Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Siarad Siop efo Mari a Meilir
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
Kde poslouchat?
Podcasty v aplikaci Replaio Radio Už brzyPodcasty míří do aplikace už brzy. Nainstaluj si ji teď a jako první uvidíš úplně nový pohled na podcasty
Epizody
55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw 18.12.2025 1:19:54
Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!
Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus! 04.12.2025 4:48
Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop.
Siarad Siop x Llyfrgell Gen 30.11.2025 25:18
Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi! * Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'P...
54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu 27.11.2025 1:39:15
O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.
53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig 20.11.2025 1:38:28
Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!
Siarad Siop x Stad 16.11.2025 36:35
Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi! *Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD
52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani 13.11.2025 1:36:19
Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!
51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor 06.11.2025 1:39:33
Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!
*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&5 02.11.2025 1:01:13
Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch!
50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost 30.10.2025 1:46:58
Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!
49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre 23.10.2025 1:34:05
Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.
*BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 3 16.10.2025 21:12
Gan fod ein penodau arferol ni'n reit swmpus, dyma wahanu'r sgwrs am Rupaul's Dragrace mewn i bennod fach bonws i chi. Mwynewch!
48 - Traitors, Diane Keaton a mwy o'r moch daear 16.10.2025 1:35:34
Wel, mae'r siop ar agor ac mae'r moch daear yn hoffi eu lle yng ngardd Mari. Hefyd mae'r silffoedd yn llawn o straeon yr wythnos - o farwolaeth yr athrylith o actores, Diane Keaton i ddiddordeb diweddar Mari o gerddwyr Everest...! Allwch chi ddim cwyno bod dim amrywiaeth yma. Mewn a chi de.
47 - British Podcast Awards a BAFTA Cymru 09.10.2025 1:24:15
Fel dywed y teitl - does what is says on tin! Os na welsoch chi'r nifer obnoxious o straeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yna gwrandewch i glywed yr hanes o'r British Podcast Awards a seremoni BAFTA Cymru. Spoiler alert: Llongyfarchiadau ENFAWR i Mari Grug a Sioned Nelson ar ddod yn fuddugol yn y BPA eleni ac i 'Yr Hen Iaith' ar ddod yn ail.
46 - Poody, Joe Jonas a SFA 02.10.2025 1:50:41
Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...
45 - Awards prep, ymprydio a moch daear 25.09.2025 1:31:05
Mae Mari a Meilir nol ar y zoom yr wythnos yma and it's business as usual. Mae rhan wleidyddol y podlediad wedi ei bedyddio fel y Silff Sobor, mae moch daear yng ngardd Mari ac mae Kimmel nol wrth ei ddesg. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
44 - Amour a Mynydd, Owain Glyndwr a polau piniwn 18.09.2025 1:36:26
Mae hi di bod yn wythnos drom yn y newyddion ond mae wastad cyfle yn y siop i roi ychydig o ddihangfa. Boed yn sgwrs am snacs anarferol, adolygiadau teledu ac i gwyno am rieni sy'n rhoi guilt trips. Dewch i mewn am seibiant ac i wrando ar y mwydro arferol.
43 - Rownd a Rownd, Sengylion ac enwau drag Cymraeg 11.09.2025 1:37:11
Yr wythnos hon, mae'r siop mor llawn ag erioed o straeon gan gynnwys penblwydd y gyfres 'Rownd a Rownd' yn 30, ein dilynwyr instagram newydd, marwolaeth Giorgi Armani, golygydd newydd Vogue yr UDA a llond blwch o geisiadau a chyfrinachau. Fedrwn ni ddim aros i chi glywed y rhestr o enwau brenhinesau drag Cymraeg gafodd eu cynnig... Mewn â chi!
42 - Burps, KPop a Cardi B 04.09.2025 1:43:50
Mae drysau'r siop bron a byrstio ar agor yr wythnos hon efo hanesion Mari a Meilir, digwyddiadau o amgylch y byd a blwch gorlawn o geisiadau. Mae hi'n bennod hir, felly strap in a mwynhewch y sgwrs.
41 - Gŵyl Llanuwchllyn, Caerdydd a Catrin Feelings 28.08.2025 44:21
Ar ôl wythnos brysur o deithio a digwyddiadau, mae Mari a Meilir yn falch o fod nol yn y siop i roi'r byd yn ei le. O Catrin Feelings i Lil Nas X, mae'r cyfryngau diwylliant pop wedi bod reit brysur. Dewch i mewn i wrando.
40 - Meilir y life guard, eirin tagu a date-io 21.08.2025 1:28:24
Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!
39 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs 14.08.2025 1:36:46
Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!
38 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee! 31.07.2025 1:31:04
Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!
37 - Portaloos, cysgu efo ffrind i ex a delwedd cyrff 17.07.2025 1:43:44
Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!
36 - Swistir, Jurassic World a papur toilet 10.07.2025 1:27:50
"Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.
Podobné podcasty
Replaio není vydavatelem podcastů; názvy pořadů, obálky a audio patří jejich autorům a šíří se přes veřejné RSS kanály