Pryd ar Dafod
Pryd ar Dafod
#PrydArDafod yw'ch cyfle i glywed beth yw tri hoff bryd bwyd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Ym mhob pennod fydd y gwesteion yn dewis...- Pryd Plentyndod (pryd o fwyd sy'n eu hatgoffa o'u plentyndod)- Pryd i Ddathlu (hoff fwyty ar gyfer dathliad a hanner)- Pryd Unrhyw Bryd ('midweek meal' neu bryd sy'n 'staple' i'r gwesteion)Ymunwch â Ianto Phillips a Dewi Richards sy'n cael y cyfle i drafod bwyd a theulu a phopeth rhwng y ddau.
Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: podcasters.spotify.com
Auteur
Pryd ar Dafod
Categorie
Website van de podcast
Nieuwste aflevering
17 aug. 2026
Waar luisteren?
Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaarPodcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts
Afleveringen
Tamed i Aros Pryd 17.08.2026 17.08.2026 23:11
Reit, mae gwneud podcasts yn cymryd sbel. So dyma rhywbeth bach i chi, rhywbeth wythnosol, pallete cleanser fel petai. Jyst Dewi a Ianto yn siarad shit. Bydd y penodau arferol gyda gwestai arbennig yn dod mas bob hyn a hyn wedyn hefyd! Joiwch! ***** Making a podcast is time consuming! So we've decided to give you a little snack to get you through whilst you wait. A pallete cleanser if you will. En...
Pennod 19: Betsan Moses 06.08.2026 45:12
Ar fwydlen y bennod hon, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ymuno â Dewi ac Ianto - wel nhw na'th ymuno â hi yn ei gardd hi i fod yn onest! Lot o siarad, lot o atgofion, lot o fod yn wholesome. Joiwch!
Pennod 18: Carwyn Blayney 30.07.2026 34:00
**Rhybudd - iaith grêfi** Ar y fwydlen yn y bennod hon mae'r comedïwr Carwyn Blayney. Fe oedd gwestai anffodus Dewi ac Ianto tro' 'ma ac mae'r bennod yma'n dod yn fyw o Tafwyl 2026 - bach o audience participation (diolch) a lot o chwerthin (diolch x2). Sori am y rhegi, y gweiddi a'r nonsens, ond gathon ni lot fawr o hwyl! Bone apple teeth!
Pennod 17: Heledd Cynwal 16.06.2026 1:12:52
Wel wel wel, ni mor chuffed i allu cael sgwrs gyda un o "proper enwogion" Cymru - y cyflwynydd a'r anhygoel Heledd Cynwal. Diolch yn fawr i Heledd am y sgwrs anhygoel lle naethon ni drafod bwytai, tafarndai, llyfrau, ryseitiau (a llwyth o bethau eraill yn gorffen gyda "ai/au". Mae'n sgwrs sy'n mynd â ni holl ffordd o Gaerdydd i Landeilo, via Bethlehem. Gobeithio wnewch chi fwynhau gymaint â wnaeth...
Pennod 16: Nick Yeo 13.05.2026 49:37
***RHYBUDD: IAITH GREFI*** Cyflwynydd y podlediad arobryn (ie, "award winning" yn Gymraeg, weird) 'Sgwrsio', Nick Yeo yw gwestai Dewi ac Ianto yn y bennod hon. O drafod Rome Total War i ryfela am ba ran o Gaerdydd sydd orau, ni'n trafod all things Cymraeg, ac wrth gwrs, bwyd. Mwynhewch!
Tamed i Aros Pryd: 1 23.04.2026 11:13
Reit, mae gwneud podcasts yn cymryd sbel. So dyma rhywbeth bach i chi, rhywbeth wythnosol, pallete cleanser fel petai. Jyst Dewi a Ianto yn bwyta rhywbeth, yn siarad am brydau bwyd a dod lan gyda syniadau am raglenni rybish i S4C. Bydd y penodau arferol gyda gwestai arbennig yn dod mas bob hyn a hyn wedyn hefyd! Joiwch! ***** Making a podcast is time consuming! So we've decided to give you a l...
Pennod 15: Siôn Tomos Owen 10.04.2026 57:10
Yr awdur, artist, cyflwynydd, y foodie (a'r Bardd Plant Cymru wrth gwrs) Siôn Tomos Owen yw gwestai y bennod hon. Lot o falu awyr, lot o fwyd a lot o hwyl. Mwynhewch!
Pennod 14: Efa Lois 20.03.2026 55:37
Yn y bennod hon, y dylunydd, yr artist a'r awdur Efa Lois sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod Penweddig, pinafalau, priodas, partis - a lot mwy o bethau'n dechrau gyda p. Joiwch. A sori bo ni'n siarad am bethe Nadoligaidd yn aml - ga'th hwn ei recordio jyst cyn Dolig (wps!).
Pennod 13: Steffan Dafydd 12.02.2026 50:34
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, y cerddor a'r artist Steffan Dafydd sy'n ymuno â Ianto a Dewi a'n rhannu ei hoff brydau. Ni'n trafod loads o bethe - bwyd, cerddoriaeth a Plasmawr wrth gwrs - ma llwyth ar y fwydlen yn y bennod hon. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Jolch x
Pennod 12: Llwyd Owen 22.01.2026 1:12:08
Yr awdur, y podgastiwr a'r housewife anhygoel (diolch am y daal a'r brownies!) Llwyd Owen yw gwestai diweddara' Ianto a Dewi. O enwau canol gwirion i ryseitiau rili neis, mae llwyth i'w fwynhau ar y fwydlen!
Pennod 11: Rhodri Davies 23.12.2025 55:40
Ho, ho, ho. Nadolig Llawen! Ein "Christmas Special" cynta' a sgwrs digon sbeshal gyda'r cogydd Rhodri Davies . Gaethon ni groeso cynnes ym mecws Alex Gooch, ar leoliad ei pop-yp, Sôs (@Sos_with_a_hat ar Instagram) a joio trafod bwyd, Cymraeg Plasmawr, ac ambell i gyfrinach am hoff a chas gogyddion Rhodri. Joiwch, bwytewch a byddwch lawen (a sori am safon y sain!) x
Pennod 10: Gareth Potter 15.12.2025 1:03:00
Y DJ, yr actor, y tywysydd, y sgwennwr, y canwr, y gwr bonheddig Gareth Potter sy'n gwmni i Ianto a Dewi tro 'ma. Chat lyfli a doniol am fwyd, cerddoriaeth, celfyddydau a'r Cymoedd. Gwrandewch, rhannwch a joiwch!
Pennod 9: Katie Hall 11.11.2025 44:00
***Rhybudd - iaith grêfi*** Yn y bennod hon, yr amryddawn, yr anhygoel, yr Aberdâr lej, Katie Hall o'r band Chroma sy'n ymuno gyda ni i drafod popeth o fiwsig i fwyd, tyfu lan a chillo mas. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Pennod 8: Daniel Glyn 28.10.2025 43:44
***Rhybudd - iaith grefi*** Comedïwr, ysgrifennwr... stuntman? Daniel Glyn sy'n ymuno 'da ni tro 'ma. Doniol, dirdynnol, diddorol a llwyth o eiriau eraill yn dechrau gyda d. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Blydi Lyfli.
Pennod 7: Gwion Ifan 09.10.2025 48:53
***Rhybudd - iaith grefi*** "Y boi 'na o'r gorllewin sydd ar Hansh", Gwion Ifan sydd gyda ni wythnos 'ma. Y drydedd bennod yn fyw o'r 'Steddfod (ond y gynta' i gael ei recordio). Llwyth o hwyl a siarad am 'chydig o fwyd blasus. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Tasty butt.
Pennod 6: Mari Elen 03.10.2025 38:21
***Rhybudd - iaith grefi*** Y perfformiwr, y dramodydd a'r PodledWrach Mari Elen sydd gyda ni tro' 'ma. Yr ail bennod yn fyw o'r 'Steddfod yn Wrecsam. Lot o hwyl, llwyth o smut - be well? Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Hapus. Blasus.
Pennod 5: Morgan Elwy 16.09.2025 40:17
***Rhybudd - iaith gref*** Y cerddor, y gwyddonydd a'r bach o bach o foodie (sori) Morgan Elwy yw'r gwestai tro 'ma. Yn fyw o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Joiwch. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Pennod 4: Siôn Owens 29.08.2025 58:49
Siôn Owens - y comedïwr, y Cofi a basydd (de Cymru) Bwncath - yw ein gwestai tro 'ma. Boi doniol a diddorol sydd â dewisiadau bwyd digon...ym...diddorol. Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Joiwch!
Pennod 3: Hanna Jarman 01.08.2025 54:52
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yr actor, awdur a'r dramodydd (a'r foodie) Hanna Jarman sy'n ymuno â nhw yn y bennod hon. Bone apple teeth!
Pennod 2: Emyr Siôn 08.07.2025 47:28
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn yr ail bennod, y cerddor a'r all-round funny guy Emyr Siôn yw'r gwestai. Dyma'ch cyfle i glywed os yw Emyr wir yn ddosbarth canol adeg 'Dolig. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Pennod 1: Jac Llwyd Northfield 24.06.2025 1:02:11
***Rhybudd - iaith gref*** Pryd ar Dafod yw cyfle Ianto Phillips a Dewi Richards i drafod eu hoff beth - bwyd - a chwrdd â rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. Yn y bennod gyntaf, Jac Llwyd Northfield sy'n ymuno â Dewi ac Ianto. Boi doniol sy'n hoff o goginio, bwyta a rhannu ryseitiau. Mwynhewch, gwrandewch a rhannwch! Diolch!
Vergelijkbare podcasts
Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds