BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: www.bbc.co.uk
Auteur
BBC Radio Cymru
Categorie
Website van de podcast
Nieuwste aflevering
20 sep. 2026
Waar luisteren?
Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaarPodcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts
Afleveringen
Alis Hawkins 03.03.2020 48:18
Beti George yn sgwrsio'r gyda'r awdures Eingl Gymreig Alis Hawkins, gan drafod ei nofelau a'u cefndir Cymraeg, ei phlentyndod yng Nghwm Cou, ei haddysg yn Aberteifi a Rhydychen a'r broses hir o gael llyfr wedi ei gyhoeddi.
Non Williams 28.02.2020 45:51
Mae'r gantores Non Williams, yn sgwrsio gyda Beti George am ei iselder, am anhwylder ei gwr Iwan, ac am ddychwelyd i'r llwyfan gyda'r grŵp Eden.
Yr Athro Aled Rees 21.02.2020 43:31
Mae Beti George yn cael cwmni'r Athro Ddoctor Aled Rees, sy'n Athro Endocrinoleg yn yr Adran Newro Wyddorau a Sefydliad Ymchwil Iechyd Meddwl, Caerdydd. Mae'n rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, ymchwil a gwaith meddygol.
Lowri Gwilym (14/03/2010) 20.02.2020 34:40
Cynhyrchydd gwreiddiol Beti a'i Phobol, y diweddar Lowri Gwilym, yn sgwrsio gyda Beti George. Darlledwyd y sgwrs ar y 14eg o Fawrth 2010.
Elinor Snowsill 02.02.2020 55:20
Ar ddechrau pencampwriaeth y Chwe Gwlad ,y chwaraewraig rygbi Elinor Snowsill sydd yn cadw cwmni i Beti George yr wythnos hon.
John Gwyn Jones 26.01.2020 46:07
Prif Weithredwr grŵp o ysgolion yn y Dwyrain Canol a brodor o Frynaman Ucha, John Gwyn Jones, sy'n sgwrsio gyda Beti George.
Elinor Wyn Reynolds 19.01.2020 45:48
Yr awdur Elinor Wyn Reynolds, sydd hefyd yn gweithio i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy'n sgwrsio gyda Beti George. Author Elinor Wyn Reynolds chats to Beti George.
Mary Lloyd Jones 09.01.2020 46:38
Yr artist Mary Lloyd Jones sy'n sgwrsio gyda Beti George. Artist Mary Lloyd Jones chats to Beti George.
Martyn Johnes 05.01.2020 43:45
Mae'r Athro Martin Johnes yn dysgu yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, gan arbenigo ar hanes Cymru Gyfoes a hanes chwaraeon. Y cwestiwn o hunaniaeth sy'n ganolog i'w ymchwil, a'i brif ddiddordeb yw sut mae pobol yn meddwl am eu hunain ac am eu lle yn y byd.
Ann Evans 25.11.2019 48:15
Y rhedwr marathonau ultra Ann Evans sy'n sgwrsio gyda Beti George. Ultra marathon runner Ann Evans chats to Beti George.
Gwen Màiri 25.11.2019 41:41
Y delynores o'r Alban Gwen Màiri sy'n sgwrsio gyda Beti George.
Dr Dylan Foster Evans 07.11.2019 49:13
Beti George yn sgwrsio gyda Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Beti George's guest is Dylan Foster Evans from Cardiff University.
Siri Wigdel 17.10.2019 49:46
Beti George yn sgwrsio gyda'r ddawnswraig a'r coreograffydd Siri Wigdel. Beti George in conversation with dancer and choreographer Siri Wigdel.
Iwan Roberts 03.10.2019 44:06
Beti George yn sgwrsio gyda'r actor, canwr a'r nofelydd Iwan "Iwcs" Roberts. Beti George's guest is actor, singer and novelist Iwan Roberts.
Siôn Tomos Owen 19.09.2019 47:03
Beti George yn sgwrsio gyda'r artist, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen. Beti George's guest is the artist, author and presenter Siôn Tomos Owen.
Stifyn Parri 08.09.2019 47:12
Beti George yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd Stifyn Parri. Beti George chats to Stifyn Parri.
Gwyn Pierce Owen 01.09.2019 33:17
Beti George yn sgwrsio gyda'r dyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen mewn fersiwn fyrrach o raglen o 1997. Beti George chats to referee Gwyn Pierce Owen.
Orig Williams 25.08.2019 43:58
Beti George yn sgwrsio gyda'r reslwr Orig Williams mewn fersiwn fyrrach o raglen o 2002. Beti George's guest is wrestler Orig Williams.
Rod Richards 22.08.2019 35:05
Beti George yn holi Rod Richards am ei fywyd a'i yrfa, mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1993. Beti George's interview with Rod Richards in 1993.
Mair Penri 15.08.2019 40:40
Beti George yn holi Mair Penri o'r Parc sy'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau'r eisteddfodau a nosweithiau llawen. Beti George interviews Mair Penri.
Dafydd Apolloni 28.07.2019 41:30
Beti George yn sgwrsio gyda Dafydd Apolloni, un o gymeriadau tref Llanrwst. Mae'n hanner Cymro a hanner Eidalwr, gyda'i dad yn dod o Rufain a'i fam yn ferch i Idwal Jones, y dyn wnaeth greu SOS Galw Gari Tryfan! Yn fesitr ar ddysgu iaith, mae ef ei hun yn siarad Cymraeg, Saesneg, Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg., a threuliodd gyfnodau yn byw yn Prague, Paris a'r Eidal. Yn y rhaglen, mae'n trafod pa m...
Betsan Moses 21.07.2019 47:51
Beti George yn sgwrsio gyda Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal â thrafod y Brifwyl ei hun, gan gynnwys ei dyfodol a'r trafferthion cyn Eisteddfod Sir Conwy 2019, mae hi hefyd yn sôn wrth Beti am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, a'i chred anhygoel mewn ofergoelion.
Gwen Parrott 14.07.2019 48:12
Cafodd Gwen Parrott ei magu yn Sir Benfro, cyn treulio deugain mlynedd yn byw ym Mryste. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n sôn am fagwraeth syml ym mhentref Bwlchygroes, a sut y dechreuodd hi sgwennu ar ôl cael gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n briod gyda meddyg teulu sy'n hannu o Tsieina.
Eirian Jones 11.07.2019 48:28
Beti George yn sgwrsio gydag Eirian Jones, a dreuliodd dair blynedd ar ddeg yn dyfarnu yn Wimbledon. Yn wreiddiol o Flaenpennal, mae nawr yn olygydd llyfrau Saesneg gyda'r Lolfa, ac yn byw yn Llangeitho. Mae'n awdures, yn gyn-athrawes, ac yn flaenor yng Nghapel Gwynfil. Mae wedi parasiwtio, rhedeg marathonau, a dringo Everest.
Richard Lewis 04.07.2019 48:35
Daw Richard Lewis o Borth Tywyn, ac wedyn Meinciau. Wedi gadael Ysgol y Strade, aeth i wneud gradd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Penderfynodd ei fod am ymuno â'r heddlu, a chafodd swydd fel cwnstabl yng Ngheredigion. Dringodd ysgol gyrfa yn gyflym iawn, a chael ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Ebrill 2019. Mae'n...
Vergelijkbare podcasts
Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds