BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: www.bbc.co.uk
Auteur
BBC Radio Cymru
Categorie
Website van de podcast
Nieuwste aflevering
20 sep. 2026
Waar luisteren?
Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaarPodcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts
Afleveringen
Gwerfyl Roberts 27.06.2019 44:38
Beti George yn sgwrsio gyda Gwerfyl Roberts. Yn enedigol o Lanbrynmair, ac wedi gweithio fel nyrs a darlithydd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor, mae wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i wella statws y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd.
16/06/2019 17.06.2019 43:25
Beti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.
Arwyn 'Groe' Davies 13.06.2019 47:50
Beti George yn sgwrsio gydag Arwyn 'Groe' Davies, y bardd a'r amaethwr o Ddyffryn Banw. Beti George interviews Arwyn 'Groe' Davies.
Elin Parisa Fouladi 02.06.2019 47:52
Beti George yn sgwrsio gydag Elin Parisa Fouladi. Beti George chats to Elin Parisa Fouladi.
26/05/2019 26.05.2019 48:05
Beti George yn sgwrsio gydag un o bobl Cymru. Chat show with Beti George.
Llinos Dafydd 19.05.2019 47:10
Beti George yn sgwrsio gyda Llinos Dafydd, sy'n cyfuno gwaith fel cyfieithydd, golygydd, newyddiadurwraig a ffotograffydd. Mae'n disgrifio ei magwraeth fel un ddelfrydol, yn llawn bwrlwm y Clwb Ffermwyr Ifanc a chymeriadau diddorol. Newidiodd ei bywyd pan oedd yn ei harddegau, o ganlyniad i gael ei threisio, a mae'n sôn wrth Beti am fyw gyda'r ôl-effeithiau. Gydag ysgrifennu wedi bod yn rhan o'i b...
Dylan Huws 14.05.2019 52:34
Beti George yn sgwrsio gyda Dylan Huws, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cwmni Da. Celf oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, a mae'n cofio'r bwrlwm a'r cyffro wrth astudio'r pwnc yn Lerpwl ddiwedd y 70au. Darlithiodd mewn celf am rai blynyddoedd, cyn cael cynnig swydd gyda chwmni teledu, a bwrw ei brentisiaeth ar y gyfres Hel Straeon. Yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, yn ddiweddar daeth y cwmni i fod yn un sydd ym mh...
Catrin Williams 05.05.2019 45:05
Mae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu. Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf. Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd. Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd...
Llion Pughe 28.04.2019 45:57
Un sy'n fodlon mentro, ac yn fodlon methu, yw'r dyn busnes Llion Pughe. Wedi ei fagu yng Nghwm Ystwyth ac ym Mro Ddyfi, mae'n credu bod sefydlu busnesau lleol yn ddull o gadw gwaith a grym yng nghefn gwlad Cymru. Astudiodd Gymraeg a Thwristiaeth cyn gweithio i Menter a Busnes, ac yna fel swyddog marchnata i Brifysgol Caerdydd. Roedd yn benderfynol o ddychwelyd i Fro Ddyfi, a mae wedi sefydlu sawl...
Ifana Savill 14.04.2019 48:13
Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu. Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt. Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw. Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd...
Paul Flynn 11.04.2019 36:52
Beti George yn holi'r Aelod Seneddol Paul Flynn yn 1995. Beti George's interview with Paul Flynn MP in 1995.
Siân Grigg 31.03.2019 45:59
Yn ei harddegau, roedd Siân Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC. Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio. Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau. Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd â Leonardo DiCaprio, a Siân sy'n...
Matt Ward 24.03.2019 49:57
Ym Manceinion a Llanrug y cafodd Matt Ward ei fagu. Rhedeg oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, gan gynrychioli'r sir a Chymru, cyn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd anaf. Mae wedi gweithio i'r Llu Awyr, fel DJ, gwerthwr ceir, a rheolwr marchnata i gwmni nwyddau beics. Ar ôl ymgartrefu yng nghanolbarth Cymru, mae wedi dychwelyd at ei hoffter o redeg a'r awyr agored. Mae wedi sefydlu cwmni sy'n march...
Siân Tesni 17.03.2019 50:47
Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd. Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith. Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth. Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrt...
Huw Thomas 10.03.2019 49:08
Newid bywyd a thirlun y brifddinas oedd un o amcanion Huw Thomas pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Caerdydd yn 2017. Mae'n cydnabod bod hynny'n her, yn enwedig mewn cyfnod o lymder, ond yn benderfynol o fynd i'r afael ag anhafaledd. Wrth gael ei fagu yng Ngheredigion, yr oedd yn gerddor ac yn chwaraewr rygbi brwd. Astudiodd gerddoriaeth yn Rhydychen, gan ymdaflu i fywyd y Brifysgol. Er na ch...
Ciaran Jenkins 03.03.2019 47:41
Beti George yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwr Ciaran Jenkins, sydd hefyd yn gerddor. Beti George chats with journalist and musician Ciaran Jenkins.
John Phillips 24.02.2019 46:48
Treuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg. Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg. Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au. Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof ple...
Jill-Hailey Harries 17.02.2019 48:33
Pan deimlodd Jill-Hailey Harries alwad i'r weinidogaeth, roedd yn 'sgytwad iddi. Er ei bod yn mynychu'r ysgol Sul, doedd hi ddim yn siŵr beth yn union oedd gwaith gweinidog, nac ychwaith yn nabod gweinidog benywaidd. Doedd hi ddim yn or-hoff o waith ysgol, ac yn fwy awyddus i ddechrau gweithio ac ennill arian na mynd i'r coleg, ond roedd yr alwad yn rhy gryf, ac yn y pen draw aeth i Aberystwyth i...
Carys Eleri 08.02.2019 48:05
Beirniadaeth deg, Marilyn Manson a niwrowyddoniaeth yw rhai o'r pynciau trafod wrth i'r actores Carys Eleri gadw cwmni i Beti George. Wedi ei magu yn Y Tymbl, mae'n ystyried ei magwraeth yn un breintiedig, gan dderbyn pob cefnogaeth a chariad gan ei rhieni. Astudiodd Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, cyn cael gwaith fel un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru. Er ei bod yn...
Valériane Leblond 27.01.2019 46:00
Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond. Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau. Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru. Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn. Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am han...
Heulwen Haf 20.01.2019 34:37
Beti George yn sgwrsio â Heulwen Haf yn 2008. Beti George in conversation with Heulwen Haf in 2008.
Rhys Mwyn 13.01.2019 48:08
Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George. Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod. Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg. Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel...
Dylan Griffith 06.01.2019 48:44
Amsterdam yw cartref Dylan Griffith, ers iddo gael cynnig swydd gydag MTV yn y ddinas. Mae'n dychwelyd i Gymru yn aml, gan hiraethu am ei mynyddoedd. Teipograffeg, brandio a hyrwyddo yw ei gefndir, a fe oedd yn gyfrifol am ailfrandio S4C yn 2006. Treuliodd flwyddyn yn teithio'r byd gyda ffrindiau ar ôl graddio, gan greu cyfres o raglenni am y profiad. Mae wedi teithio'n helaeth ers hynny hefyd, ga...
Osian Williams 23.12.2018 46:35
Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud. Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian. Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan a...
Sally Holland 16.12.2018 48:48
Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015. O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd! Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynn...
Vergelijkbare podcasts
Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds