Prifysgol Bangor
Am Iechyd
Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
Auteur
Prifysgol Bangor
Catégorie
Site du podcast
Dernier épisode
5 oct. 2023
Où écouter ?
Les podcasts dans l'appli Replaio Radio Bientôt disponibleLes podcasts arrivent très bientôt dans l'appli. Installe-la dès maintenant et découvre en avant-première une toute nouvelle façon de vivre les podcasts
Épisodes
Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru? 05.10.2023 46:06
Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Recordiwyd y podlediad hwn o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a hynny ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor. Mae'r newyddion bod...
Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 20.09.2023 45:05
Dyma bodlediad newydd sbon yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y podlediad hwn fe fyddwn yn trafod pwnc sy'n gynyddol ar y newyddion y dyddiau hyn sef iechyd meddwl pobl ifanc . Mae llawer o drafod ar y ffactorau sy'n gallu effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a bwriad y pod...
Modelau Genedigaeth 12.07.2023 45:23
Yn y pumed podlediad yn y gyfres AM IECHYD, y testun trafod ydy genedigaeth a sut mae agweddau pobl wedi newid tuag at enedigaeth dros y blynyddoedd. A oes gormod o bwysau ar ferched i eni mewn ysbyty? A ydy geni adref yn cael ei hyrwyddo yn ddigonol? A oes gormod o ymyrraeth meddygol mewn genedigaeth y dyddiau hyn? Ymunwch efo'r podlediad difyr hwn a gwrando ar y sgwrs rhwng Siwan Humphreys (darl...
Byw Efo Dementia 27.06.2023 56:30
Yn y podlediad hwn yn y gyfres AM IECHYD, mae'r panelwyr yn trafod pwnc sy'n effeithio ar nifer fawr ohonon ni sef 'Byw efo Dementia'. Cadeirydd y sgwrs ydy Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor ac o gwmpas y bwrdd efo Catrin mae Emma Quaeck (Rheolwr Dementia Actif Gwynedd), Rhian Green (merch i wraig sydd yn byw efo dementia) a Glenda R...
Beth ydy ystyr gofalu? 25.04.2023 44:04
Yn y podlediad difyr a pherthnasol hwn fe glywch chi sgwrs rhwng Owain Pennar, sy'n defnyddio gwaasanaeth gofalu, Elen Vaughan Jones, o Uned Hyfforddi Cyngor Gwynedd a Rhian Lloyd, darlithydd o'r rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor dan gadeiryddiaeth Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor. Beth yn union ydy ystyr gofalu cyflogedig a gofalu di-dal...
Y Berthynas rhwng Iechyd a Gofal 21.02.2023 40:40
Beth mae cydweithio effeithiol rhwng iechyd a gofal yn ei olygu? Sut fydd gofal yn edrych yn y dyfodol? Sut mae rhoi pobl yn ganolog i wasanaethau a beth ydy cyfraniad cymunedau i ofal? Dyma bodlediad rhif 2 yn y gyfres Am IECHYD lle mae arbenigwyr o faes gofal ac iechyd yn dod at y bwrdd i drafod materion sy'n effeithio arnon ni gyd ar adegau gwahanol yn ein bywyd.
Bronfwydo 24.01.2023 49:41
Dyma'r podlediad cyntaf yn y gyfres newydd sbon o bodlediadau AM IECHYD a fydd yn trafod y materion iechyd a gofal sydd yn effeithio ar bob un ohonon ni ar adegau gwahanol yn ein bywyd. Testun y drafodaeth yn y podlediad cyntaf hwn ydy 'Bronfwydo' a cheir trafodaeth hynod ddiddorol dan arweiniad Siwan Humphreys, Darlithydd mewn Bydwreigaeth yma yn y Brifysgol ym Mangor. Mae'r panel yn cynnwys Eler...
Croeso i bodlediad Am Iechyd 16.01.2023 0:27
Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
Podcasts similaires
Replaio n'est pas éditeur de podcasts ; les noms des émissions, les visuels et l'audio appartiennent à leurs auteurs et sont diffusés via des flux RSS publics