Clera
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Clera Mawrth 2018 11.03.2018 54:07
Ym mhennod gyntaf y gwanwyn mae Aneurig yn Pwnco am y ddadl rhwng beirdd sy'n darllen eu gwaith a beirdd sy'n perfformio eu gwaith o'r cof. Mae sgwrs gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru a Steffan Phillips o Lenyddiaeth Cymru, a cherdd yr Orffwysfa yn un arbennig iawn gan taw dyma gywydd croeso Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r fro 2019, gyda'r Prifardd Osian Rhys Jones. Hyn oll a llwyth o'r difyrr...
Clera Chwefror 2018 17.02.2018 57:49
Yn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am beth yw gwerth cerdd, yn sgil colofn ar y pwnc yn Barddas gan y prifardd Ceri Wyn Jones. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Gwyneth Lewis ac rydym hefyd yn adrodd hanes sioe farddol newydd Karen Owen, sef 7 Llais, heb son am lwyth o'r pethau difyr eraill sy'n arferol ar Clera. Diolch yn fawr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones am gael defnyddio ei lun o Karen Owen...
Ionawr 2018 18.01.2018 46:30
Croeso i bennod gynta'r flwyddyn o Clera o gynhesrwydd Tafarn Ffostrasol. Rydyn ni'n dechrau 2018 gydag armywiaeth o bethau barddol, difyr a geeky! Pwnco am y gynghanedd a sut i ateb aceniad estron rhai geiriau, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Cerdd Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs am ffurf yr Anterliwt a llawer mwy o'r eitemau arferol.
Clera Rhagfyr 2017 17.12.2017 53:17
Mwynhewch bennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera. Y mis yma rydyn ni'n Pwnco gyda Llŷr Gwyn Lewis am ei awdl a ddaeth mor agos i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn. Ceir cerdd Orffwysfa nadoligaidd gan Anwen Pierce, y pos gan Gruffudd a'i ymennydd miniog a llawer mwy.
Clera Tachwedd 2017 24.11.2017 59:04
Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
Clera Hydref 17 01.10.2017 53:35
Pennod a recordiwyd yn fyw o Wyl y Cynhaeaf, Aberteifi. Pwnco gyda'r Prifardd Ddoctor Hywel Griffiths ar gysylltiad Afon Teifi gyda Barddoniaeth Gymraeg. Cerdd Orffwysfa gydag Elinor Wyn Reynolds a sgwrs gyda'r bardd Philippa Gibson. Gemau a Giamocs, Pos Gruffudd a'i Ymennydd Miniog a mwy!
Clera Medi 2017 17.09.2017 46:52
Yn y bennod hon ceir sgwrs gyda Phrifardd Cadair Ynys Môn, Osian Rhys Jones, cerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, adolygiad o sioe farddol Ifor ap Glyn,'Y Gadair Wag', Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r Newyddion Heddiw.
Clera Awst o'r Babell Lên 16.08.2017 45:42
Pennod arbennig wedi ei recordio yn fyw o'r Babell Lên gyda gwesteion arbennig, sy'n cynnwys ambell brifardd, a chyn feirdd plant a beirdd dawnus eraill. O'r llinell gynganeddol ddmaweiniol o'r maes i'r Gemau a giamocs, mae digon i'ch difyrru o faes y brifwyl yng Ngwlad y Medra.
Clera Gorffennaf yn fyw o Sesiwn Fawr Dolgellau 25.07.2017 43:06
Pennod wedi ei recordio'n fyw yn Nhy Siamas, Dolgellau fel rhan o ddigwyddiadau Sesiwn Fawr 2017. Diolch i'r trefnwyr am y gwahoddiad. Ein gwesteion arbennig yw'r gantores Lowri Evans a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur. Mwynhewch!
Clera Mehefin 26.06.2017 47:20
Pennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!
Clera Mai 2017 15.05.2017 1:02:17
Ymhlith y danteithion i'ch difyrru ym mhennod mis Mai o Clera, mae sgwrs bwnco arbennig gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn a phennaeth Ty Newydd, Llanystumdwy, Leusa Llewelyn. Hefyd, cerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths o'i gyfrol newydd o gerddi, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!
Clera Ebrill 2017 09.04.2017 1:12:04
Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth...
Clera Mawrth 2017 13.03.2017 1:10:30
Pennod Mis Mawrth 2017 o Clera. Pennod lawn dop y tro hwn, gyda sgwrs Pwnco yn dod o Dy Newydd, Llanystumdwy, Cerdd gan Nofelydd o fri, eitem newydd sbon, sgwrs gyda Golygyddion Y Stamp, adroddiad ar frwydr Slam Farddol fawr, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy!
Clera Chwefror 2017 12.02.2017 57:58
Pennod y Mis Bach, 2017, o Clera. Digon o geekrwydd cynganeddol yn y bennod hon, gyda'r gwestai arbennig, Iwan Rhys, hefyd cerdd newydd gan Fardd Plant Cymru, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy.
Clera Ionawr 2017 15.01.2017 1:03:54
Clera Ionawr 2017 by Clera
Clera Mis Rhagfyr 16.12.2016 52:55
Pennod mis Rhagfyr o bodlediad Clera yng nghwmni Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.
Clera Tachwedd 2016 19.11.2016 51:41
1. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion
Clera Hydref 2016 26.10.2016 48:59
Pennod gyntaf Podlediad misol newydd sy'n trafod barddoni. Y mis hwn mae Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury yn holi pam nad oes cymaint o feirdd yn cystadlu yng nghystadleuaerthau Barddoniaeth yr Eisteddfod bellach, cewch glywed cerdd newydd sbon gan Osian Rhys Jones a hanes Gwyl y Cynhaeaf, Aberteifi, ymysg pethau eraill.
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.