Dr Hanna Hopwood

GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

Education CY ↓ 30 episodes

"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'

Author

Dr Hanna Hopwood

Category

Education

Podcast website

www.instagram.com

Latest episode

Jul 30, 2025

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

30 Pennod. 90 o flynyddoedd. A throbwynt | 30 30.07.2025

Pennod 30. Ar Orffennaf 30. Ar y diwrnod mae fy mamgu yn troi'n 90. A blwyddyn o bodlediad: Haf 2024 - Haf 2025. Doedd dim cynllun lawnsio, dim pwysau, dim ond ymddiriedaeth y byddai'r podlediad yn darganfod y bobl oedd ei angen. Ac mae wedi. Yn y bennod hon, dwi'n myfyrio dros beth mae'n ei olygu i greu rhywbeth oedd â'r bwriad i fod yma i aros - mewn byd sy'n obsesiynol am amserlenni a phethau c...

Y bennod olaf ond un | 29 09.07.2025

Y bennod olaf ond un (am y tro!) - nid hwyl fawr sydd yma - ond dechrau newydd. Cyfle i anrhydeddu beth mae'r gofod hwn wedi bod a chyflwyniad ysgafn i'r hyn sy'n dod. Mae'r rhythm ar fin newid - nid achos bod rhywbeth yn dod i ben, ond achos bod rhywbeth arbennig yn barod i ddechrau. Os ydy HARBWR - Ehangu'n Esmwyth yn teimlo fel dy rythm nesaf di, mae croeso i ti ddysgu mwy yma

O na fyddai'n haf o hyd? | 28 25.06.2025

Os yw'r haf yn gyfnod sy'n teimlo fel ei fod yn llithro rhwng dy ddwylo wrth i ti gadw'r heddwch, cynnal y cynlluniau, a gosod dy anghenion di i'r naill ochr - dyma'r bennod i dy helpu i wasgu pause. Byddi di'n clywed am y posibilrwydd o gael haf sy'n teimlo'n wahanol. Nid un sy'n uwch, nid un sy'n brysurach ond un sy'n teimlo mwy fel dy haf di. Ac mae gwahoddiad cynnes i ti enwi yr hyn rwyt ti ei...

'Ydw i'n gwneud synnwyr'? | 27 11.06.2025

Pa mor aml ydych chi'n dal eich hunan yn dweud y geiriau hyn? Sut maen nhw'n gwneud i chi deimlo? Gwrandewch ar y bennod i ddysgu sut gallwn gadw at deimlad y frawddeg hon, heb dynnu oddi ar ein hunan hyder. A gyda llaw - mi rydych chi - wrth gwrs - yn gwneud synnwyr - ddoe, heddiw a fory. Peidiwch â gadael i hunan-amheuaeth ennill y dydd. Gwrandewch i newid y llais mewnol hwn. 

Ein Doethineb Mewnol | 26 21.05.2025

Mewn byd ble mae cymaint yn teimlo eu bod ar ras - sut gallwn ni diwno fewn i'n doethineb mewnol i'n helpu darganfod y llwybr sy'n iawn i ni? Y penodau eraill y cyfeiriir atynt yn y bennod hon ydy Pennod 5: Tymor y Bwa a'r Saeth a Phennod 15: Angen Vs Eisiau. Mwynhewch! *Cofiwch fod unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rannu ar y pod ddim yn gyfystyr â chyngor meddygol, felly os ydych chi'n poeni am rywb...

Problem Prysurseb | 25 07.05.2025

Ydy prysurdeb yn rheoli eich bywyd? A beth yw’r buddion o adnabod a gweithredu o fewn eich llif egnïol? Dyma ddau o’r pethau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon! 

Pan mae cymharu yn gwasgu 'pause' ar ein datblygiad - a sut i wasgu 'play' eto | 24 23.04.2025

Cymharu - p'un ai bod e'n cymharu yr hunan ag eraill neu'n gymharu ni ein hunan gyda fersiwyn ohonom yn y gorffennol - mae e'n gwasgu 'pause' ar datblygiad. Yn y bennod hon, rydyn ni'n archwilio sut mae cymharu yn cymylu'r ffordd ymlaen i ni ac yn oedi penderfyniadau cynhyrchiol, yn ogystgal a beth all gael ei wneud er mwyn shiffto pethau i'r cyfeiriad cywir gyda hyder a rhwyddineb.  *Mae cofrestr...

*Cyfres Fonws: Y Ffordd Ymlaen* | 23 21.04.2025

Yn y bennod hon, mae Hanna'n esbonio sut mae dysgu cofleidio chwilfrydedd a pheidio ag aros am yr 'amser perffaith' wedi Gwneud Bywyd yn Haws iddi hi. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am 12 modiwl y cwrs ynghyd â'r modiwlau bonws! Gwrandewch i ddysgu mwy! *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

*Blas ar fodiwl 'Hunan Hyder' + 'H' Fframwaith GBYH * | 22 20.04.2025

Beth mae cwrs GBYH yn ein ddysgu i ni am hunan hyder? Ym mhennod 5 y gyfres fonws, cawn gyfle i ddysgu ychydig am y modiwl hwn yn ogystal â dod i adnabod yr 'H' ar y fframwaith sy'n sefyll am 'Hawlio'. Mae hwn yn gam pwysig a chyffrous ar y fframwaith sy'n ein helpu i wreiddio'r newid! Ydych chi'n barod i ddysgu am hawlio eich hunaniaeth newydd? *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoed...

*Blas ar Fodel y 3 System Emosiwn + 'Y' Fframwaith GBYH* | 21 19.04.2025

Mae pennod 4 y gyfres fonws yn rhoi cipolwg ar fodel y tri system emosiwn sy'n cael ei gyflwyno ar y cwrs. Mae'r bennod hefyd yn ein gwahodd i ystyried beth mae gwir 'ymrwymo' yn ei olygu a sut mae'r cwrs yn ein helpu i gadw at ein ymrwymiadau mewn ffordd gynaladwy. *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

*Blas ar y modiwl 'Plesio Pobl' + 'B' Fframwaith GBYH* | 20 18.04.2025

Ym mhennod 3 o'r gyfres fonws, cawn flas ar y modiwl sy'n cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â 'plesio pobl'. Rydym hefyd yn cael ein cyflwyno i'r hyn sydd y tu ôl i'r 'B' ar y fframwaith. Sut mae'r cam hwn yn gwneud bywyd yn haws? Gwrandewch i ddarganfod mwy! *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

*Cyflwyno Fframwaith GBYH: Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws* | 19 17.04.2025

Yn ail bennod y gyfres fonws, mae fframwaith unigryw Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws yn cael ei gyflwyno. Heddiw, y cam cyntaf - y 'G' - sydd o dan sylw. Gwrandewch i ddysgu am sut mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffordd wahanol o gyrraedd ein nodau a chynnal ein llwyddiant.   *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

*Cyfres Fonws: Balans Bywyd* | 18 16.04.2025

Croeso i'r gyfres fonws o bodlediad Gwneud Bywyd yn Haws! Cyfres o benodau byrion bob dydd am 6 diwrnod wrth edrych ymlaen at Gwrs Gwneud Bywyd yn Haws: Gwanwyn 2025. Heddiw, rydym yn ail-edrych ar y syniad o 'falans bywyd' a'r teimladau sydd y tu ôl iddo. Sut mae diffinio'r teimlad hwn yn wahanol yn gallu ein helpu? Gwrandewch i ddysgu mwy! *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cy...

Ail-fframio ein meddyliau | 17 26.03.2025

Ydych chi'n dal eich hun yn siarad yn negyddol â chi eich hunan? Neu a ydy hynny'n digwydd mor gyflym fel nad ydych hyd yn oed yn sylwi, efallai? Fe allai fod yn ddefnyddiol ystyried beth mae ail-fframio ein meddyliau yn ei olygu a sut mae hynny'n gallu Gwneud Bywyd yn Haws. Gwrandewch i ddarganfod mwy!

Buddsoddi Amser | 16 12.03.2025

Treulio amser? Gwario amser? Buddsoddi amser? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y disgrifiadau hyn? A sut mae ail-ystyried ein perthynas ag amser yn gallu GBYH? Gwrandewch i ddarganfod mwy!

Angen vs Eisiau | 15 26.02.2025

Pa mor aml dych chi'n dal eich hun yn dweud 'dwi jyst eisiau...' neu 'beth dwi rili eisiau ydy...'. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried beth ydy'r gwahaniaeth rhwng 'eisiau' ac 'angen'? A beth yw'r negeseuon sy'n dod atoch chi wrth newid y gair o 'eisiau' i 'angen'? Gwrandewch i ddarganfod sut mae gwneud y newid hwn yn gallu ein helpu i ddarganfod y pethau a all  Wneud Bywyd yn Haws.

Un peth sy'n gallu GBYH heddiw! | 14 12.02.2025

Cyfle i ddysgu am rywbeth ymarferol heddiw sy'n gallu GBYH. Triwch hwn os ydych chi'n teimlo ychydig bach ar goll yn eich meddyliau er mwyn ail-gysylltu a gwrando ar y doethineb sydd y tu mewn.  HEFYD - blas bach ar newyddion gen i fydd i'w rannu'n llawn yn y bennod nesaf!

Bod yn agored i dderbyn | 13 29.01.2025

Beth mae'n ei olygu i fod yn agored i dderbyn rhywbeth? Yn y bennod hon, cawn gynghorion ar sut mae'r weithred honno yn gallu ein helpu. Trafodir hefyd beth yw ystyr 'glimmers' a sut maen nhw'n mynd law yn llaw â'r syniad o 'dderbyn'. Ydy'r ddau beth hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!

Byw Bywyd Bwriadol | 12 15.01.2025

Beth mae 'byw bywyd bwriadol' yn ei olygu? A sut y gallwn ddechrau gwneud hynny?

Cynllunio ein un bywyd gwyllt a gwerthfawr... | 11 01.01.2025

Ym mhennod gyntaf 2025, cyfle i ystyried beth sy'n gallu ein helpu ar ddechrau cyfnod newydd? Beth yw rhai o'r pethau y gallwn eu hystyried? Sut gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd camau tuag at ein gobeithion mewn modd cynaladwy? Yn ystod y bennod hon, mae Hanna hefyd yn trafod y dyfyniad enwog o gerdd Mary Oliver sy'n aml yn cael ei gam-ddehongli: 'Tell me, what is it you plan to do with your one...

Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10 18.12.2024

Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!

Gwneud lle am emosiynau | 9 04.12.2024

Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n orlawn a ble mae amryw o emosiynau yn dod i'r wyneb, dyma gyfle i ddechrau dysgu sut y gallwn greu lle ar eu cyfer nhw a beth yw'r buddion o wneud hynny. Cawn gyfle hefyd i ddysgu ychydig bach mwy am y critic mewnol. Croeso i GBYH! 

'Gad iddo fynd' versus 'Gad iddo fod' | 8 20.11.2024

Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y gwahaniaeth rhwng 'Gad iddo fynd' a 'Gad iddo fod' yng ngoleuni cân enwog y Beatles 'Let it be'. Sut mae ail-fframio dywediad rydym yn ei glywed yn gyson er mwyn Gwneud Bywyd Yn Haws? 

Beth yw Cwrs GBYH? | 7 06.11.2024

Cwrs GBYH - Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws. 12 modiwl sydd â'r bwriad o wneud yr union beth hynny. Yn y bennod hon, ceir cyfle i gael blas ar gynnwys y cwrs - mae  cofrestru'n cau 10/11/24! Gwrandewch tan y diwedd am wahoddiad i ddysgu mwy cyn ymrwymo. 

Ymrwymo i'ch dewisiadau | 6 23.10.2024

Yn y bennod hon, cyfle am ychydig bach o wybodaeth tameidiol - 'bite-size' - ar 'ddechrau cyn eich bod yn barod' ( start before you're ready ) ac am bwysigrwydd anrhydeddu ymrwymiadau 'dych chi'n gwneud i chi eich hun. 

Listen to the GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.