BBC Radio Cymru

Beti a'i Phobol

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: www.bbc.co.uk

Auteur

BBC Radio Cymru

Categorie

Society

Website van de podcast

www.bbc.co.uk

Nieuwste aflevering

20 sep. 2026

Waar luisteren?

Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaar

Podcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts

Download het op Google Play Gratis installeren Android bijna 10 mln downloads · beoordeling 4,8 iOS binnenkort

Afleveringen

Steffan Lewis 09.12.2018

Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016. Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc. Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd gwleidyddiaeth hyd y...

Arthur Thomas 02.12.2018

Llyfrau, straeon, cerddoriaeth werin a rygbi yw rhai o hoff bethau Arthur Thomas. Er hynny, astudio gwyddoniaeth wnaeth e yn y coleg, gan droi at ddysgu'r pwnc ar ôl graddio. Wedi blynyddoedd o gael ei nabod fel mab y tenor Richie Thomas, mae'n hoffi dweud ei fod bellach yn cael ei nabod fel tad y delynores Elen Hydref. Treuliodd gyfnod ym ymgyrchu dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn aml yng nghw...

Karen Elli 25.11.2018

Beti George yn sgwrsio gyda Karen Elli. Hi oedd Cilla yn Pobol y Cwm, ond mae plant Cymru'n ei hadnabod fel Heini. Mae hi hefyd yn hyfforddwr ffitrwydd, ac yn cynllunio tai.

Hedd Ladd-Lewis 18.11.2018

Erbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia. Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd. Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion. Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o arche...

Bethan Bryn 04.11.2018

Dyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol. Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle. Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth da...

Neville Evans 28.10.2018

Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach. Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr. Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar. Mae'n credu y dylid gwneud rhagor...

Llinos Dryhurst-Roberts 21.10.2018

Braf 'di cael bod yn hapus, yn ôl Llinos Dryhurst-Roberts. Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro. Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol. Wedi’r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng...

Mike Parker 14.10.2018

Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi...

Aled Rees 07.10.2018

Methiant yw peidio â mentro yn y lle cyntaf yw beth sy'n gyrru Aled Rees, “bachgen stwbwrn o Langwyryfon”, i ddatblygu syniadau a busnesau newydd. Er gwaethaf diffyg cymwysterau, aeth i weithio yn labordy Ysbyty Bronglais, gan fynd yn ei flaen i gwblhau cwrs gradd a meistr. Bu'n rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw yn y pen draw, i ganolbwyntio ar ei wahanol fusnesau. Penderfynodd ddysgu Sbaeneg, a...

Sarah Reynolds 30.09.2018

Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain. Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016. Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder. Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tas...

David John 23.09.2018

Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith. Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni. Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau...

Sian Lloyd 16.09.2018

Mae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc. Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana. Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymre...

Elin Fflur 09.09.2018

Mae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd. Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu. Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd. Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n...

Tuduriaid 29.07.2018

Beti George yn sgwrsio â Sion, Ffion ac Owain Tudur o Gaerdydd. O gyfrinachau'r maes carafanau i helyntion ieuenctid Maes B, mae'r tri yn sgwrsio â Beti ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Hefin Jones 22.07.2018

Beti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu. Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddonia...

Meic Birtwistle 15.07.2018

Beti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed. Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe. Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerdd...

Alaw Griffiths 08.07.2018

Beti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.

Hefin Jones-Roberts 01.07.2018

Beti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.

Siriol Burford 24.06.2018

Beti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.

Deri Tomos 18.06.2018

Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd. Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenh...

Eleri Twynog Davies 12.06.2018

Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata. Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw. Ca...

Bleddyn Jones 27.05.2018

Rygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones. Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd. Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar h...

David Williams 25.05.2018

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swanse...

Arfon Jones 20.05.2018

Beti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd. Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc. Mae'n angerd...

Gladys Pritchard 13.05.2018

Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn. Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol. Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad...

Luister naar de podcast Beti a'i Phobol in Replaio

Radio en podcasts in één app - gratis en zonder account. Installeer vandaag nog en mis de lancering niet

Download het op Google Play

Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds