Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Arts CY ↓ 143 bölüm

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

Podcast'in sitesini ziyaret etmeyi ve yapımcısını desteklemeyi unutma: rss.com

Yazar

Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Kategori

Arts

Podcast web sitesi

rss.com

Son bölüm

1 Eki 2026

Nereden dinlenir?

Uygulamada podcast'ler Replaio Radio Çok yakında

Podcast'ler çok yakında uygulamaya geliyor. Şimdi yükle ve podcast'lere yepyeni bir bakışı ilk gören sen ol

Google Play'den indir Ücretsiz yükle Android 5 Mn+ indirme · 4,8 puan iOS yakında

Bölümler

Pennod 20 28.11.2024

Sori, fedrwch chi ddim eistedd fama...Da ni'n dal y gwagle i eiriau 'Defying Gravity'. Yndi, ma Wiza-mania wedi cyrraedd Siarad Siop, ond peidiwch a phoeni os nad ydych chi wedi gwylio'r ffilm eto, does yna ddim spoilers yn y bennod. Mae Mari a Meilir hefyd yn cofio at bawb sydd wedi eu heffeithio gan storm Bert, yn trafod sengl newydd Cabarela, Daf James a BAFTA, Bluey Cymraeg a llawer mwy...! De...

Pennod 19 21.11.2024

Ydyn ni'n cael dweud y gair eto.... MAE DOLIG AR EI FFORDD ac mae Mari a Meilir wedi dechrau edrych ymlaen yn barod. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod hoff anrhegion Nadolig, hoff siocled yr Ŵyl, aliens yr UDA, y mass exodus o Twitter gynt, cadarnhau enw swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, clwb nos Heaven yn Llundain, heb anghofio'r eira! Dewch i mewn o'r oerfel a mwynhewch.

Pennod 18 14.11.2024

Waw, am wythnos yr ydyn ni di gael. Dydi Mari a Meilir jesd methu cau'r siop, mae yna ormod i'w drafod! Yr etholiad yn yr UDA, Nicole Scherzinger, mab Gary Barlow, cyfres newydd White Lotus, sioe Theatr Bara Caws, llyfe 'Sgen I'm Syniad', patches moel Mari, brech y ffliw a covid, Wicked, Gladiator 2 a llawer mwy. Steddwch, swatiwch a mwynhewch.

Pennod 17 07.11.2024

Wel, wel - cymaint i'w drafod yr wythnos yma. Yn bennaf, yr etholiad ar draws yr Iwerydd. Heb sôn am ein hoff raglenni teledu, aelod newydd i'r teulu Beard, noson tân gwyllt, Terry's chocolate orange a llawer mwy! Croeso i'r siop siarad. *Nodyn: Cafodd y bennod hon ei recordio ar noswyl yr etholiad cyn i'r Arlywydd newydd gael ei ddatgan.

Pennod 16 31.10.2024

Calan Gaeaf hapus i chi! Ar ôl wythnos i ffwrdd, mae'r siop yn orlawn o sgyrsiau di-ri - o barti gwylio Rupaul's Dragrace Actavia yn Bala, rhoi sudd pickle mewn Diet Coke, supplements madarch, pwy sy'n rhedeg cyfrif Huns Cymru, giggles yn gwaith a llawer mwy. Dewch i mewn...os meiddiwch chi. Mwahahaha! T.W. Mae trafodaeth fer am hunan-laddiad yn y bennod hon.

Pennod 15 17.10.2024

Wythnos arall, pennod llawn dop arall. Da ni'n trafod aduniad ysgol Meilir, cyfresi podlediadau da, buddugoliaeth Lost Boys and Fairies yn yr Attitude Awards, y drama ar Strictly, Rupaul's Dragrace a llawer mwy. Mwynewch!

Pennod 14 10.10.2024

Wel, da ni'n "cooking on gas" rwan gyfeillion a dyma bennod orlawn arall o hanesion, argymhellion, cwynion a chynigion. O ddigwyddiadau'r wythnos, rhaglenni newydd S4C, llyfrau newydd, ymweliad Mari â Llanuwchllyn, dychweliad Big Brother a stormydd trofannol. Dyna ddigon o restru, amser gwrando.

Pennod 13 04.10.2024

Gwenwch, mae'n ddydd Gwener! Mae cymaint i'w drafod yr wythnos yma, dyma bennod gynnar i chi. Yn cael sylw'r bennod yma mae sioe Olion gan Gwmni Fran Wen, British Podcast Awards, The Deliverance, Adam Brody yn Nobody Wants This, Beyonce a Jay Z, Dame Maggie Smith, Maggi Noggi ac wrth gwrs, eich cynigion chi, y gwrandawyr. Mwynewch!

Pennod 12 30.09.2024

O, ma hi'n braf bod nol a diolch i chi am ddychwelyd atom ni! Dydi Mari a Meilir yn sicr ddim wedi anghofio siarad siop, fel y clywch chi'r bennod yma. Mae na sgwrs am atgyweirio tai, P.Diddy, Kaos, hoff 'meal deals', Cabarela, dwyn enwau podlediadau (wps), Olivia Attwood's Bad Boyfriends, Agatha All Along, albwm Lady Gaga a llawer, llawer mwy (coeliwch neu beidio). Dewch i mewn, os meiddiwch chi....

Pennod 11 23.09.2024

Da ni nol! Ar ôl haf prysur, mae'r siop ar agor unwaith eto ac mae yna lond silffoedd o hanesion ar eich cyfer chi. O fabi newydd Mari, Meilir yn gwylio Adele a rhyw fedal ddramatig ar y naw... Pam da chi'n aros, dewch i mewn!

Pennod 10 01.07.2024

Dyma "welai di wap" yn hytrach na "hwyl fawr am byth"! Cyn i Mari fynd i gyflawni gwyrth y geni, roedd rhaid recordio un bennod fach arall i'ch cadw chi'n 'stocked up' tan tro nesa. Mae na ddigon yn y sgwrs yma i'ch cadw chi'n ddiddyg am dipyn - Chappell Roan, Glastonbury, Shania Twain, Celine Dion, Arabic Flavours Aber, Pride Caerdydd, triongl cariad Ayame a Yuval, stori gywilyddus arall gan Meil...

Pennod 9 19.06.2024

Shwmai! Peth da ein bod ni wedi aros noson ychwanegol cyn recordio, er mwyn gallu trafod y be ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality neithiwr! Yn ogystal â'r newyddion gwych am Catty a Stevie Nicks, House of the Dragon yng Nghymru, Justin Timberlake yn cael ei arrestio, caneuon catchy Sabrina Carpenter a holl gwestiynnau'r gwrandawyr! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

Pennod 8 12.06.2024

Mae hi'n oer tu allan felly dewch i mewn i gadw'n gynnes. Mae yna ddigon o newyddion tanboeth i'n cadw ni i fynd nes daw'r haf. O gyngherddau Taylor Swift, Troye Sivan a Pink, datblygiadau AI Meta ac Apple i gyfres deledu newydd Sian Eleri. Swatiwch, gwrandewch a mwynhewch!

Pennod 7 06.06.2024

Mae'n sgyrsiau ni yn dod â phawb i'r iard...ac mae na lot i'w drafod yr wythnos hon. Lost Boys and Fairies, mis Pride, Eisteddfod yr Urdd, talfyriadau, dadleuon gwleidyddol, triongl cariad Tik Tok... Ydyn ni 'di anghofio rhywbeth? Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

Pennod 6 29.05.2024

Wel, am wythnos lawn dop! Digon i lenwi siop o siarad. Yr etholiad cyffredinol, albwm newydd Eden, Eisteddfod yr Urdd, Kelly Rowland yn Cannes, arrestio Nicki Minaj, Gypsy Rose a Kim K, llwyddiant Catrin Feelings a mwy...coeliwch neu beidio!

Pennod 5 22.05.2024

Llond trol o straeon yr wythnos yma, bois bach! O linach Cymraeg Dolly Parton, rhaghysbyseb Wicked, araith seremoni raddio Harrison Butker, canlyniad yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed ac actorion cwiar ar gyfer rhannau cwiar. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

Pennod 4 15.05.2024

Rhwng drama yr Eurovision, y celebrity block list a'r cyfweliad na rhwng Piers a Fiona, mae Mari a Meilir fel dwy felin bupur yn yr wythnos yma. Heb sôn am rhyw ymddangosiad bach ar y teli bocs nos Lun. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

Pennod 3 08.05.2024

Cymaint o newyddion i'w drafod yr wythnos yma gan gynnwys y MetGala, cyhoeddiad Y Llais ar S4C, ymgyrch Sara Davies a Coco & Cwtsh i gael Cymru i Eurovision, canlyniad yr etholiadau lleol a llysnafedd malwod... Dewch i mewn! Mae'r siop ar agor.

Pennod 2 01.05.2024

Da ni'n mynd rownd y byd heno wrth drafod bob dim o Jojo Siwa i Janet, llais yr isymwybod... Mi wnewch chi ddeall pan glywch chi'r sgwrs. Mae'n amser agor y siop!

Pennod 1 24.04.2024

Doedden ni methu sdopio siarad, RuPaul's Dragrace neu beidio...felly dyma gangen o'n podlediad lle NAD OES rhaid i chi fod yn dilyn y gyfres i ymuno yn yr hwyl. Mae Siarad Siop yn ychwanegiad bach i'n cymuned Cwîns lle fyddwn ni'n trafod materion cymdeithasol a hel straeon o wythnos i wythnos (diwylliant pop yn bennaf). Croeso i'r teulu, Cwîns. Mae'r siop nawr ar agor...

Y Ffeinal...o'r diwedd! 05.04.2024

Hir yw pob aros ond dyma ni'r bennod olaf o'r gyfres! Er nad oedd yr enillydd yn sioc, roedd na gymaint i'w fwynhau (a'i feirniadu) yn y bennod. Diolch i chi gyd am wrando, am gefnogi ac am gyfrannu at y sgwrs. Da ni wir yn gwerthfawrogi. Felly am y tro, mwynewch!

Mwy o gyw iâr amrwd na rhôst 26.03.2024

Diolch byth am ddoniau stand-up Hannah a Tia neu mi fyse'r bennod yma wedi bod yn siom enfawr. Ydi tasg stand-up yn deg pan nid Saesneg yw mamiaith hanner y Cwîns? Ddylse'r dair Cwîn fod wedi bod yn y gwaelod? Gewch chi glywed beth oedd gan Mari a Meilir i'w ddweud nawr!

Rhyddhewch ni...o'r dasg yma 20.03.2024

Sawl tasg wael arall sydd rhaid i ni ddioddef? Fyse chi wedi rhoi "seveeen" i'r bennod yma? Er gwaetha'r diffyg cynnwys, dydi hynny ddim wedi rhoi taw ar drafod Mari a Meilir.

Amser Gothy i gymryd ei bow 12.03.2024

Roedd y bennod ddiweddaraf yn llawn tasgau amheus - o 'reading challenge' ddi-fflach i sioe gerdd heb sioe. A wnaeth Gothy aros wythnos yn ormod? Ydi cangen 'UK vs The World' yn cael llai o ofal na changhenau arall y gyfres? Mae gan Mari a Meilir ddigon i'w ddweud ar y mater.

Pwy sydd am ddweud wrth Jane? 04.03.2024

Mae hi'n amser snatchgame unwaith eto! Oedd hi'n un llwyddiannus? Wnaeth Jane McDonald a Sinitta lwyddo i achub y llong rhag suddo? Pa wisg gipiodd y fflag, ac a oedd Ru yn rhy galed ar Gothy? Pwyswch play ac fe gewch chi glywed adolygiad Mari a Meilir a llawer llawer mwy.

Siarad Siop efo Mari a Meilir podcast'ini Replaio'da dinle

Radyo ve podcast'ler tek uygulamada - ücretsiz, kayıt gerektirmez. Bugün yükle ve lansmanı kaçırma

Google Play'den indir

Replaio bir podcast yayıncısı değildir; program adları, kapak görselleri ve ses içerikleri yazarlarına aittir ve herkese açık RSS beslemeleri aracılığıyla dağıtılır