BBC Radio Cymru
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Ble nesaf i'r blaid Lafur? 17.09.2025 23:55
Ar ôl cyfweliad Owain Williams gyda Vaughan yn y bennod ddiwethaf mae Richard yn trafod ei oblygiadau i'r blaid Lafur a'r tensiynau sydd yn y blaid ymhlith y carfanau gwahanol. Mae Richard a Vaughan hefyd yn dadansoddi'r arolwg barn diweddara' gan ITV a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.
Dewis Ymgeiswyr Llafur - Cyfweliad Owain Williams 14.09.2025 16:34
Gydag etholiad y Senedd yn prysur agosáu mae'r pleidiau wedi bod yn mynd ati i ddewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesa'. Mi oedd Owain Williams yn gobeithio bod ar restr y blaid Lafur yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf ond fe fethodd. Mewn cyfweliad arbennig gyda'n golygydd materion Cymreig Vaughan Roderick - mae'n sôn am broses y blaid o fynd ati i ddewis ymgeiswyr.
Problemau Llafur yn Pentyrru ac Is-etholiad Caerffili 10.09.2025 26:37
Gyda'r tymor gwleidyddol newydd yn San Steffan wedi dechrau mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod effaith ad-drefnu cabinet Keir Starmer ar y blaid Lafur. Ar ôl marwolaeth drasig Hefin David yn 47 oed - mae'r tri yn trafod yr isetholiad yng Nghaerffili. Gyda Richard yn ei ddisgrifio fel is etholiad 'gwirioneddol hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru'. Ac mae Vaughan yn sôn am y newid technolegol...
Canrif o Blaid Cymru 11.08.2025 49:03
Wedi ei recordio yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar gan mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru. Mae'r ddau yn trafod gweledigaeth y sylfaenwyr, a sut mae’r blaid wedi datblygu dros y degawdau. Roedd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa hefyd ynglŷn ag etholiad y Senedd flwyddyn nesa', a sut mae gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn newid yn sgîl dyfodiad Refo...
Y Prif Weinidog o dan bwysau 06.08.2025 25:54
Flwyddyn ers i'r fenyw gyntaf ddod yn Brif Weinidog Cymru mae Vaughan yn holi Eluned Morgan am ei phrofiad o arwain y llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi'n dweud bod yn rhaid i'r blaid Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r etholwyr nid "nonsens gwleidyddol mewnol". Mae Yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi'r heriau sy'n ei hwynebu cyn Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' ac yn trafod d...
Reform yn y Senedd a Phlaid Newydd Corbyn 25.07.2025 30:28
Ar ôl i Reform sicrhau ei haelod cynta' yn y Senedd wrth i Laura Anne Jones adael y Ceidwadwyr, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd ei phenderfyniad. Ma' cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod plaid newydd y cyn-arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.
Adroddiad Diwedd Tymor 16.07.2025 29:02
Gyda thymor y Senedd yn y Bae yn dod i ben mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod sut mae'r pleidiau wedi gwneud dros y misoedd dwetha'. Mae'n union flwyddyn ers i Vaughan Gething ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru - faint o gysgod mae ei gyfnod wrth y llyw yn parhau i gael ar wleidyddiaeth Cymru ac ar y blaid Lafur? A gydag adroddiadau bod Jeremy Corbyn yn ystyried creu plaid newydd - faint o e...
Blwyddyn o boen i Starmer? 02.07.2025 27:38
Mae'r Aelod o’r Senedd Llafur, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod blwyddyn o Lywodraeth Syr Keir Starmer mewn grym yn San Steffan. Ar ôl i 49 Aelod Seneddol Llafur bleidleisio yn erbyn mesur i ddiwygio'r system les - faint o hygrededd sydd gan y Prif Weinidog bellach? Mae Alun hefyd yn sôn wrth Vaughan am yr heriau sy'n wynebu'r blaid yng Nghymru a beth sydd angen digwydd er mwyn...
Mwyafrif mawr lot fwy o broblem na mwyafrif bach? 25.06.2025 21:49
Gyda dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi ymgais i atal cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri rhai budd-daliadau anabledd a salwch mae Vaughan a Richard yn trafod y rhwyg yn y blaid a'r her ma hwn yn achos i'r Prif Weinidog Keir Starmer. Mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r ddau i ddadansoddi'r tensiynau o fewn y blaid ac mae'r tri yn trafod sut ma' Lla...
Yn fyw o Tafwyl 16.06.2025 36:55
Mewn pod wedi ei recordio'n fyw o ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae Vaughan a Richard yn trafod os yw Llywodraeth Cymru ar eu hennill wedi adolygiad gwariant y Canghellor, Rachel Reeves. Mae'r ddau hefyd yn trafod sut mae gwleidyddiaeth wedi newid yn ein dinasoedd. A chyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau i Vaughan a Richard.
Arian, Arian, Arian - ond faint i Gymru? 11.06.2025 24:23
Gyda'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei hadolygiad gwariant i adrannau Llywodraeth y DU - faint o arian newydd sydd i Gymru? Mae gohebydd gwleidyddol y BBC Elliw Gwawr, cyn olygydd gwleidyddol y BBC Betsan Powys a'r cyn Aelod Seneddol, Jonathan Edwards yn dadansoddi'r cyfan gyda Vaughan. Ac a oes gormod o bŵer gan y pleidiau wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa...
Ffrae o fewn Reform UK, sioc i Lafur, a siom i’r SNP 06.06.2025 13:50
Ar ddiwedd wythnos gythryblus arall yn y byd gwleidyddol, Kate Crockett sy’n holi Llyr Powell o Reform UK yn dilyn ymddiswyddiad Zia Yusuf fel cadeirydd y blaid. Ac mae ‘na sioc wleidyddol draw yn yr Alban, wedi i Lafur gipio sedd gan yr SNP mewn isetholiad. Mae’r athro Richard Wyn Jones yn trafod beth all hynny ei olygu i obeithion Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Yr ifanc am bleidleisio? 30.05.2025 24:00
Fel rhan o'u taith dros yr haf mae Vaughan a Richard wedi bod i Eisteddfod yr Urdd i ddadansoddi perthynas pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Mae dau aelod o'r Senedd Ieuenctid, Maisie a Ffion yn ymuno â'r ddau i drafod cyflwyno'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed a throsodd a'r pynciau sydd o bwys i'r to ifanc.
Brexit yn ôl ar y fwydlen? 21.05.2025 20:06
Ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cytundeb newydd â'r Undeb Ewropeaidd - ydy'r bartneriaeth ag Ewrop yn ôl ar yr agenda gwleidyddol? Mae Vaughan a Richard yn trafod y polau piniwn diweddara' ac yn ymateb i'r arolwg barn Cymreig arwyddocaol gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl. A pham ymddiheurodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts?
Ffordd goch Gymreig? 07.05.2025 33:47
Wythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Pri...
Y Tir Canol 30.04.2025 18:57
Yn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.
Y Tir Canol 30.04.2025 18:57
Yn dilyn llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol Canada, mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocad y canlyniad i wleidyddiaeth ar draws y byd. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi yr hyn mae'n ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac yn Lloegr.
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru 16.04.2025 30:04
A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru 16.04.2025 30:04
A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
Datganiad Gwanwyn y Canghellor 26.03.2025 21:21
Ar ddiwrnod Datganiad Gwanwyn y Canghellor, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy'n trafod yr anniddigrwydd o fewn rhengoedd y Blaid Lafur a thymor cynadleddau Gwanwyn y pleidiau
Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau? 05.03.2025 25:45
Ar ôl i'r Senedd gymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru mae Elliw Gwawr yn ymuno â Richard a Vaughan i drafod y cyfan. Mae'r tri hefyd yn dadansoddi sut mae'r pleidiau yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2026 a'r tensiynau all godi ymhlith y pleidiau.
Diwygiad ar Droed? 19.02.2025 26:55
Gyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru. Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
Ail ddaergryn ar droed? 29.01.2025 23:11
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf? Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.
Llafur Caled 15.01.2025 26:14
Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur...
Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol 18.12.2024 1:00:49
Yn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru. Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn...
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.