Y bois i'r pod
Pod Midffîld!
Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith. Dylunio: Celt IwanCerddoriaeth: Gethin Griffiths, CiwbHawlfraint: S4C, Rondo, SainTroslais: Sian Naiomi, Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Pennod 24: Y Llyfr 19.12.2025 36:56
Mae misoedd wedi mynd heibio - ond mae’r bois i’r pod wedi bod yn brysur. Yn y bennod arbennig yma, bydd Caio, Geth a Tom yn cyflwyno recordiad byw o noson lansio llyfr newydd sbon ‘Hiwmor C’mon Midffîld’, a gafodd ei chynnal yng Nghaernarfon ddechrau Rhagfyr. Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru a ffan Midffîld brwd, oedd yn arwain, efo brenin y jingles a’r cerddor amryddawn, Gethin Griffiths,...
Pennod 23: Recap Cyfres 3 29.04.2025 30:27
Mae’r bois i’r pod yn ôl i gnoi cil ar gyfres 3 - y gyfres orau eto? Bydd y tri yn trafod eich sylwadau chi, yn cael gwybod mwy am darddiad “ciando”, yn edrych yn fanylach ar sillafiad ambell bennod, ac yn datrys dirgelwch y toasters. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain Troslais: Sian Naiomi Gwefan: podmidff...
Pennod 22: Meibion Bryncoch 01.04.2025 50:36
Yr olaf yn y gyfres, ac un o’r rhai mwyaf cofiadwy. Ond mae triawd y pod yn stryglo i ddallt sut mae’r holl dwyllo sydd yn y bennod yn gweithio. Mae ‘na achosion o ddwyn defaid yn yr ardal, sydd ddim yn ddelfrydol o ystyried fod Tecs wedi taro dafad efo’i gar ar ôl dathliad pen-blwydd cynamserol Picton. A cyn iddyn nhw droi rownd, mae’r criw yn cael eu harestio. Ond ydyn nhw? Cameos cofiadwy gan y...
Pennod 21: O Mam Bach 25.03.2025 47:05
Y si ar led ydi fod Lydia Tomos wedi marw. Ar ei gwely angau [sic], mae’r berthynas awkward rhwng hi â’i mab yn dod i’r amlwg. Ond yn ei alar, mae Wali yn troi at eiriau doeth George. Yn y cyfamser, mae rhediad da Bryncoch (a Picton) yn parhau ac mae’r enwog Wilff, ysgrifennydd y lîg, yn ei wobrwyo gyda swydd rheolwr Tîm y Cynrhon. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Haw...
Pennod 20: Tibetans v Mowthwelians 18.03.2025 54:15
Clasur arall. Mae Tecs yn trio dod â’r de a’r gogledd yn agosach at ei gilydd, ond dydi Picton - sy’n flin am fod Pobol Y Cwm wedi’i ddifetha - ddim yn groesawgar iawn. Mae’n cymryd llond bws o Brummies i ddod â phawb at ei gilydd. Dydi’r sgwâr ddim digon mawr i hogia ni. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain Troslais: Sian Naio...
Pennod 19: Tŷ Fy Nhad 11.03.2025 48:05
Mae’r daith i’r Eidal yn hen hanes. ’Nôl adra, mae tîm ffwtbol Bryncoch - ac yn enwedig George - ar rediad da. Ond tydi pethau ddim yn fêl i gyd oddi ar y cae, wrth i George a’r ci chweinllydd wthio Sandra i’r dibyn - neu i waelod y grisia’ o leia’. Mae’r bennod yn gofiadwy am sawl peth - o Ms Creepy Crawley i’r olygfa Monopoly eiconig - ond yn bennaf am mai dyma’r un pan gamodd un o’r cymeriadau...
Pennod 18: Il Lavoro In Italia 04.03.2025 38:00
Mae’r criw yn cyrraedd Rhufain ac yn cael croeso cynnes iawn - ond pam? Pam fod Walter Coccia wedi cymryd at Wali gymaint? Pa mor dda oedd Mario Fagandini mewn gwirionedd? Oes yna chwerthiniad fwy iach nag un Graham? Ac wrth i deyrngarwch Sandra i George gael ei brofi i’r eithaf, ydi Picton yn aros yn ffyddlon i Elsi? Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C,...
Pennod 17: Yr Italian Job 04.03.2025 54:56
Ar ôl seibiant annisgwyl o hir, mae’r bois i’r pod yn ôl! 1990 ydi hi - ychydig fisoedd cyn Cwpan y Byd yn Yr Eidal - pan mae Picton yn derbyn cynnig sy’n rhy dda i’w wrthod. Wrth i griw Bryncoch fynd ati i godi arian er mwyn gwireddu’r freuddwyd o chwarae dramor, mae’n edrych yn debyg na fydd pawb yn gallu mynd. Diolch byth bod digon o doasters. Ydi’r holl beth yn dod â’r gwaethaf allan yn Picton...
Pennod arbennig: John Pierce Jones 04.07.2024 34:52
Hir yw pob ymaros… Ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol, mae gan y bois i’r pod gyfweliad gydag un o’r ymgeiswyr mwyaf dadleuol yn hanes etholiadau cyngor cymundeb Bryncoch - Arthur Picton ei hun! Ond peidiwch poeni, ffans ffyddlon ‘Midffîld’, fyddwn ni ddim yn holi Picton am wleidyddiaeth. Yn hytrach, bydd John ei hun yn siarad yn agored am ei fywyd - am ei addysg yn Lloegr, ei farn am arlwy S4C,...
Pennod 15: Recap Cyfres 2 05.01.2024 37:39
Blwyddyn Newydd Dda! Yn y bennod arbennig yma, bydd Caio, Geth a Tom yn mynd drwy rai o uchafbwyntiau’r ail gyfres (a rhai o’r gyfres gynta’, eto) ac yn ateb ambell gwestiwn sydd wedi bod ar wefusau pawb dros y Nadolig. Ai David Hiraethog oedd/ydi Santa Clause? A oedd Hedd Wyn dros ei bwysau? Be ydi ystyr teitl pennod gynta’r ail gyfres? A be oedd Wali yn ei feddwl wrth ddefnyddio’r gair “arab” yn...
Pennod 14: Match O' Ddy De 05.12.2023 42:42
Yn y Bull, wrth wylio’r teledu, mae George yn gofyn i Sandra ei briodi fo. Er nad ydi Picton yn hapus, mae o’n mynnu eu bod nhw’n bwrw ati am ei fod o’n amau - yn anghywir - fod epil ar y ffordd. Buan iawn y mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd, ond a fydd George Winston Huws a Sandra Picton yn llwyddo i gadw’r gyfrinach oddi wrth y sgamp Picton am ddigon hir? Ydi Tecs yn ddewis da fel gwas priodas? A p...
Pennod 13: Rhyfal Cartra 28.11.2023 48:28
Dyma’r bennod lle mae pawb yn troi ar ei gilydd. Ma’ Tecs yn sgorio un own goal yn ormod ac mae Picton wedi cael digon ac yn edrych tua’r “daffodil”. Er mawr siom i’r comiti, ac i Sandra, mae George yn bwriadu gadael a symud i’r Rhyl ar ôl cael ei sgowtio, tra bod Wali ffansi go ar fod yn hyfforddwr. Ond buan iawn y mae’r cyfan yn mynd ar chwâl. Pwy fydd yno i stopio pawb rhag dinistrio’r clwb? Pw...
Pennod 12: Gweld Sêr 21.11.2023 43:17
Mae’n amser eto i feddwl am ffyrdd o godi arian i’r clwb. Mae capel y pentra’ yn dathlu canmlwyddiant - siawns bod Clwb Pêl-droed Bryncoch yn 100 oed hefyd? Mae Picton yn llwyddo i berswadio digon o bobl fod hynny’n wir, ond a fydd o (a Wali) yn llwyddo i ddenu sêr go iawn i gymryd rhan mewn gêm fawreddog? #moonlanding Noddwyr: Donc ar y Delyn Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffit...
Pennod 11: Y Gwir yn Erbyn y Byd 14.11.2023 47:11
Am ryw reswm, ma’ Picton yn meddwl ei bod hi’n syniad da i seinio’r chwaraewr mwyaf budur yn y gynghrair. Yr unig broblem ydi - ar wahân i’r ffaith fod neb yn y clwb isio Breian Fawr yno - mae’r amddiffynnwr yn wynebu gwaharddiad hir. Ond a fydd tricia’ Picton yn llwyddo i dwyllo’r panel disgyblu? Gwestai arbennig: Dewi Rhys Noddwyr: Cwmni plastro Bob Taylor Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth:...
Pennod 10: Bryn o Briten 07.11.2023 41:27
Daw un o elynion penna’ Picton i’r fei am y tro cynta’, ond dydi ennill ar y cae ddim yn ddigon i Reg Clark. Mae rheolwr Brynaber yn awyddus i gael y gora’ o Picton mewn cwis hefyd. Yn y cyfamser, mae ‘na ddryswch wrth ddosbarthu cylchgronau yn y pentra - Y Ffedog a rhai budur o Sgandinafia sy’n gwneud y rownds. Ond pwy fydd yn cael y bai am roi’r mochyndra aflan i’r henoed? Pwy sy’n cael ei disgr...
Pennod 9: Craig o Arian 31.10.2023 46:29
Wrth i Bryncoch chwilio am noddwr newydd, daw dyn busnes, Mr Craig, i’r fei - ac mae ganddo gynnig all Picton mo’i wrthod. Yn y cyfamser, mae ‘na dŷ gwydr newydd wedi’i godi mewn lle anghyfleus, tra bod y cigydd lleol wedi troi stumog Wali. Ond a fydd ei salmonella yn fendith yn y pen draw? A be ydi enw cynta’ Mr Craig?! Gwestai arbennig: Geoff Wright Noddwyr: Timothy Owen Wallis Gwaith dylu...
Pennod 8: Cân Di Bennill Fwyn 24.10.2023 59:56
Mae’r bois i’r pod yn ôl! Yn y bennod estynedig yma, bydd yr hogia’n rhoi sylw haeddiannol i un o olygfeydd mwyaf cofiadwy Midffîld, wrth i heddwas ifanc achosi hafoc ym Mryncoch. Ond a fydd y criw yn ei ddal o cyn iddo fo eu dal nhw? A oes ‘na lyfr o’r enw ‘Roy McCoy and the Red Hill Gang’ go iawn? Ac yn bwysicach fyth, pam fod Ted y tafarnwr yn chwarae’r piano ganol p’nawn Sadwrn? Gwestai arbenn...
Pennod 7: Recap Cyfres 1 22.08.2023 35:43
Mae'r gyfres gynta ar ben ac mae 'na wersi wedi'u dysgu. Yn y bennod arbennig yma, bydd yr hogia'n mynd drwy rai o uchafbwyntiau'r gyfres agoriadol, edrych 'nôl ar gyfraniadau'r gwesteion ac yn trafod rhai o negeseuon y gwrandawyr. Ymysg yr eitemau ar yr agenda mae Yncl Rufus, Post ar y Sul, beirdd cwsg a Geraint Wyn... Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Gri...
Pennod 6: Nadolig Bryncoch 01.08.2023 23:53
Ym mhennod ola’r gyfres, mae’r comiti yn gweld cyfle i fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er mwyn codi pres i’r clwb. Mae Jean yn bygwth dod â gyrfa lewyrchus Tecs fel goli i ben yn gynt na’r disgwyl, tra bod Wali yn mynd o gwmpas y pentra’ yn “di-di-o”. Mae Picton - sy’n gwrthod gadael i George ddod i ddathlu ato fo a Sandra - yn derbyn ei fod o’n rhy fawr i fod yn Santa Clause. Ond pwy ydi’r person yn y...
Pennod 5: Y Trip 25.07.2023 49:13
Er ei bod hi’n noswyl gêm gwpan fawr, mae’r criw allan yn clybio ym Mhrestatyn. Wrth i Wali ddarbwyllo Picton fod Sandra yn saff yn nwylo Tecs, mae’r goli cyfrifol wedi’i ddallu gan Miss Candy Floss. Yr wythnos yma, bydd yr hogia’n trafod barddoniaeth Eifion Wyn, agwedd Sandra, ac anffyddlondeb Tecs. Gwestai arbennig: Sian Naiomi Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlf...
Pennod 4: Traed Moch 18.07.2023 39:55
Mae’r FA yn bryderus am ymddygiad rhai o glybiau bach y gogledd. Picton sydd â’r dasg ddi-ddiolch o achub cam Clwb Pêl-droed Bryncoch ar y weirles, tra bod George allan yn dathlu’i ben-blwydd. Yn y cyfamser, mae Breian Fawr - ar dennyn rheolwr Llaneurwyn, Ned Thompson - yn chwilio am Gordon Whitehead, sydd wedi caboli efo’i wraig o. Mae’r cyfan yn mynd o ddrwg i waeth mewn gêm danllyd rhwng y ddau...
Pennod 3: Lladron y Nos 11.07.2023 26:33
Mae ‘na ladron ym Mryncoch a chariad yn yr aer. Ond wrth i berthynas George a Sandra flodeuo, mae sawl un yn cael bai ar gam am y dwyn. Nid ‘pwy wnaeth’ ydi’r cwestiwn ar wefusau’r hogia wythnos yma, ond yn hytrach, faint oed ydi Elsi? Pwy oedd cyflwynydd ‘Pwy ‘di Pwy?’? A pham fod Tecs yn neud rownd bost ar y Sul? Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Ron...
Pennod 2: Seren Ddisglair 04.07.2023 22:44
Mae Bryncoch angen streicar - ond ai “fandal” o’r dre ydi’r ateb i broblemau’r tîm? Yn yr ail bennod, bydd yr hogia’n trafod ymddangosiad cynta’ un o hoelion wyth y gyfres - y ‘number nine’ (sy’n gwisgo deuddeg) - George Huws. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain Gwefan: podmidffild.cymru ...
Pennod 1: Y Maes Chwarae 27.06.2023 40:53
Y bennod gynta’ un, a’r comiti cynta’ un. Mae Picton yn obeithiol ar drothwy tymor newydd, ond buan iawn y mae hynny’n newid. 35 mlynedd ers ei darlledu, bydd yr hogia’n trafod y bennod agoriadol, ac yn trio ateb rhai o gwestiynau mawr bywyd - be’ ma’ Wali yn ei weiddi ar y gwartheg? A fyddai Bryncoch wedi ennill y lîg efo Ritchie yn y tîm? A sut foi oedd yr ‘hen Huw’? Gwesteion arbennig: Wyn Bowe...
Croeso i Pod Midffîld! 24.06.2023 0:46
Wele ddyfod, mis y mêl, mis y gwcw, mis y... mis y trêl! Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain Gwefan: podmidffild.cymru X: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.