BBC Radio Cymru

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Education

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jul 9, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022 20.12.2022

Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was established Sylfaenydd Founder Darlledwr Broadcaster Fy annwyl wraig My dear wife Cadeirio Chairing Ffodus Lwcus Cymysgu’...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022 13.12.2022

Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts out Poblogaidd Popular Amrywiaeth Variety Sioeau cerdd Musicals (Ca...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022 06.12.2022

Bore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter Fair Milfeddygon Vets Darlledu Broadcasting Hamddenol Leisurely Archwilio To inspect Anhy...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022 29.11.2022

Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusua...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022 22.11.2022

Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11 Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn Bees Cwch Hive Para To last Peillio To pollinate Hanfodol Essential Diwydiant Industry Cnwd Crop Trystan ac Emma – Gari’r Gwiningen Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dym...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022 15.11.2022

S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 8fed 2022 08.11.2022

BETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022 01.11.2022

BORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwy...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002 25.10.2022

BETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Hydref 2022 21.10.2022

BETI A’I PHOBOL Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o’r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw… Cyflwyniad - Introduction Galar - Bereavement Gwlad Pŵyl - Poland Gofal dwys - Intensive care Go lew - Ddim yn ddrwg Meddygon - Doctors Canmol - To pra...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Hydref 2022 11.10.2022

TAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challe...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Hydref 2022 04.10.2022

BETI A’I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd...  Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes TRYSTAN AC E...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022 27.09.2022

Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfu...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fedi 2022 21.09.2022

Dros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - Skin Bore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022 16.09.2022

Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angl...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022 16.09.2022

Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechr...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022 30.08.2022

Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymd...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022 23.08.2022

Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To camp Oddeutu About Ychwanegol Additional Gan benna(f) Mainly Ad...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022 16.08.2022

Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yn...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022 02.08.2022

Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp Sport Bant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwbl Croesawu To welcome Meddylfryd Mindset Rhannu profiadau To share experiences Dros Frecwast – Gem...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022 26.07.2022

Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy. Rhestr...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022 19.07.2022

Cor y Byd Llangollen Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd Conductor Ymarfer Rehearsal Datblygu To develop Paratoi To prepare Llwyfan A stage Symudiadau Movements Cerddorion Musicians Creu To create Balch Proud Anwen bowlio i'r gyma...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022 12.07.2022

Dros Ginio Beti a Raymond Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiar Llwyddiant ysgubol - A roaring success Petrusgar - Hesitant Y naill a’r llall - One or...

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022 05.07.2022

Dei Tomos Gwilym Owen Dw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor... Bonheddwr...

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022 29.06.2022

Beti a'i Phobol Aled Roberts Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - Chal...

Listen to the Y Podlediad Dysgu Cymraeg podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.