BBC Radio Cymru
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
No dejes de visitar la web del podcast y apoyar a su creador: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoría
Web del podcast
Último episodio
14 de oct. de 2026
¿Dónde escuchar?
Podcasts en la app Replaio Radio Muy prontoLos podcasts llegarán muy pronto a la app. Instálala ahora y sé el primero en descubrir una forma totalmente nueva de vivir los podcasts
Episodios
Arian mân? 14.10.2026 34:55
Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr, Sam Kurtz. A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r tri trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Beth nesa' i Polanski? 09.10.2026 19:15
Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.
Y Pedwar Llew Tew 07.10.2026 37:31
Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies. Mae’r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi - cofiwch fod modd cysylltu...
Rhwng Dau Rosyn 30.09.2026 29:21
Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Ysgol David Hughes: Eton Cymru? 23.09.2026 32:36
Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd. Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Richard yn Rong am Reform 16.09.2026 28:29
Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon. Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Reform - Cai Parry-Jones 09.09.2026 27:26
Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd. Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Penyberth 07.09.2026 55:05
Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam.
Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben? 02.09.2026 28:01
Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Cloch Clacton 14.08.2026 21:20
Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau.
Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên 07.08.2026 49:54
Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las. Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod mod...
Amser a ddengys 29.07.2026 28:19
Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk .
Crafu'r Cregyn Llong 22.07.2026 24:14
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Gwynfor a'r Gyllideb 15.07.2026 36:12
Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid C...
Dadansoddi gyda Drakeford 08.07.2026 33:49
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Fformiwla Burnham? 01.07.2026 29:51
Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Meseia heb fandad? 24.06.2026 28:20
Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur. Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Yr Ymddiswyddiad 22.06.2026 17:42
Ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi'r cyfan.
Buddugoliaeth i Burnham 19.06.2026 28:28
Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard. Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Cip ar y Cyfansoddiad 10.06.2026 24:44
Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Pedwar Prif Weinidog 03.06.2026 27:13
Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Blair iawn 27.05.2026 34:46
Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wythnos Mêl? 20.05.2026 26:14
Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.
Andy-bendod 15.05.2026 24:03
Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Amser i Lywodraethu 13.05.2026 25:17
Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Podcasts similares
Replaio no es editor de podcasts; los nombres de los programas, las portadas y el audio pertenecen a sus autores y se distribuyen a través de canales RSS públicos