andybmedia
Rhaglen Cymru
Hanes darlledu a llawer mwy
Koniecznie odwiedź stronę podcastu i wesprzyj twórcę: rhaglencymru.podbean.com
Autor
andybmedia
Kategoria
Strona podcastu
Ostatni odcinek
20 paź 2026
Gdzie słuchać?
Podcasty w aplikacji Replaio Radio Już wkrótcePodcasty trafią do aplikacji już wkrótce. Zainstaluj teraz i jako pierwszy zobacz nowe podejście do podcastów
Odcinki
BBC - Papur gwyrdd, golau coch? 17.12.2025 10:07
Podlediad sydyn i gyhoeddiad papur gwyrdd llywodraeth y DU am ddyfodol y BBC. Y papur gwyrdd (fersiwn Gymraeg): https://www.gov.uk/government/consultations/britains-story-the-next-chapter-the-bbc-royal-charter-review-green-paper-and-public-consultation/stori-prydain-y-bennod-nesaf-yr-adolygiad-o-siarter-frenhinol-y-bbc-papur-gwyrdd-ac-ymgynghoriad Y papur gwyrdd (fersiwn Saesneg): https://www.gov...
Digon o ddweud gyda Stifyn Parri 12.12.2025 34:17
Hanner awr bywiog a dadlennol wrth i Stifyn ac Andy drafod y rhaglen 'Paid  Dweud Hoyw' a llawer mwy. Atgofion Stifyn am yr operau sebon 'Coleg' a 'Brookside'', a chyngor am sut i fentora. Mwy am y gusan arbennig ar 'Brookside' ar Sianel 4/S4C: https://ianphillipssite.wordpress.com/2019/03/01/an-interview-with-stifyn-parri-brookside-memories Aduniad 'Brookside': https://youtu.be/jKjR6Mylqzc?si=pw...
Cofio Sulwyn, Gofidio am Eurovision 10.12.2025 13:23
Pennod sydyn arall. Er cof Sulwyn Thomas a'r diweddara am yr Ewrodeledu. Sulwyn: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/ckgl62008rmo Generacja '42 gan Korni Grupa: https://youtu.be/4y8ySFKIEkc?si=QA5dQuEe2u4XXKgf 12fed yn Eurovision 1974 ... a ennillwyd gan ABBA.
Hel straeon 05.12.2025 34:00
Mae Nia Thomas, un o dîm y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, yn westai i Andy y tro hwn. Mae'r pâr yn trafod eu cyfarfod cyntaf yn ystod is-etholiad pwysig, natur newyddiaduraeth a'u bôs gwreiddiol yn y BBC. Sgwrs ddadlennol a difyr. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân wreiddiol 'Y Dydd' TWW. rhaglencymru@hotmail.com
Argyfwng yr Ewrodeledu 04.12.2025 26:43
Pedair gwlad wedi tynnu allan o Ewrodeledu/Eurovision 2026 oherwydd presenoldeb Israel. A fydd 'na ragor? Ymateb sydyn gan Andy + cyfle i glywed am hanes amrywiol yr ESC. Datganiad Undeb Darlledu Ewrop/EBU: https://www.eurovision.com/newsroom/ebu-members-support-reforms-to-eurovision Datganiad RTÉ: https://about.rte.ie/2025/09/11/rte-statement-2026-eurovision-song-contest Ragor o straeon: https://...
Rownd A Rownd @30 28.11.2025 26:19
Cyfle i ddathlu gwaith arbennig criw 'Rownd A Rownd' - y ddrama boblogaidd sy'n dathlu ei phenblwydd yn 30 oed eleni. Mae Llio Non wedi gweithio ar y rhaglen am dipyn - o flaen y camera ac y tu ôl iddo. Hi yw golygydd cyfrol dathlu https://www.ylolfa.com/products/9781800997622/rownd-a-rownd-yn-dathlur-30 A dyma dudalen You Tube y gyfres: https://www.youtube.com/@RowndaRownd Cerddoriaeth gloi: The...
Cyhoeddi, criced a mwy 18.11.2025 45:02
Ar drothwy cyfres y Lludw - The Ashes - dyma Andy'n cynnal sgwrs gydag Alun Rhys Chivers o Golwg 360. Ill dau yn gefnogwyr criced brwd, felly cyfle i drafod y gamp, ei chyfryngau a sefyllfa'r Gymraeg yng nglwb Morgannwg. Hefyd, mae Alun yn sôn am ei waith i ehangu cyraeddiad https://golwg.360.cymru a'i daith newyddiadurol. Erthgl AB am y Lludw: https://golwg.360.cymru/chwaraeon/criced/2185889-ll...
Y Bîb a’i bicil 16.11.2025 31:23
Pennod sydyn arall o’r podlediad Y diweddara am helyntion y BBC - ymateb ar draws y byd, bach o ddadansoddi + sgwrs gyda Karl Davies. Mae Karl wedi gweithio i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ar yr ochr olygyddol AC ac yr ochr weinyddo. Mae ganddo brofiad a safbwynt arbennig iawn i’w gynnig. rhaglencymru@hotmail.com am e-byst. Cerddoriaeth gloi: “Now That I Own The BBC” gan Sparks. https://you...
Mwy o Siân Lloyd 14.11.2025 31:26
Ail ran sgwrs rhwng Andy a'r ddarlledwraig brofiadol ac amryddawn. Cyflwyno'r tywydd, prosiectau lluosog a'i harferion gwylio. Mae S4C yn cael tipyn o glod hefyd! Dau gyn gyd-weithwyr yn rhannu profiadau a safbwyntiau mewn sgwrs ddifyr. Hunangofiant Siân: https://www.abebooks.com/9781844545315/Funny-Kind-Love-Story-Lloyd-1844545319/plp Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Bewitched' ban y New Project Fu...
Y BBC Dan Warchae 10.11.2025 33:56
Pennaeth y BBC, Tim Davie, a pnennaeth Newyddion Y BBC, Deborah Turness, hefyd wedi ymddiswyddo. Dywedodd Cadeirydd y BBC, Samir Shah ei fod yn “ddiwrnod trist i’r BBC”. https://newyddion.s4c.cymru/article/31270 Andy yn cyflwyno pennod sydyn sy'n cynnwys peth o'i sgwrs gyda Richard Martin a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn. Richard oedd ymhlith y deg aelod o banel arbenigol ar ddatganoli darll...
Siân Lloyd 07.11.2025 34:20
Aduniad dros y milltiroedd rhwng Andy a Siân Lloyd. Rhan gyntaf sgwrs dwy bennod: magwraeth, y profiad o fod yn 'wyneb' i'r Sianel Pedwar Cymru newydd a'r "bedydd tân" o gychwyn gyrfa (gyda AB) yn radio lleol yng Nghaerdydd. rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Jackanory'.
Ail Gyfle - Dechreuad S4C 03.11.2025 37:07
S4C newydd droi'n 43!! Felly dyma ail gyfle i glywed sgwrs rhwng Dr Elain Price, awdur y llyfr "Nid Sianel Gyffredin Mohoni", ac Andy am sefydlu a chynnal y sianel. Stori am yr heriau a'r ofnau wrth greu sefydliad. Hon oedd un o bennodau cynnar y podlediad. https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/nid-sianel-gyffredin-mohoni A dyma adroddiad blynyddol diweddara'r sianel: https://www.s4c.cymru/cy...
BBC Bangor @ 90 31.10.2025 30:16
Dyma gyfraniad Rhaglen Cymru tuag at ddathliadau canolfan BBC Bangor yn 90 oed. Conglfaen darlledu Cymraeg ar hyd y blynyddoedd yw Bryn Meirion a chartref y rhaglen Gymraeg fwyaf poblogaidd erioed - 'Noson Lawen'. Y hanes cynnar cythryblus a sylw i'r pennaeth arloesol Sam Jones a geir yn y bennod hon. Atgofion o BBC Bangor: https://www.bbc.com/cymrufyw/31907485 Cerddoriaeth gloi: 'Day Trip To Bang...
Caerffili a'r cyfryngau oll 26.10.2025 14:37
Rhyw bennod fympwyol ydy hon. Ar ôl synfyfyrio am is-etholiad Caerffili am dipyn mae Andy wedi treulio ei Sul yn ei pharatoi ... #anorac #nerd Bach o hanes gohebu ar is-etholiadau trwy newsreel, radio a theledu cyn trafod y ffordd ddigidol o wneud pethe. Mae'na ddeallusrwydd artiffisial o'r safon gwaethaf hefyd. Mwynhewch!!! rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: 'Castell Caerffili' gan Band...
DET - y darlledwr coll 24.10.2025 28:53
Pennod wahanol y tro hwn wrth i Aled Eirug sôn am ei gofiant o'r gwleidydd ac arweinydd cenedlaethol Dafydd Elis Thomas. A wyddoch chi yr oedd Dafydd Êl yn gyflwynydd teledu CYN iddo gael ei ethol fel Aelod Seneddol dros Feirionydd? Ynteu'n llywio rhaglenni ar HTV a BBC Cymru!! Ei berthynas â'r cyfryngau yw calon y sgwrs hon. Y llyfr: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/dafydd-elis-thomas-eir...
Y Pethe a'r Prifardd 17.10.2025 35:40
Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch yw gwestai Andy yn y bennod hon. https://carreg-gwalch-gwalch Cyflwr a chyfrifoldeb y cyfryngau tuag at y 'pethe' yw man cychwyn y sgwrs. Fe gwch glywed hefyd am streic y beirdd, atyniad radio a llawer mwy. rhaglencymru@hotmail.com am sylwadau ac awgrymiadau. Mae'r podlediad ar gael ar y llwyfanau isod: FB: https://www.facebook.com/rhaglen.cymru X: @rhaglenc...
Golwg o'r Paith 10.10.2025 39:52
Esyllt Nest Roberts yw gwestai Andy, hithau'n siarad o'i chartref yn y Gaiman. Trafodaeth am sefyllfa'r Wladfa a geir gyda phwyslais ar effaith diflanniad argaeledd ar-alw rhaglenni Cymraeg trwy BBC Sounds. Ac mae gan AB lygedyn o obaith am newid er gwell. Erthygl Mark Damazer am BBC Sounds: https://www.prospectmagazine.co.uk/culture/the-culture-newsletter/71035/bbc-sounds-turns-inwards Mark Dama...
Digidol heb ofn 03.10.2025 32:14
Steff Morris yw gvwestai'r podlediad - dyn ifanc sy'n rhannu cynnwys trwy You Tube.. Dyma ei fideo am Batagonia: https://youtu.be/f9A5dHvo2E0?si=qnW-X0KcVQP3pQqG Cefnogwch ei dudalen YT: https://www.youtube.com/@steffmorris Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Freewheelers', rhaglen antur i blant pan yr oedd Andy yn fachgen ac yn dwlu ar y ffaith mai o Southern Television, Southampton ddaeth y gyfres!!
Hwnt ac yma gydag ITV 26.09.2025 24:52
Pennod olaf y podlediad ynglyn â phenblwydd teledu annibynnol yn 70 oed. Taith igam-ogam yw hi ... mwynhewch. rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad am eich sylwadau. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân ITSWW (At Pepe's Place - Syd Dale) Ffynhonellau holl bwysig wrth lunio cyfres Rhaglen Cymru am ITV: https://www.youtube.com/@archifitvcymruwalesllgcitv9713 https://www.youtube.com/@walesbroadcastdarlled...
ITV a fi 22.09.2025 13:53
Andy Bell yn synfyfyrio am deledu annibynnol wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 oed. Atgofion o Blodyn Tatws, TISWAS ac Amy Turtle ... Mae'r ddwy bennod flaenorol yn trafod ITV yn fwy ffeithiol/academaidd ... rhaglencymru@hotmail.com
ITV a Chymru 19.09.2025 39:24
Andy a'r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth ar wibdaith trwy hanes teledu annibynol yng Nghymru wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 ... 69 actiwali! Hefyd, montage o bob math o raglenni a phobl ITV Cymreig. Oes atgofion gennych am TWW neu HTV neu Teledu Cymru neu Granada? Cysylltwch â rhaglencymru@hotmail.com neu ar FB, Twitter neu Blue Sky. Llwyth o ddarllen pellach: Llyfr Jamie https:...
Mwy o ITV i ddod 15.09.2025 2:28
Rhagflas o'r bennod nesaf ...
Dathlu Platinwm ITV 12.09.2025 29:03
Mae teledu annibynnol yn 70 oed. Dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym mis Medi 1955. Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol. Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth ffurfio'r syniad o gyfundrefn ranbarthol + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV. Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru:...
Penblwydd y Pod 05.09.2025 54:30
Mae'n flwyddyn ers cychwyn y podlediad ac mae Andy wedi creu pennod arbennig i nodi'r achlysur!! Lleisiau Eurof Williams, yr Athro Richard Wyn Jones, Dr Ffion Owen, Aled Jones, Mike Parker, Aran Jones a Beti George a glywir ynghyd â vocal stylings unigryw Andy. Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân "Tonight", Teledu BBC 1959. Cyflwyniad i ddarn Beti yn dod o 'Dim Byd fel dim byd': https://youtu.be/o311wHho...
Parti benblwydd ar y gweill 02.09.2025 1:10
Un elfen gyson yn narlledu yw dathlu cerrig milltir yn lle creu cynnwys gwreiddiol I fathu gair: dathluyddiaeth. A nid yw'r podlediad hwn yn eithriad!!! Mae'n flwyddyn ers cychwyn Rhaglen Cymru ... rhaglencymru@hotmail.com
Replaio nie jest wydawcą podcastów; nazwy audycji, okładki i audio należą do ich autorów i są rozpowszechniane przez publiczne kanały RSS