

63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan' 19.02.2026

Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop!

62 - Entrée, Catherine O'Hara a'r Grammys 05.02.2026

Mae hi'n wythnos brysur draw ym myd Siarad Siop - Entrée Amour a Mynydd ar S4C, ymddangosiad ar Heno a recordio penodau cyntaf Après Amour a Mynydd. Ond wrth gwrs, mae wastad amser i recordio pennod arferol o Siarad Siop ac mae digon i'w drafod fel yr arfer: o'r seremonïau gwobrwyo, marwolaeth yr anhygoel Catherine O'Hara ac ymddygiad diweddaraf N!ck! M!naj... Dewch i mewn!

61 - Santes Dwynwen, ffeinal Traitors a Harry Styles 29.01.2026

Gafodd pawb rosyn neu anrheg dros y penwythnos? Wnaethoch chi seremoni i losgi eitemau eich cyn-gariad? Dim ots os oedd eich diwrnod Santes Dwynwen yn llawn cariad neu'n oer fel bloc o rew, mae yna groeso cynnes i chi yn y siop. Rhaid trafod ffeinal y Traitors, cyfres ddogfen newydd Tyra Banks a phwy gafodd eu hanwybyddu yn enwebiadau'r Oscars eleni. Wfftio'r cariadon - dewch mewni'r siop. M&M...

60 - Brooklyn, Karamo a Heated Rivalry 22.01.2026

Mae'r Siop yn gorlifo'r wythnos yma efo hanesion - o straeon insta Brooklyn, absenoldeb Karamo o lansiad cyfres Queer Eye, glambot enwog JLo, cyfresi Heated Rivalry a Traitors i Charlie's Aberystwyth yn cau. Mae angen tebot mawr i wrando ar yr holl dê chwilboeth. Eistedd yn gyfforddus? Mewn â chi!

59 - Golden Globes, Miss Saigon a therapi 15.01.2026

Wythnos arall wedi pasio ac mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu ond peidiwch â phoeni, mae'r siop mor llawn ag erioed. O gossip y Golden Globes, ansawdd lleisiol Lily Allen i ddeallusrwydd artifisial. Digon i lenwi'ch basged. Mewn â chi!

58 - Eira, Traitors a'r ffliw 08.01.2026

Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor.

57 - Blwyddyn Newydd Dda! 31.12.2025

Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion.

56 - Nadolig Llawen! 25.12.2025

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!

55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw 18.12.2025

Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!

Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus! 04.12.2025

Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop.

Siarad Siop x Llyfrgell Gen 30.11.2025

Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi! * Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'P...

54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu 27.11.2025

O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.

53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig 20.11.2025

Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!

Siarad Siop x Stad 16.11.2025

Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi! *Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD

52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani 13.11.2025

Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!

51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor 06.11.2025

Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!

*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&5 02.11.2025

Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch!

50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost 30.10.2025

Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!

49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre 23.10.2025

Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.

*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 3 16.10.2025

Gan fod ein penodau arferol ni'n reit swmpus, dyma wahanu'r sgwrs am Rupaul's Dragrace mewn i bennod fach bonws i chi. Mwynewch!

48 - Traitors, Diane Keaton a mwy o'r moch daear 16.10.2025

Wel, mae'r siop ar agor ac mae'r moch daear yn hoffi eu lle yng ngardd Mari. Hefyd mae'r silffoedd yn llawn o straeon yr wythnos - o farwolaeth yr athrylith o actores, Diane Keaton i ddiddordeb diweddar Mari o gerddwyr Everest...! Allwch chi ddim cwyno bod dim amrywiaeth yma. Mewn a chi de.

47 - British Podcast Awards a BAFTA Cymru 09.10.2025

Fel dywed y teitl - does what is says on tin! Os na welsoch chi'r nifer obnoxious o straeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yna gwrandewch i glywed yr hanes o'r British Podcast Awards a seremoni BAFTA Cymru. Spoiler alert: Llongyfarchiadau ENFAWR i Mari Grug a Sioned Nelson ar ddod yn fuddugol yn y BPA eleni ac i 'Yr Hen Iaith' ar ddod yn ail.

46 - Poody, Joe Jonas a SFA 02.10.2025

Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...

Luister naar de podcast Siarad Siop efo Mari a Meilir in Replaio

Radio en podcasts in één app - gratis en zonder account. Installeer vandaag nog en mis de lancering niet

Download het op Google Play

Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds