BBC Radio Cymru
Stori Tic Toc
Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Blodi’n Ysbrydoli 31.12.2024 4:57
Dyma stori am Blodi y blodyn haul sy’n codi gwên ar bawb. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Elsi a Magi’r Milgi 10.12.2024 5:02
Dyma stori am Elsi a Magi ei milgi ffyddlon sy’n cael bob math o freuddwydion. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Hanna Jarman.
Lwsi a’r Twll Cwningen 26.11.2024 4:34
Mae Lwsi yn mynd ar daith anhygoel gyda ei ffrind newydd Cai y cwningen. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen
Y Camgymeriad Hapus 12.11.2024 5:16
Dewch i wrando ar stori am gamgymeriad yn arwain at barti hufen iâ. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Seren a'r Seren Wib 29.10.2024 5:14
Dewch i wrando ar stori am seren wib a syrthiodd i’r ddaear yng nghanol y nos. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Robin Be Bynnag 08.10.2024 5:33
Dewch i wrando ar stori am aderyn arbennig ac am edrych, gwrando a bod yn garedig. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.
Diwrnod ar y Traeth 24.09.2024 5:41
Dewch i wrando ar stori am drip llawn hwyl i’r traeth, er falle nid y trip roedd pawb yn ei ddisgwyl. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Tegwen y Ci Bach Swnllyd 03.09.2024 5:35
Ci bach cyfeillgar yw Tegwen ond pam tybed does ganddi ddim ffrindiau? Richard Elfyn sy'n darllen stori gan Brennig Davies.
Antur yr Hen Ddyn 20.08.2024 5:18
Un diwrnod braf yn y parc, mae’r hen ddyn yn dod o hyd i dedi bach yn eistedd ar ei fainc, ond tedi pwy tybed? Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Chris Harris.
Anifeiliaid Nyth y Brain 06.08.2024 5:25
Milfeddyg yw Nain Joseff, a mae e wrth ei fodd yn mynd i’w gweld am bod y tŷ yn llawn anifeiliaid swnllyd. Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Talent Mali 23.07.2024 5:29
Dyw Mali ddim yn meddwl bod ganddi dalent, dim nes bod y syrcas yn dod i’r dre. Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Llŷr y Llyffant 02.07.2024 5:19
Dewch i wrando ar stori am lyffant sydd ddim yn gallu neidio! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Nia Parry.
Siwper Selsgi 11.06.2024 5:42
Dewch i wrando ar stori am gi bach arbennig iawn o’r enw Siwper Selsgi! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Nia Parry.
Seren a'r Lleuad Llawn 28.05.2024 5:40
Dewch i wrando ar stori am antur Seren a’i theganau i’r lleuad. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts. A story about Seren's adventure to the moon.
Meic a'i Feic 14.05.2024 5:57
Dewch i wrando ar stori am fachgen o’r enw Meic a’i feic newydd sbon. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Siani a Ping 02.04.2024 5:02
Pan mae Siani’r crocodeil yn brifo ei choes, mae’r anifeiliad eraill i gyd ofn ei helpu, pawb heblaw Ping. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Llinos Thomas Davies.
Llais ym Mol y Gragen 19.03.2024 5:07
Mae Seimon yn hiraethu am ei nain, nes ei fod yn darganfod cragen arbennig ar y traeth sy’n newid popeth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Mori'r Môr Leidr 05.03.2024 5:10
Môr leidr sy’n caru siocled yw Mori, ac un diwrnod mae’n darganfod trysor arbennig ar y traeth yn Aberystwyth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Anni Llŷn.
Ifan a'r Cloc 13.02.2024 5:03
Mae pawb ond Ifan yn gallu dweud yr amser, ond mae Tic Toc, ceidwad amser, wedi dod i’w helpu. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Miriam Sautin.
Nel a Jeff y Jiraff 30.01.2024 5:13
Wrth fynd am dro un bore yn yr eira mae Nel yn gweld rhywbeth hollol anhygoel. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Enfys 09.01.2024 4:52
Mae Nel yn breuddwydio am gael gweld enfys, ac o’r diwedd mae ei breuddwyd yn dod yn wir. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Jini'r Wylan Fach 19.12.2023 5:17
Yn ystod amser chwarae yn yr ysgol mae’r plant yn dod o hyd i wylan fach ar yr iard. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Harri a Cleif 05.12.2023 5:06
Dydy Harri ddim yn hoffi mynd i gael torri ei wallt, ond y tro hwn mae o’n cael mynd a Cleif efo fo. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Sŵn Siwsi yn Hedfan 14.11.2023 5:13
Mae Siwsi ar fin dathlu ei phenblwydd yn bum mlwydd oed ac yn gobeithio cael anrheg anghyffredin iawn. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Rhiannon Lloyd Williams
Y Dant Wibli Wobli 31.10.2023 5:15
Mae dant Anest yn dechrau dod yn rhydd ond yn gwrthod dod allan, mae hi angen help! Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Leo Drayton.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.