BBC Radio Cymru
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.
Vizitează neapărat site-ul podcastului și susține-i creatorul: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categorie
Site-ul podcastului
Cel mai nou episod
19 nov. 2026
Unde asculți?
Podcasturi în aplicație Replaio Radio În curândPodcasturile ajung în curând în aplicație. Instaleaz-o acum și fii primul care descoperă o abordare complet nouă a podcasturilor
Episoade
Ydi Cymru'n gwella o dan Bellamy? 19.11.2026 45:21
Daeth ymgyrch Cymru i ben yng Nghrŵp A4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd wrth golli yn erbyn Norwy a Phortiwgal. Un fuddugoliaeth mewn chwe gêm oedd hi felly, gan orffen ar waelod y grŵp. Ac un fuddugoliaeth mewn 10 gêm ydi'r record druenus ar gyfer y flwyddyn gyfan. Ond wrth i'r golygon droi at gêm ail-gyfle er mwyn ceisio osgoi disgyn i Adran B, mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jon...
Her Cymru i aros yn Adran A 12.11.2026 50:51
Gyda dwy gêm yn weddill yn erbyn Norwy a Phortiwgal (heb Cristiano Ronaldo), fe all Cymru orffen yn ail, trydydd neu olaf yn ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Ac mae'r tri safle yna yn gallu golygu pedwar canlyniad gwahanol - lle yn rownd yr wyth olaf, aros yn adran A, gêm ail-gyfle neu disgyn i Adran B. Digon yn y fantol a digon o hollti barn rhwng Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcol...
Ffeithiau, ffeithiau a mwy o ffeithiau 05.11.2026 52:19
Ar ôl perfformiad "anobeithiol" yn erbyn Sheffield United, tarodd Wrecsam yn ôl mewn steil gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Middlesbrough - y tîm ar frig y Bencampwriaeth. Digon i dynnu'r pwysau oddi ar ysgwyddau'r rheolwr Phil Parkinson fasa nifer yn ei feddwl... ond ddim felly Malcolm Allen! Mae o'n dal at ei farn bod rhaid curo Wolves dydd Sadwrn er mwyn tawelu'r sibrydion am ddyfodol y rheolwr...
Mae dy drôns yn cymryd drosodd! 29.10.2026 50:59
Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn blwyddyn er mwyn chwerthin ar ben helynt Manchester United. Does ganddyn nhw fawr o eiriau caredig i'w ddweud am ymateb Mikel Arteta i gerdyn coch Max Dowman, ond mae'r clod yn enfawr i Harry Kane am ennill gwobr y Ballon d'Or.
Ges di air efo Parky? 22.10.2026 40:09
Aeth Mal i'r Cae Ras i wylio Wrecsam yn curo Preston yn hawdd - ond chafodd o ddim ei blesio gan y perfformiad, na chwaith cyfle i holi'r rheolwr Phil Parkinson am ei dactegau wedi'r gêm. Ydi Parkinson wir o dan bwysau a hwythau dim ond tri phwynt yn fyr o safleoedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth. Er colli i West Ham, parhau i edrych i lawr ar bawb mae Abertawe. A does gan Ows ddim amheuaet...
Norwy nesa' i Gymru ac Abertawe yn mynd o nerth i nerth 15.10.2026 55:14
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiad Cymru yn erbyn Albania sydd wedi mynd a thîm Rhian Wilkinson gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2027. Norwy fydd y gwrthwynebwyr nesa'...a chyfle i brofi pwynt yn erbyn y cyn rheolwr Gemma Grainger. Ac wrth i Abertawe eistedd ar frig y Bencampwriaeth wedi 10 gêm gynta'r tymor, ydi hi'n amser dechrau ystyried bod ganddyn nhw...
Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru 07.10.2026 51:11
Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ys...
Lle mae Cymru yn mynd o fa'ma? 01.10.2026 53:22
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros ddau ganlyniad siomedig i Gymru yn erbyn Portiwgal a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Tra bod yna falchder yn y perfformiad wrth golli yn Lisbon, mae'r perfformiad yn Copenhagen wedi codi cwestiynau dyrys dros safon y garfan a thactegau'r hyfforddwr Craig Bellamy. A chyda gemau cartref yn erbyn Norwy a Denmarc i ddilyn, mae'n...
Mae'r Ronaldo bach 'na yn ei chael hi! 24.09.2026 44:55
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu gobeithion Cymru mewn gemau oddi cartref heriol yn erbyn Portiwgal a Denmarc.
Bellamy, Parkinson a dannedd yn hedfan 17.09.2026 52:16
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi tawelu'r amheuon wrth ymateb i gwestiynau am ei drafodaethau efo Burnley. Roedd yna "ddiffyg parch" gan Bellamy yn ôl Malcolm, tra bod Owain yn credu bod yr holl broses yn rhywbeth cyffredin iawn yn y byd pêl-droed. Un peth anghyffredin iawn, serch hynny, ydi'r pwysau mae rheolwr Wrecsam Phil...
Rwbath efo Mick Jagger 10.09.2026 50:28
Penodiad Ashley Williams ac Alan Sheehan i dîm hyfforddi Craig Bellamy gyda Chymru sy'n hawlio prif sylw Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones ar y bennod yma. Mae 'na gryn edrych ymlaen hefyd i gynhadledd y wasg wythnos nesaf pan fydd Bellamy yn cael ei gwestiynu am y tro cyntaf am ei gysylltiadau gyda Burnley dros yr haf. Mae'r bennod yn cael ei amharu gan argyfwng Mal gyda'i giw i...
Abertawe ar y brig, Caerdydd a Wrecsam dal heb ennill 02.09.2026 50:33
Tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac mae Owain Tudur Jones yn barod yn breuddwydio am flasu'r bwyd ysblennydd sydd ar gael i'r wasg gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr. Do, mae Abertawe wedi cael cychwyn calonogol iawn i'r tymor ac yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at y gobaith am dymor llwyddiannus, mae'r clwb wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr trosglwyddo, ac wedi llwyddo i...
Syrthio mewn cariad yn Aberystwyth yn 15 oed 27.08.2026 52:50
Beth oeddech chi'n neud yn 15 mlwydd oed? Ddim yn chwarae i Gaerdydd, mae hynny'n sicr. Ond dyna mae Noah Anyadike wedi ei gyflawni ar ôl cael ei ddewis i gychwyn mewn gêm yng Nghwpan y Gynghrair i'r Adar Gleision. Yn sicr, mae gan y rheolwr Brian Barry-Murphy meddwl mawr o'r Cymro ifanc. Ai dyma'r seren nesaf i gamu allan o'r academi? Ychydig wythnosau'n ôl, roedd Bobby Kamwa yn arwr i gefnogwyr...
Cychwyn calonogol i bawb 20.08.2026 58:59
Pwynt yr un i Gaerdydd a Wrecsam; buddugoliaeth yr un i Abertawe a Chasnewydd - roedd yna rywbeth i bawb ar benwythnos agoriadol y tymor i'r clybiau EFL. Ai dyma'r tymor fydd Rubin Colwill yn torri mewn i gynlluniau Craig Bellamy? Lle mae Wrecsam angen cryfhau? Fydd Zan Viponik dal yn Abertawe wythnos nesaf? Ydi Hayden Mullins wedi darganfod y gyfrinach yng Nghasnewydd? Ac mae Owain a Malcolm yn t...
Colli dannedd a siom 'Sdeddfod 12.08.2026 42:35
Ar drothwy tymor newydd, mae'n amser proffwydo unwaith eto wrth i Abertawe, Caerdydd a Wrecsam gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ail haen Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Pwy fydd yn gorffen uchaf? Fydd unrhyw un yn cael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair? Mae gan Brennan Johnson gartref newydd arall wrth iddo adael Crystal Palace am Everton. Fydd David Moyes yn gallu datgloi'r gyfrinach i gael y...
Newid rhwng dau gar mewn maes parcio 05.08.2026 51:35
Ar drothwy tymor newydd, mae'n teimlo fel bod y byd pêl-droed wedi ei throi ar ei phen. Pwy feddylia fod llywydd Fifa, Gianni Infantino, yn cynllunio i werthu Cwpan Y Byd? Wel, mae’r ymateb wedi bod yn chwyrn, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar flaen y gad. Testun balchder i’r criw Coridor yn sicr. Roedd ‘na gychwyn addawol i’r Cymru Premier, sydd ar ei newydd wedd, wrth i’r cefnogwyr heidio i’r...
Cwpan y byd a chlybiau Cymru yn Ewrop 22.07.2026 48:51
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych yn ôl ar rownd derfynol y Cwpan y byd, y sioe hanner amser ag yn dewis chwaraewr y twrnament. Mae'r tri hefyd yn ceisio ffeindio ateb i broblemau timau domestig Cymru yn Ewrop.
Croeso adra, cynffon rhwng y coesau! 16.07.2026 57:01
Heb os, mae 'na ddathlu, ac elfen o ryddhad ymysg y criw, bod Lloegr wedi methu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd. Yr Ariannin aeth a hi yn Atlanta, wrth i'r dewin bach Lionel Messi ddangos ei allu arbennig unwaith eto. Ond mi oedd y Saeson yn agos iawn at ennill - tybed os mai penderfyniadau tactegol y rheolwr Thomas Tuchel oedd ar fai? A sôn am agos, mae'r ras i ennill gem y broffwydo Cwpan...
Ffwlbri Fifa, paffwyr Paraguay a tactegau Tuchel 07.07.2026 56:34
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pori dros wythnos o ddigwyddiadau rhyfeddol yng Nghwpan y Byd. Mae'r tri hefyd yn crynhoi perfformiadau Cymru ym Mhencampwriaeth dan19 Ewrop ac yn ystyried pa fath o reolwr fyddai'n fodlon gweithio o dan Huw Jenkins yng Nghasnewydd.
Blerwch Burnley Bellamy 01.07.2026 56:19
Fydd Craig Bellamy ddim yn gadael Cymru am Burnley wedi'r cyfan... ddim am y tro beth bynnag. Ar ôl edrych mai mater o amser oedd hi cyn i reolwr Cymri adael am Turf Moor, daeth y trafodaethau i ben yn sydyn, gan adael sawl cwestiwn i'w hateb. Pa effaith fydd yr helynt yn ei gael ar ei berthynas gyda chefnogwyr a chwaraewyr Cymru? Ydi'r Gymdeithas Bêl-droed yn sicr mai Bellamy ydi'r rheolwr cywir...
Yr Oval ar ei newydd wedd 25.06.2026 1:05:20
Sgwrs gyda rheolwr Caernarfon Richard "Fish" Davies wrth i'r Oval baratoi i gynnal gemau Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £1.3m. Ac ydi, ac y tro cyntaf yn hanes y stadiwm enwog, mae'r cae yn wastad! Ond cyn hynny, mae'r criw yn trafod stori fawr yr wythnos wrth i Craig Bellamy gynnal trafodaethau gyda Burnley er mwyn ymuno fel rheolwr. Ar ben hynny, mae Aaron Ram...
Mae Cwpan y Byd yn plesio! 18.06.2026 46:19
Er absenoldeb Cymru yng Ngogledd America, mae 'na gynnwrf mawr ymysg y criw wedi'r wythnos gyntaf o gemau. O hat-tric Messi i sgiliau Olise, mae digwyddiadau ar y cae wedi gorchfygu'r pesimistiaeth a'r amheuon yn arwain at y gystadleuaeth. Dim ond dwy gêm tydi Malcolm heb wylio... ydi'r diffyg cwsg yn dechrau dangos? Ond cyn hynny, rhown deyrnged i gyn chwarae Cymru a chyn reolwr Abertawe Kenny Ja...
Edrych mlaen i Gwpan y Byd? 11.06.2026 44:07
Ma Dylan, Owain a Malcolm yn edrych nol dros gemau diweddar timau dynion a merched Cymru, ac ar drothwy Cwpan y Byd 2026, ma'r tri yn dewis tim ma nhw am ei gefnogi.
Bellamy yn agor y drws i Koumas 04.06.2026 49:12
Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth? Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl p...
Her newydd Ben Davies a Harry Wilson 27.05.2026 50:16
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried pa opsiynau fydd gan Ben Davies a Harry Wilson i'w hystyried pan ddaw eu cytundebau i ben fis nesaf gyda'u clybiau presenol. Ac mae hi'n ddiwedd cyfnod yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth i sawl wyneb cyfarwydd a dylanwadol iawn adael.
Podcasturi asemănătoare
Replaio nu este editorul podcasturilor; numele emisiunilor, coperțile și materialul audio aparțin autorilor lor și sunt distribuite prin fluxuri RSS publice