Jonathan Davies

Ymchwil Ar Y Gweill

Education CY ↓ 14 episodes

Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.

Author

Jonathan Davies

Category

Education

Podcast website

podcasters.spotify.com

Latest episode

Jun 30, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill 30.06.2026

Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2! Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres. Cyn hynny, mae croeso i chi fy...

Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes 29.06.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymc...

Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins 14.05.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.   Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau per...

Pennod 10: Y Gymraeg ac Iechyd gyda Maisie Edwards 15.04.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Maisie Edwards, ymchwilydd PhD sy’n archwilio rôl y Gymraeg mewn cyd-destunau Iechyd yng Nghymru. Yn ystod y sgwrs, trafodir pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gofal sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn enwedig mewn cyd-destunau diwedd oes. Mae Maisie yn amlinellu sut y gall y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg effe...

Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian 25.03.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda  Emma Grigorian , ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb. Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi m...

Pennod 8: Gweithio gyda Goruchwylwyr gyda Dr Jonathan Morris 20.02.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda'i oruchwyliwr, Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am un o’r penderfyniadau pwysicaf ar ddechrau taith academaidd: dewis a gweithio gyda goruchwylwyr doethurol. Yn ystod y sgwrs, trafodir sut i fynd ati i ddod o hyd i’r goruchwyliwr cywir, sut i wneud y cyswllt cyntaf heb deimlo fel eich bod c...

Pennod 7: Deallusrwydd Artiffisial gyda Beca Wyn Owen 04.02.2026

Yn y bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda  Beca Wyn Owen , ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg. Yn ystod y sgwrs, trafodir sut mae technolegau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio, a’r hyn mae hynny’n ei olygu i fywiogrwydd ieithyddol...

Pennod 6: Dyfodol Ffermydd yng Nghymru gyda Gwenllian Jenkins 10.12.2025

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenllian Jenkins, ymchwilydd PhD sy’n archwilio sut mae ffermydd Cymru’n addasu ac yn goroesi yn oes o newid economaidd, gwleidyddol ac hinsoddol.   Mae’r drafodaeth yn mynd â ni i galon amaethyddiaeth Cymru: y fferm deuluol. Wrth i ni ymuno â hi,cawn glywed sut mae newid hinsawdd, ansicrwydd polisi, a’r angen am incwm yc...

Pennod 5: Dosbarth Cymdeithasol a'r Gymraeg gyda Heledd Williams 26.11.2025

Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda’r ymchwilydd Heledd am ei phrosiect PhD hynod ddiddorol, “Y Werin Goll? Dosbarth Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg.” Mae Heledd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng dosbarth cymdeithasol, iaith ac hunaniaeth yng Nghymru heddiw. Yn ystod y sgwrs, cawn drafod sut mae dosbarth yn siapio pwy sy’n cael llais wrth ddiffinio Cymreictod, a pha rôl mae’r...

Pennod 4: Creadigrwydd yn y Cwricwlwm gyda Megan Sass 12.11.2025

Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Megan Sass , ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae creadigrwydd yn cael ei ddeall, ei feithrin, a’i ymarfer yn y dosbarth Cymraeg o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru . Cawn glywed sut mae Megan yn diffinio creadigrwydd, y dulliau y gall athrawon eu defnyddio i feithrin sgiliau creadigol ymhli...

Pennod 3: Y Lysosom gyda Gwenno Rowlands 29.10.2025

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenno Rowlands , ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei gwaith ar y lysosom – y “ganolfan ailgylchu” fach sydd o fewn pob cell o’n cyrff. Mae’r sgwrs yn mynd â ni ar daith drwy fyd bach y gell, gan egluro sut mae camweithrediad mewn ensym penodol, asid seramidas , yn gallu arwain at glefydau prin difrifol fel clefyd...

Pennod 2: Hanes Pel-Droed Cymru gyda Beth Jones 15.10.2025

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill , mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beth Angharad Jones , myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i hanes pêl-droed yng Ngogledd Cymru. Mae Beth yn archwilio sut mae pêl-droed yn siapio hunaniaeth Gymreig, rhywedd a chymuned — o glybiau lleol i dimau cenedlaethol, ac o’r cof bob dydd i’r archif. Drwy hanes llafar, diwylliant materol ac ymchwil arc...

Pennod 1: Dysgu Ynganu gyda Marian Brosschot 01.10.2025

Yn yr bennod hon o  Ymchwil ar y Gweill , dyn ni'n siarad â Marian Brosschot, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, am ei phrosiect  “Hyder wrth (A)ddysgu Ynganu: Datblygu Hyfforddiant Ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion” . Mae ynganu yn un o’r heriau mwyaf i’w feistroli wrth ddysgu iaith newydd – i’r dysgwyr eu hunain ac i’r tiwtoriaid sy’n eu haddysgu. Mae’r ymchwil hon yn archwilio sut y gelli...

Trailer: Ymchwil Ar Y Gweill 28.09.2025

Trailer ar gyfer Ymchwil Ar Y Gweill

Listen to the Ymchwil Ar Y Gweill podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.