BBC Radio Cymru

Stori Tic Toc

Kids CY ↓ 273 episodes

Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.

Author

BBC Radio Cymru

Category

Kids

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Apr 28, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Y Corrach Bach Mawr 24.09.2017

Mae Dafydd yn dal iawn, ac yn chwerthin am ben Cai oherwydd ei fod yn fyr iawn, felly mae Caradog y Corrach yn dod i chwilio amdano. A short story for young listeners.

Y Seren 18.09.2017

Wrth i Harri a Greta gael ffrae fawr, mae rhywbeth hudol a rhyfeddol yn digwydd i'r ddau. A short story for young children.

Mali - Merch Fach Lwcus Iawn 10.09.2017

Ar ddiwrnod anffodus gyda phopeth yn mynd o'i le, mae Mali yn teimlo'n anlwcus iawn. A short story for young listeners about Mali, who feels very unlucky when she has a bad day.

Amser Bath Albi 31.07.2017

Dydy Albi ddim yn hoffi mynd i'r bath tan iddo gael antur anghyffredin iawn. Albi who does not like baths, until he has an unusual adventure.

Y Laladwndwns a'r Gyfrinach 23.07.2017

Mae argyfwng ym myd y Laladwndwns, ond mae Lara a'i thad a'r dylluan ddoeth yn gwybod sut i achub y dydd. A story for young children about a crisis in the world of the Laladwndwns.

Ffrindiau Gorau Albi 19.06.2017

Jim Pob Dim sy'n dweud y stori am Albi sydd â thri ffrind da o'r enw Ela, Popi a Ned, ond dyw hynny ddim yn ddigon iddo, Ydi, mae Albi eisiau un ffrind arall.

A'i Wynt yn ei Fol 11.06.2017

Stori i'r plant lleiaf yn cael ei darllen gan Jim Pob Dim, un o gymeriadau Cyw. Mae Ben Dant eisiau iddo fe a Capten Cnec fod yn ffrindiau, ond mae ganddo un amod. A fydd Capten Cnec yn cytuno?

Moc a'r Cyfrifiadur 04.06.2017

Mae Moc wrth ei fodd yn chwarae gemau cyfrifiadur, ond mae gêm heddiw yn un hudolus a chyffrous iawn. Moc loves to play computer games, and this game is very exciting.

Yr Hudlath Hudol 14.05.2017

Ar benblwydd Anwen y dylwythen deg, mae mam a dad wedi rhoi hudlath hudol newydd sbon iddi. Wrth fynd i chwarae gyda Gwydion a Llew yn y goedwig, mae'n gorfod dysgu ei defnyddio ar frys mawr.

Tŷ Newydd 07.05.2017

Dyw Gweno ddim eisiau symud tŷ, ond mae'n newid ei meddwl wrth weld beth sydd yn yr ardd. Gweno doesn't want to move house, but changes her mind on seeing the garden.

Alun y Draenog 30.04.2017

Mae'r amser wedi dod i Alun y draenog fynd i gysgu am y gaeaf, ond dyw e ddim wedi blino. Stories for the young. It is time for Alun the hedgehog to hibernate, but he is not tired.

Cochyn y Clown 19.03.2017

Mae Cochyn y Clown yn dod i barti Mari heddiw, ac mae pawb wedi cyffroi. Ond dyw Cochyn ddim yn hapus, achos mae e wedi colli ei drwyn coch swnllyd.

Derfel Ddrwg 12.03.2017

Mae Derfel wastad yn cael bai am fod yn ddrwg yn yr ysgol, dyna pam mae'n cael ei alw'n Derfel Ddrwg. Ond mae Nain yn gwybod fel arall, mae Derfel yn fachgen ffeind iawn.

Heti A'r Het Hudolus 05.03.2017

Merch fach anniben iawn ydy Heti, ond wrth glirio ei stafell un diwrnod mae’n dod i hyd i het anghyffredin, un sy’n mynd a hi ar daith hudolus.

Lleucu Llygoden 26.02.2017

Stori i blant wedi ei darllen gan gymeriadau CYW. Mae Lleucu wedi anghofio ei bod hi’n ddiwrnod penblwydd arni, ond mae ei ffrindiau wedi trefnu sawl syrpreis hyfryd iddi.

Cracyr o Ddiwrnod 24.01.2017

Hoff ddiwrnod Joseff yw Dydd Nadolig, heblaw am un peth - cracyrs. Christmas Day is Joseff's favourite day of the year, except for one thing - crackers.

Beca Fach A'r Briodas 25.09.2016

Mae Beca'n benderfynol o wisgo ei welis ar ddiwrnod mawr priodas Anti Elin. Beca is determined to wear her wellies to Auntie Elin's wedding.

Menna Malwoden 04.09.2016

Dyw Menna Malwoden ddim eisiau chwarae cuddio oherwydd ei bod yn gadael llwybr ar ei hôl. Story for young children. Playing hide and seek is no fun for a snail like Menna Malwoden.

Cadog a Gwilym 24.07.2016

Stori i blant bychain am Cadog y pry copyn sy'n byw yn rhif 3, Llwybr Llawen. A story for young children about Cadog the spider who lives at number 3, Llwybr Llawen.

Cynog y Cogydd 03.07.2016

Cynog yw'r cogydd gwaethaf erioed, ond heddiw mae'n cael cyfle i fod yn arwr a helpu Ben Dant i lywio ei long yn saff. A short story for young children.

Bolgi yn Chwarae Mig 19.06.2016

Mae Criw Cyw eisiau mynd allan i'r ardd i chwarae yn yr heulwen braf ond mae Bolgi'n dwli chwarae cuddio yn y tŷ. A series of stories for the younger audience.

Tedyl a'r Oen 12.06.2016

Tegan meddal bach melyn yw Tedyl. Tedi yn ystod y dydd ond pan fydd pawb yn cysgu mae'r tedi bach yn troi'n geffyl sy'n helpu pawb mewn trafferth. Stories for the young.

Eil O Man 29.05.2016

Dyw Efan ddim yn deall pam mae ei fam yn hoffi mynd am dro i’r traeth mewn tywydd oer a gwyntog, ond heddiw mae'n cael antur gyffrous iawn yn y tywydd garw.

Brechdan Tiwna 17.05.2016

Mae Meg yn cael brechdan tiwna bob un dydd yn yr ysgol, ond ar ôl trip i’r traeth mae'n newid ei brechdan am frechdan môr-forwyn.

Pwmps Dewi 08.05.2016

Mae Dewi druan a'i bwmps yn broblem. Ydi, mae e wrth ei fodd yn bwyta ffa pob. Ffa pob i frecwast gyda'i dost, hefo taten i ginio, mewn brechdan i swper, a chacen ffa pob i bwdin.

Listen to the Stori Tic Toc podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.