BBC Radio Cymru

Stori Tic Toc

Kids CY ↓ 273 episodes

Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Kids

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Apr 28, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Fi Biau Hwn 28.04.2026

Mae Ela a Dad yn prynu bwyd i swper mewn archfarchnad prysur. Yn sydyn, mae Ela’n dod o hyd i rhywbeth yn y siop. Ond, yr un pryd, mae hi’n colli rhywbeth sy’n bwysig iddi hi hefyd. Ydi’r un sy’n cael yn cael cadw? Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Meleri Wyn James.

Cân Dawel Dryw 14.04.2026

Dyma stori hudolus sy’n dangos pwysigrwydd dathlu ein gwahaniaethau. Er nad yw’r adar eraill yn mwynhau gwrando ar gân Dryw Bach, gyda help ei ffrind, Cnocell, maent yn dysgu bod llais pawb yn sbesial. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Megan Angharad Hunter.

Dewin a Doti - Sioe Basg Orau'r Byd 24.03.2026

Ydych chi’n barod am stori Tic Toc llawn lledrith a hwyl? Dyma hanes Dewin a Doti a’r het hud, wrth iddyn nhw greu’r Sioe Basg orau yn y byd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

Dewin a Doti yn Gwersylla 10.03.2026

Mae cyffro mawr yn y Cylch Meithrin wrth i bawb baratoi i fynd ar daith gyffrous yng nghwmni Dewin a Doti. Tra bydd y plant yn teithio ar y bws, ar y Balalŵn fydd Dewin a Doti yn gwibio i gyrraedd lleoliad eu gwyliau. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori gan Branwen Gwyn.

Cled a'r Anifeiliaid Anhygoel 24.02.2026

Dyma stori Tic Toc am anifail bach arferol sy’n byw mewn gwlad sy’n llawn anifeiliaid rhyfeddol o od. Croeso i wlad anghygoel lle gewch gwrdd â Mwncici, Gwas y Teigr a Mochingen. Sion Tomos Owen sy'n adrodd stori ei hun.

Ble Mae Pws? 10.02.2026

Mae Pws y gath fach wrth ei bodd yn mynd ar antur. Tybed i ble mae hi wedi mynd heddiw. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Chris Harris.

Maia Non yn Hela Jeli 27.01.2026

Mae Maia Non ar fin cael parti, ond cyn iddo dechrau, mae’n rhaid iddi ddal y jeli! Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Luned Whelan.

Dewin a Doti yn yr Ysbyty 13.01.2026

Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci, sy'n helpu Martha pan ma' rhaid iddi hi fynd i'r ysbyty. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.

Dewin a Doti Ar y Fferm 16.12.2025

Dere i wrando ar stori llawn antur a hud gyda Dewin a Doti’r ci. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Meleri Wyn James.

Meirwen ar Fferm Ffrwd Ffradach 02.12.2025

Dyma stori am Meirwen y gath yn ymweld â Fferm Ffrwd Ffradach. Ond brensiach, rwy’n siŵr na welsoch chi fferm yn debyg i hon o’r blaen. Mae’r anifeiliaid yn gwneud pethau rhyfedd iawn yma. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.

Bedwyr a'r Beics 18.11.2025

Stori ddoniol a rhyfedd iawn yw hon. Mae Bedwyr a’i ffrindiau wrth eu boddau yn mynd ar eu beics yn y parc, ond mae wiwerod direidus eisiau ymuno yn yr hwyl hefyd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Rhys Iorwerth.

Dewin a Doti - Y Goeden Nadolig 04.11.2025

Mae yna gyffro yn y Cylch Meithrin heddiw. Mae Dewin a Doti wedi dod draw i helpu’r plant i addurno’r goeden Nadolig. Gydag ychydig o hud a lledrith mae’r goeden hon wedi ei haddurno’r ryfeddol o hardd. Owain Sion sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

Drws Hudol Dilys 21.10.2025

Dyma stori am antur merch fach o’r enw Dilys sydd ddim yn hoffi cysgu. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.

Diwrnod y Gêm Fawr 07.10.2025

Mae diwrnod y gêm fawr wedi cyrraedd. Ydy’r tîm yn ennill neu’n colli, tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Zach Mutyambizi.

Y Wrach Fach Flêr 23.09.2025

Dewch i helpu Martha i ddod o hyd i’r sŵn mwya erchyll yn y byd. Beth neu bwy allai fod tybed? Lily Beau sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams.

Reji yn y ffair 09.09.2025

Dewch i wrando ar stori am antur Reji a’i ffrind Leia yn y ffair. Lily Beau sy'n adrodd stori gan Natalie Jones.

NiNi a Cwlffyn Sbloej 19.08.2025

Dewch i gwrdd â NiNi sy’n fach a Cwlffyn sy’n gawr. Er eu bod nhw mor wahanol i’w gilydd, mae’r ddau yn ffrindiau mawr, ac eisiau ennill arian i brynu losin. Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

Alys a’r Anrheg Hud 05.08.2025

Gobeithio eich bod chi’n dda am gadw cyfrinach. Stori yw hon am Alys sy’n derbyn anrheg arbennig iawn. Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Elen Mair Thomas.

Iori a Heti a’r Creadur Anhygoel 29.07.2025

Os ydych chi’n mwynhau sosejis, wel mi gewch chi hwyl yng nghwmni Iori a Heti. Tybed fyddan nhw’n dod o hyd i’r Creadur Anhygoel? Lara Catrin sy'n darllen ei stori ei hun.

Seren a Sioe Fawr y Sêr 15.07.2025

Dewch i ymuno â’r teganau. Pan fyddwch chi’n cysgu’n drwm, maen nhw wrth eu boddau yn gwylio sioe hudolus y sêr yn dawnsio a disgleirio yn yr awyr. Lara Catrin sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.

Y Pedair Draig Fach 25.03.2025

Dyma stori am bedair draig fach â sgiliau arbennig sy'n dysgu sut i weithio gyda'i gilydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sion Tomos Owen.

Yr Anrheg 11.03.2025

Dewch i wrando ar stori am anrheg Nadolig arbennig yng nghanol yr haf! Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.

Cân y Gwcw 25.02.2025

Dewch i wrando ar stori am Greta’r gwcw sy’n chwilio am ei llais canu. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams

Alina a Lleuad Eid 04.02.2025

Dewch i ddathlu Eid gydag Alina a Nain Lleuad. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.

Berwyn y Tarw Bosi 14.01.2025

Mae Berwyn y Tarw wedi arfer cael ei ffordd ei hun, ond mae’r gwartheg wedi cael hen ddigon! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Anna Lisa Jenaer

Listen to the Stori Tic Toc podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.