Bangor Cymraeg
Bangor Be Wedyn?
Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli! Diolch i G...
Author
Bangor Cymraeg
Category
Podcast website
Latest episode
Jul 30, 2025
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Teleri Davies 30.07.2025 17:12
"Oedd astudio drwy'r Gymraeg yn benderfyniad naturiol i fi wneud." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Dyma bennod ychwanegol arbennig gyda'r chwaraewr rygbi Teleri Davies! Mae stori Teleri yn un ofnadwy o ddiddorol. Mi astudiodd hi'r g...
Sioned Dafydd 16.07.2025 31:58
"Fi mor mor ddiolchgar bo' fi'n siarad Cymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Yn y bennod yma mi wnes i sgwrsio hefo Sioned Dafydd, cyflwynydd a gohebydd i Sgorio ar S4C. Mae Sioned wedi cael profiadau anhygoel drwy weithio yn y...
Huw Harvey a Malan Fôn 02.07.2025 39:42
"Fedra i ddweud reit sicr, fyswn i ddim lle ydw i wan heb y Gymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd. Cerddoriaeth ydi'r maes sy'n cael sylw yn y bennod yma. Mi wnes i siarad hefo Huw Harvey, aelod o fand Fleur de Lys sydd hefyd yn...
Daniel Roberts a Non Williams 18.06.2025 37:30
Gwyddoniaeth ac ymchwil sy'n cael sylw yn y bennod yma, yn benodol peirianneg electronig a'r gwyddorau amgylcheddol. Yn y bennod yma, mi nes i siarad efo Dr Daniel Roberts, uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor a Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon i Gyswllt Ffermio. Roedd hi'n ddiddorol clywed sut mae'r ddau yn defnyddio'r Gymraeg mewn meysydd lle dydy'r Gymraeg e...
Tomos Owen a Sioned Young 04.06.2025 33:19
"Does 'na ddim con o astudio drwy'r Gymraeg." Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn. Mi ydw i, Huw Gwynn yn siarad hefo dau entrepeneur sydd wedi sefydlu busnesau llwyddiannus eu hunain. Yn gyntaf, Sioned Young sylfaenydd Mwydro, busnes darlunio digidol a marchnata ac yn ail Tomos Owen, perchennog Swig smwddis. Wnes i fwynhau clywed amdan sut wnaeth y ddau ddechrau eu busnesau a sut brofiad oed...
Liam Evans a Rhiannon Williams 21.05.2025 42:52
"dwi'm yn 'nabod neb sy' 'di difaru astudio pwnc drwy'r Gymraeg" Croeso i bodlediad cyntaf Bangor Be Wedyn – lle dwi Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi helpu nhw ar hyd y ffordd. Mi yda ni'n dechrau hefo 'bang' – ges i'r pleser o sgwrsio hefo Liam Evans, uwch-ohebydd BBC a Rhiannon Williams, swyddog hyrwyddo a marchnata S4C...
Podlediad Bangor Be Wedyn? 14.05.2025 1:15
Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol. Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cy...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.