BBC Radio Cymru

Gwleidydda

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Government

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 8, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Golau Gwyrdd i'r Gwyrddion 27.02.2026

Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton and Denton mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd y canlyniad. Mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod beth all hyn golygu ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Sgandalau Gwleidyddol 25.02.2026

Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd. Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton. Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Nôl ar y cledrau? 18.02.2026

Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ariannu cynlluniau i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru gyda buddsoddiad o £14 biliwn o bunnau, mae Vaughan a Richard yn trafod y wleidyddiaeth tu ôl i'r datganiad. Mae'r cynhyrchydd teledu, Steffan Morgan yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod ei raglen fydd ar S4C, Reform UK - Tu ôl i'r llenni, sy'n dilyn y blaid yn ardal Llanelli a Chaerfyrddin. Mae...

Wythnos Ryfeddol 11.02.2026

Ar ôl wythnos dymhestlog yn Downing Street, mae aelod Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod y pwysau sydd wedi bod ar Keir Starmer a'r feirniadaeth bod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan heb fynegi safbwynt clir am ei ddyfodol. Mae'r tri yn trafod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth a gobeithion Llafur ar gyfer Etholiad y Senedd.

Dewis Dan-nisgwyl? 05.02.2026

Ar ôl i Reform UK ddewis eu harweinydd yng Nghymru - Vaughan, Richard a Dan Davies sy'n holi; pwy yw Dan Thomas? A beth yw arwyddocâd ei benodiad i'r blaid? Ac wrth i'r pwysau gynyddu ar Keir Starmer - mae'r tri'n dadansoddi effaith sgandal Peter Mandelson ar arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

Anawsterau’r Arglwydd 04.02.2026

Ar ôl i'r heddlu ddechrau ymchwiliad troseddol i honiadau bod Peter Mandelson wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein pan oedd e'n weinidog cabinet, mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o niwed mae'r sgandal wedi neud i arweinyddiaeth y Prif Weinidog Keir Starmer. Mae'r tri hefyd yn trafod y diweddara' yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ateb eich cwestiynau. Cofiwch bod modd cysyll...

Blocio Burnham 28.01.2026

Ar ôl i Faer Manceinion, Andy Burnham gael ei atal rhag sefyll yn yr isetholiad ar gyfer San Steffan mae Vaughan a Richard yn trafod beth all hynny olygu i'r Prif Weinidog, Keir Starmer. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi’r tensiynau o fewn Llafur Cymru ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood fynnu na fydd Senedd Cymru yn cael pŵer ar blismona. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd tr...

Croesi'r Llawr? 21.01.2026

Ar ôl i ddau aelod mainc flaen y Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid yn San Steffan a Bae Caerdydd, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod arwyddocâd hynny i'r Torïaid a Reform. Hefyd fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol pleidiau, mae Gareth Hughes o'r blaid Werdd yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru wedi arolwg barn calonogol iddi hi yn ddiweddar. Cofiwc...

Prif Weinidog Nesaf Cymru? 14.01.2026

Bethan Rhys Roberts yn holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion blaenllaw o’r gwahanol bleidiau. Rhagor o drafod hefyd gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

"Her fwyaf Llafur yng Nghymru ers 1983" 07.01.2026

Aelod Llafur Blaenau Gwent o'r Senedd, Alun Davies sy'n westai ar y podlediad yr wythnos hon, ac wrth edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru eleni mae'n dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu’r her etholiadol fwyaf yng Nghymru ers 1983. Mae Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn trafod ei sylwadau ac yn dadansoddi gobeithion y blaid ar gyfer mis Mai. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd t...

Ta Ta 2025, Helo 2026 29.12.2025

Wrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf Jones a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Dan Davies. Ymhlith y pynciau dan sylw; buddugoliaeth Plaid Cymru...

Ding Dong 'Dolig 17.12.2025

Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau mewnol o fewn y blaid Lafur ac arolwg barn newydd sy'n awgrymu bod Plaid Cymru yn dal i ennill tir wrth i ni agosáu at Etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesa'. Mae'r ddau hefyd yn trafod aelodaeth pleidiau gyda Reform yn honni mae hi yw'r blaid sydd a'r nifer fwyaf o aelodau ar draws Prydain. Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda...

Golau Gwyrdd i Gyllideb y Llywodraeth 10.12.2025

Ar ôl i Blaid Cymru dod i gytundeb gyda Llywodraeth Llafur Cymru ar y gyllideb mae Vaughan a Richard yn dadansoddi beth gall y goblygiadau fod i Rhun ap Iorwerth a'i blaid. Mae'r ddau hefyd yn trafod llythyr gan nifer o Aelodau Llafur y Senedd ym Mae Caerdydd at y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer yn cyhuddo ei lywodraeth o beidio parchu datganoli. Ac ar ôl cwestiynau dros y penodau dwetha' am annib...

Rhagolygon Ceidwadol 03.12.2025

Gyda llai na chwe mis i fynd tan etholiad Senedd Cymru, mae Vaughan a Richard yn pwyso a mesur gobeithion Y Ceidwadwyr Cymreig yng ngwyneb twf y gefnogaeth i Reform. Mae Paul Davies, aelod Preseli Sir Benfro a chyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn rhoi dadansoddiad o'r heriau sy'n wynebu ei blaid dros y misoedd nesaf. Mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Mae modd i c...

Cyllideb risg uchel? 26.11.2025

Ar ôl i'r Canghellor, Rachel Reeves, gyhoeddi ei chyllideb mae Vaughan a Richard yn trafod ei chynlluniau yng nghwmni Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Catrin Haf Jones gohebydd Seneddol, BBC Cymru. Mae'r pedwar yn dadansoddi'r goblygiadau gwleidyddol a beth fydd yn ei olygu i Lywodraeth Cymru.

For Caerffili, Read Copenhagen 19.11.2025

Wrth i'r Llywodraeth Lafur yn Llundain gyflwyno newidiadau i'r system fewnfudo sy'n seiliedig i raddau helaeth ar y drefn yn Nenmarc, Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a chyn-gyfarwyddwr cyfathrebu rhif 10 gyda Boris Johnson, Guto Harri sy'n trafod pa wersi sydd i'w dysgu o'r profiad yn y wlad honno. Hefyd, beth mae mewnfudo yn ei olygu i wleidyddiaeth yn y cyd-destun Cymreig? Mae Vaugh...

Streeting i aros yn ffyddlon? 12.11.2025

Ar ôl i rai o gefnogwyr Syr Keir Starmer ddweud wrth y BBC bod Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Wes Streeting am herio'r prif weinidog mae Vaughan a Richard yn ceisio dirnad beth yn union sy'n mynd ymlaen yn rhengoedd y blaid Lafur. Mae cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys yn ymuno â'r ddau i ddadansoddi’r cyfan. Mae'r cyn newyddiadurwr, ac ymgeisydd y blaid Werdd yn isetholiad Caerffili, Gar...

Y Gyllideb, Fformiwla Barnett a 'Nonsens' Gwleidyddol 05.11.2025

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r gyllideb ddrafft mae Vaughan a Richard yn dadansoddi sut y gall hi gael ei phasio. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, yn ymuno â'r ddau i drafod, chwe mis cyn etholiad y Senedd, ac yn holi pam bod cymaint o'r pleidiau dal heb gyhoeddi eu hymgeiswyr. Mae Vaughan, Richard ac Elliw hefyd yn ateb cwestiynau gan wrandawyr. Cofiwch fod modd i chi gysyllt...

Plaid a Reform - Rheoli Disgwyliadau 29.10.2025

Mae Bethan Rhys Roberts yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod canlyniad isetholiad Caerffili. Mae'r tri yn dadansoddi ymgyrch Reform UK ac yn trafod os oedd y canlyniad yn fethiant i'r blaid. Mae Cai Parry Jones o Reform UK yn ymuno i drafod y canlyniad gan edrych tuag at etholiad y Senedd blwyddyn nesa'. Mae Vaughan, Richard a Bethan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gy...

Plaid yn Cipio Caerffili 24.10.2025

Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad yng Nghaerffili mae'r Arglwydd Dafydd Wigley yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod arwyddocad y canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi beth mae'r canlyniad yn ei olygu i Reform UK ac i'r Blaid Lafur wrth i etholiad y Senedd blwyddyn nesaf nesau.

D'Hud a D'Lledrith D'Hondt 22.10.2025

Gydag etholiad y Senedd ychydig dros chwe mis i ffwrdd mae Vaughan a Richard yn trafod sut fydd y system bleidleisio newydd, fformiwla D'Hondt, yn gweithio. Mae Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch bod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Cynhadledd Plaid Cymru a Thactegau Ymgyrchu'r Pleidiau 15.10.2025

Cyn ddirprwy Brif Weinidog Cymru a chyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn dadansoddi cynhadledd y blaid a'r awyrgylch ymhlith aelodau gydag etholiad y Senedd flwyddyn nesa' ar y gorwel, a sut all deinameg y pleidiau edrych yn y Bae yn 2026. A chydag is-etholiad Caerffili yn agosáu mae'r tri yn trafod sut mae tactegau ymgyrchu'r p...

Cynhadledd y Ceidwadwyr a'r Bedyddwyr Albanaidd (ETO) 08.10.2025

Arweinyddiaeth arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, sy'n mynd â phrif sylw Vaughan a Richard yr wythnos hon ar ôl ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae'r Cynghorydd Aled Thomas yn ymuno a'r ddau wedi iddo fod yn y gynhadledd ym Manceinion. A beth yw'r cysylltiad rhwng Llanllyfni a'r Bedyddwyr Albanaidd?

Cynhadledd Llafur a'r Bedyddwyr Albanaidd 01.10.2025

Ar ôl i gynhadledd y Blaid Lafur ddod i ben yn Lerpwl, mae cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod araith Keir Starmer. A fydd e'n llwyddo i ysbrydoli ei blaid? Ac mae Richard yn sôn am ei obsesiwn diweddaraf, sef y Bedyddwyr Albanaidd, a dylanwad gwleidyddol sylweddol yr enwad yng Nghymru!

Ai Jeremy Miles fydd yr olaf? 24.09.2025

Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, gyhoeddi na fydd yn ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf, mae cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod yr effaith ar y blaid. Gyda llai na mis i fynd tan isetholiad Caerffili mae'r tri yn dadansoddi'r ymgyrch hyd yma ac yn trafod y data sydd gan y pleidiau ar gyfe...

Listen to the Gwleidydda podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.