BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Não deixe de visitar o site do podcast e apoiar quem o produz: www.bbc.co.uk
Autor
BBC Radio Cymru
Categoria
Site do podcast
Último episódio
4 de out de 2026
Onde ouvir?
Podcasts no app Replaio Radio Em breveOs podcasts estão chegando ao app. Instale agora e seja o primeiro a descobrir um jeito totalmente novo de curtir podcasts
Episódios
Hywel Gwynfryn 28.08.2022 52:38
Hywel Gwynfryn sydd yn sgwrsio gyda Beti George.
Seren Morgan Jones 21.08.2022 50:14
Seren Morgan Jones sydd yn gwmni i Beti George.
Ann Catrin Evans 15.08.2022 45:09
Ann Catrin Evans sydd yn gwmni i Beti George.
Ifan Jones Evans 07.08.2022 48:14
Beti George sydd yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Ifan Jones Evans
Dr Delyth Badder 24.07.2022 48:19
Beti sydd yn sgwrsio gyda Dr Delyth Badder
Nicola Davies 10.07.2022 51:46
Cobiau Cymreig yw diléit gwestai Beti George, Nicola Davies, Cadeirydd Cyngor y Sioe Frenhinol. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Abertawe, nol aeth hi i’w chartref yng Ngheredigion fel ei bod yn medru helpu gyda’r busnes bridio cobiau, Bridfa Maesmynach. Mae hi’n weithgar yn y gymuned amaethyddol, yn y Ffermwyr Ifanc a gyda’r Sioe Frenhinol, ac yn ddiweddar fe ddaeth y fenyw gyntaf i fod yn Gadeirydd C...
Meirion Jones 03.07.2022 50:32
Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones. Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dys...
Catrin Atkins 19.06.2022 51:33
Catrin Atkins ydi'r cwmni yr wythnos hon. Cafodd ei geni gyda Spina Bifida a hydrocephalus, ac mae hi’n sôn am y cyflyrau yma a sut maen nhw wedi effeithio arni. Mae hi bellach yn Coach - Y Coach Cymraeg, ac yn siarad gyda chleientiaid ar draws y byd. Mae hi’n sôn nad oes enw Cymraeg am Coach - sydd yn esbonio yn union beth ydi'r gwaith. Mae'n chwaer i Barry Griffiths, fu'n reslo yn y WWE, ond syd...
Geraint Davies 12.06.2022 49:58
Wrth iddo ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda ar ôl 30 mlynedd yn y swydd, mae Beti yn sgwrsio gyda Geraint Davies. Cawn glywed am ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, fferyllydd lleol, a'i rôl flaenllaw yn ei glwb tennis lleol.
Ceri Isfryn 05.06.2022 51:01
Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y dis...
Siân Eirian 29.05.2022 41:07
"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer...
Russell Isaac 22.05.2022 50:04
Russell Isaac yw gwestai Beti George - cyn-newyddiadurwr, sydd bellach yn gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig ac i gorff yn Asia sydd yn paratoi'r gwledydd rhag y trychinebau sydd yn debygol o ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.
Dr Sara Louise Wheeler 15.05.2022 49:08
Beti George yn sgwrsio gyda'r bardd, llenor ac artist llawrydd Dr Sara Louise Wheeler. Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi’n falch iawn o’i acen Rhos. Mae ganddi gyflwr genetig prin, sef Syndrom Waardenburg Math 1, sy'n golygu fod ganddi ddadbigmentiad yn y croen, gwallt, llygaid a chochlea - ac sydd yn golygu ei bod yn colli clyw. Mae hi’n fardd ac yn llenor ac yn artist llawrydd. Ar hyn o bryd mae hi...
Catrin Ellis Jones 08.05.2022 50:22
Catrin Ellis Jones yw gwestai Beti ai Phobol, ac mae ei stori yn mynd a ni o Sling, Tregarth i Folivia a Chile a nôl i’r Fenni lle mae hi’n byw bellach gyda’i theulu. Mae hi’n gweithio gydag un o gwmnïau gwerthu ynni mwyaf Ewrop, Vattenfall fel Pennaeth Ymrwymiad Rhanddeiliaid a Chymunedau ac yn trafod gyda chymunedau sut y gall ynni gwynt fod o fantais iddynt. Bu’n byw ac yn gweithio ym Molivia a...
Meleri Tudur 01.05.2022 49:41
Y gyfraith yw maes gwestai Beti ai Phobol a hynny gyda’r Tribiwnlysoedd. Mae’n Farnwr yn Ddirprwy Lywydd y Siambr, mae ganddi sedd yn yr Uchel Lys a hi yw’r Barnwr sydd yn arwain ar foderneiddio’r llysoedd, ac mae hi’n fam i 5 o ferched. Meleri Tudur sydd yn cadw cwmni gyda Beti George.
Dyfed Edwards 24.04.2022 48:55
Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd y...
Dai Jones 17.04.2022 50:18
Fel teyrnged i’r diweddar Dai Jones Llanilar, dyma gyfle eto i wrando ar ei sgwrs gyda Beti George o 2002 , rhaglen arbennig a recordiwyd gyda chynulleidfa yn Neuadd Rhydypennau, Aberystwyth.
Carren Lewis 10.04.2022 47:42
Carren Lewis yw gwestai Beti George ac mae ei stori yn mynd a ni o Penrhyndeudraeth i Dwrci a nôl i Sir Benfro. Yn ganolog i'r stori mae hanes ei mab bach mabwysiedig gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. Merch o Benrhyndeudraeth ydi Carren, bu'n byw ym Mhwllheli am gyfnod ac wedyn fe aeth draw i Dwrci i weithio yn Marmaris. Yno cyfarfu â'i gwr, ac ar ôl cyfnod anodd yn derbyn...
Beks - Rebekah James 03.04.2022 53:10
Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei...
Tegryn Jones 27.03.2022 52:06
Tegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 i sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
Elin Mai 20.03.2022 50:35
Elin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai... Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Hold...
Gwenan Roberts 13.03.2022 50:45
Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni. C...
Siân Elen Tomos 07.03.2022 49:55
Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng...
Wyn Thomas 20.02.2022 47:18
Wyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.
Edward Keith Jones 13.02.2022 49:12
Edward Keith Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Brif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mynydda yw ei ddiléit pennaf, ac fe ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonynt, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Yn yr 8 mis diwethaf fe gafodd salwch difrifol a olygodd wythnosau lawer yn yr ysbyty yn ymladd am ei fywyd.
Podcasts parecidos
O Replaio não é o publicador dos podcasts; os nomes dos programas, as capas e o áudio pertencem aos seus autores e são distribuídos por feeds RSS públicos