Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Arts CY ↓ 144 epizód

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

Mindenképp látogasd meg a podcast oldalát, és támogasd a készítőjét: rss.com

Szerző

Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Kategória

Arts

A podcast weboldala

rss.com

Legutóbbi epizód

2026. okt. 8.

Hol hallgathatod?

Podcastok az alkalmazásban Replaio Radio Hamarosan

A podcastok hamarosan megérkeznek az alkalmazásba. Telepítsd most, és láss elsőként egy teljesen új megközelítést a podcastokhoz

Letöltés a Google Play-ről Telepítsd ingyen Android közel 10 M letöltés · 4,8-as értékelés iOS hamarosan

Epizódok

46 - Poody, Joe Jonas a SFA 02.10.2025

Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...

45 - Awards prep, ymprydio a moch daear 25.09.2025

Mae Mari a Meilir nol ar y zoom yr wythnos yma and it's business as usual. Mae rhan wleidyddol y podlediad wedi ei bedyddio fel y Silff Sobor, mae moch daear yng ngardd Mari ac mae Kimmel nol wrth ei ddesg. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

44 - Amour a Mynydd, Owain Glyndwr a polau piniwn 18.09.2025

Mae hi di bod yn wythnos drom yn y newyddion ond mae wastad cyfle yn y siop i roi ychydig o ddihangfa. Boed yn sgwrs am snacs anarferol, adolygiadau teledu ac i gwyno am rieni sy'n rhoi guilt trips. Dewch i mewn am seibiant ac i wrando ar y mwydro arferol.

43 - Rownd a Rownd, Sengylion ac enwau drag Cymraeg 11.09.2025

Yr wythnos hon, mae'r siop mor llawn ag erioed o straeon gan gynnwys penblwydd y gyfres 'Rownd a Rownd' yn 30, ein dilynwyr instagram newydd, marwolaeth Giorgi Armani, golygydd newydd Vogue yr UDA a llond blwch o geisiadau a chyfrinachau. Fedrwn ni ddim aros i chi glywed y rhestr o enwau brenhinesau drag Cymraeg gafodd eu cynnig... Mewn â chi!

42 - Burps, KPop a Cardi B 04.09.2025

Mae drysau'r siop bron a byrstio ar agor yr wythnos hon efo hanesion Mari a Meilir, digwyddiadau o amgylch y byd a blwch gorlawn o geisiadau. Mae hi'n bennod hir, felly strap in a mwynhewch y sgwrs.

41 - Gŵyl Llanuwchllyn, Caerdydd a Catrin Feelings 28.08.2025

Ar ôl wythnos brysur o deithio a digwyddiadau, mae Mari a Meilir yn falch o fod nol yn y siop i roi'r byd yn ei le. O Catrin Feelings i Lil Nas X, mae'r cyfryngau diwylliant pop wedi bod reit brysur. Dewch i mewn i wrando.

40 - Meilir y life guard, eirin tagu a date-io 21.08.2025

Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!

39 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs 14.08.2025

Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!

38 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee! 31.07.2025

Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!

37 - Portaloos, cysgu efo ffrind i ex a delwedd cyrff 17.07.2025

Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!

36 - Swistir, Jurassic World a papur toilet 10.07.2025

"Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.

35 - Alban Hefin, Pride Cymru a llond blwch o geisiadau! 26.06.2025

Wel, da chi di bod yn brysur efo'ch ceisiadau yr wythnos hon. Ond cyn i Mari a Meilir fynd i dyrchu, mae 'na ddigon o amser i drafod digwyddiadau Pride Cymru, hirddydd haf, bingo Llanuwchllyn a dillad Beyoncé! Mewn â chi, mae'r siop ar agor.

34 - Pisco sours, Cotswolds a'r 'closet' 19.06.2025

Mae Mari yn ôl o'i phenwythnos yn y Cotswolds ac mae 'fake tan' Meilir yn datblygu yn eithriadol o gyflym ac oren. Ddim yn gwneud synnwyr? Wel, pwyswch play a gwrandewch te. Mae'r siop ar agor!

33 - Y Wicked Trailer, y Tony's a canon Amwythig 12.06.2025

Yn dilyn newid yn amserlen Mari a Meilir, cafodd y bennod hon ei recordio ben bore...felly does wybod sut siap fydd ar y ddau na'r siop. O'r Tony's i Wicked i Ar Led, mae yna ddigon i ddeffro'r ddau felly i mewn â chi i'r Siop!

32 - Carafanio, Rhwydwaith Menywod Cymru a Patti LuPone 05.06.2025

Mae Meilir wedi ymddangos o'r garafan o'r diwedd ac mae Mari yn ôl o Eisteddfod yr Urdd ac mae yna lond bag freebies a llyfr lloffion o straeon i'w rhannu. Felly dewch yn eich blaen, i mewn i'r siop â chi!

31 - Blackpool, Eurovision a Pedro Pascal 22.05.2025

Be all ddigwydd pan mae Meilir yn mynd ar benwythnos stag i Blackpool? Sut brofiad gafodd Mari yn blasu danteithion blasus bwyty Gwen yn Machynlleth? Pam bod Osian Huw yn gwneud appearance ar y bennod yma? Wel, pwyswch play ac fe gewch chi wybod.

30 - Heledd Cynwal, Huw Fyw a Huns Cymru 15.05.2025

Mae'r haul wedi bod yn tywynnu a Mari a Meilir wedi bod yn hel straeon rownd Cymru a thu hwnt ar eich cyfer chi. Da ni'n croeswu'r Pab newydd (gan ofyn iddo newid ei farn ar hawliau LHDTC+ a hawliau menywod), yn sôn am gyfweliad difyr Mari efo Heledd Cynwal a barbeciw bendigedig Meilir. Heb anghofio wrth gwrs, eich cynigion, eich cyfrinachau a'ch cyfaddefiadau blasus. Brysiwch, mae'r siop ar agor!

Pennod 29 - Y Pab, y pop divas a'r Supreme Court 08.05.2025

Ar ôl gwyliau rhy hir, da ni nol i drafod holl antics y Pasg a phopeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen yng Nghymru a thu hwnt! O Celeb Big Brother i siarc Aber i bartenders Llundain. Heb sôn am benderfyniad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig am ddiffiniad 'menyw'. Mae'r siop ar agor unwaith eto!

Pennod 28 - Penblwyddi, pasg a pintxos 17.04.2025

Mae'r siop ar agor ac mae hi'n bennod lawn dop arall: Celebrity Big Brother, Madonna & Elton John, Joe Lycett yn Bala, Sugababes, Mr G, Gwobrau RTS Cymru, tegannau AI, Coachella, The Last Of Us 2, Katy Perry yn y gofod a llawer, llawer mwy. Rhy gormod? BYTH! Mewn â chi...

Pennod 27 - Michael Sheen, seidr Sbaen a gossips gwrandawyr 10.04.2025

Yn y bennog arbennig o hir yma, rydym yn trafod rhaglen newydd Welsh National Theatre, rhaglenni teledu poblogaidd yr wythnos a faint oed ydi Meilir go iawn? Heb sôn am y blwch cyfrinachau sy'n gor-lifo efo'ch ceisiadau. Mae'ch cyfrinach chi'n saff yn y Siop Siarad.

Pennod 26 - Chappell Roan, Eira Wen a Rose Datta 03.04.2025

Yn y bennod hon, caiff y blwch ceisiadau di-enw ei agor am y tro cyntaf, gan ddatgelu cyfrinachau, tips a chyfaddefiadau cwsmeriaid y Siop Siarad. Hefyd, mae trafodaeth fywiog am sylwadau diweddar Chappell Roan am famau, sgwrs am fethiant eithriadol ail-ddychmygiad newydd Disney o Snow White ac wrth gwrs...FFEINAL Y LLAIS! Bydd eich basgedi yn llawn ar ôl y bennod yma.

Pennod 25 - Tymor Aries wedi cyrraedd! 27.03.2025

Da ni bellach yng nhymor yr hwrdd sy'n golygu fod Mari a Meilir yn teimlo hyd yn oed yn fwy parod eu barn - am yrrwyr býs, ymddygiad mewn theatr a goleuadau nenfwd. Ond wrth gwrs, mae digon o amser i drafod testunau fwy hwyliog fel Y Llais, sengl newydd Aleighcia Scott, group chat Arweinwyr Amddiffyn Cenedlaethol yr Unol Daleithau a hair-line Meilir. Dewch i mewn i glywed mwy!

Pennod 24 - Wyau pasg, llygod mawr a TikTok marathons 20.03.2025

Er gwaetha'r diffyg cwsg, da ni nol efo llond trol i'w drafod - o'n hoff frenhinesau drag Cymraeg, gyrfa newydd Huw Ffash, wyau pasg, Conor Maynard a...llygod mawr! Da ni wedi'ch rhybuddio chi. Mwynhewch!

Pennod 23 - Onlyfans, custrad creams a lock jaw. 13.03.2025

Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod newydd fod, da ni'n rhoi dipyn o sylw i fenywod y bennod yma - o Rebecca Goodwin i Lady Gaga i bennod arbennig Rownd a Rownd o gymeriadau benywaidd yn unig. Mae Y Llais yn cael ein sylw ni eto yr wythnos yma yn ogystal â celeb beefs enwog, Eurovision a'r gusan yna rhwng Danny a Maura... Dewch i mewn i wrando.

Pennod 22 - Cyfres tri, i ffwrdd â ni! 06.03.2025

Rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn a Siop Siarad wedi dod! Ar ôl deufis o hoe fach, mae hi mor braf ail-agor y Siop Siarad ac mae yna gymaint i'w drafod hefyd. O gyfres newydd Y Llais, Après Amour a Mynydd, Noson Drag Y Bala, Cân i Gymru, tymor yr awards ac eich cynigion chi wrth gwrs. Estynwch fasged neu droli a dewch i Siarad Siop.

Hallgasd a(z) Siarad Siop efo Mari a Meilir podcastot a Replaióban

Rádió és podcastok egy alkalmazásban - ingyen és regisztráció nélkül. Telepítsd még ma, és ne maradj le a premierről

Letöltés a Google Play-ről

A Replaio nem podcastkiadó; a műsorok nevei, borítóképei és hanganyagai a szerzőiket illetik, és nyilvános RSS-csatornákon keresztül terjednek.