BBC Radio Cymru

Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad

Society EN ↓ 17 episodes

Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds ac mae'r ffrindiau yn dal i siarad am bethau hapus a heriol bywyd. Bydd llwyth o chwerthin ar hyd y ffordd a digonedd o straeon a safbwyntiau difyr am fywydau y dair. Mel, Mal and Jal bring their fun and heartfelt conversations to BBC Sounds.

Be sure to visit the podcast's website and support the creator: www.bbc.co.uk

Author

BBC Radio Cymru

Category

Society

Podcast website

www.bbc.co.uk

Latest episode

Jan 11, 2024

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android almost 10M downloads · 4.7+ rating iOS soon

Episodes

Dod i nabod ni 2.0 11.01.2024

Does dim rheolau nawr gyda Mel, Mal a Jal. Wrth gloi'r gyfres mae’r tair yn gofyn be bynnag ma' nhw moen i'w gilydd i sicrhau eich bod chi yn dod i nabod nhw 2.0.

Y 30 Mawr 04.01.2024

Ma'r 30 Mawr ar y gorwel i Mel, Mal a Jal - ydyn nhw yn hapus neu anhapus am hynny ac ydyn nhw wedi cyflawni bob dim oedden nhw wedi gobeithio neud cyn troi yn 30.

Iechyd Menywod: Y Tabw 28.12.2023

Mae hanner y boblogaeth yn dioddef ac yn ympodi bob mis. Nawr ma Mel, Mal a Jal yn trafod y Mislif.

Pam fod bod yn frown ac yn Gymry yn anghytuno? 21.12.2023

'Ni'n Frown ac o Gymru.. mae hynny weithie'n anodd'. Trafodaeth agored a gonest am hil, Cymreictod a chymdeithas. Yw pethau'n newid er gwell neu ydym ni wedi cymryd cam yn ôl?

Mae'r Agony Aunts yn ôl! 14.12.2023

Fe ofynnodd Mel, Mal a Jal i chi rannu eich problemau, nawr dyma'r atebion. O ddêtio i gur pen gyrfa, mae'r dair yma i geisio helpu!

Bod yn Boss Bitch 07.12.2023

Profiadau Mel, Mal a Jal yn y gweithle. Mel, Mal a Jal discuss their experiences in the workplace.

Deng mlynedd ers gadael yr ysgol... 30.11.2023

Deng mlynedd ers gadael yr ysgol, mae Mel, Mal a Jal yn trafod y pethau sydd wedi newid ers hynny. Cawn glywed am aduniadau lletchwith, cyngor gyrfa gwael a’r broses hir o aeddfedu a thyfu’n gyfforddus yn eich hun.

Love Bombing ar y cyfryngau cymdeithasol 23.11.2023

Mae Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad yn ôl! Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r dair yn trafod 'love bombing', sef dangos cariad ar y cyfryngau cymdeithasol. Ydi hyn yn eich gwneud chi wenu neu gyfogi?! Pa mor aml ddylech chi roi llun o'ch cariad ar Insta ac yw'r dêt cyntaf yn rhy gynnar?! Mae digon o farn a chwerthin wrth i ni glywed sgwrs gignoeth am y da, y drwg a'r dychrynllyd drwy lygaid Melani...

Dêtio ar ddydd Iau yn unig?! 21.11.2022

Mae’r cyfryngau cymdeithasol ac aps wedi trawsnewid y ffordd mae pobl ifanc yn dod o hyd i gariad. Mae Mel, Mal a Jal wedi cael profiadau cymysg wrth eu defnyddio, gan brofi'r da, y drwg a'r crinj! Ond wrth gwrs mae aps a bywyd go iawn yn bethau gwahanol iawn. Yn enw ymchwil gwyddonol mae Mel yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a'n mynd ar dêt drwy ap ‘Thursday’; gwasanaeth sy'n gorfodi pobl i gyfa...

Aberystwyth v Caerdydd v Port Talbot 10.11.2022

Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a’u profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru. Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi’n meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nh...

Yw'r Mabinogi yn toxic?! 02.11.2022

Perthnasau amheus, trais, twyll a mwy. Gadewch i ni fod yn onest, mae'r Mabinogi a chwedlau Cymru ychydig yn drafferthus! Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trio gwneud synnwyr o rai o hen chwedlau Cymru a'n ystyried os oes rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw heddiw. Fyddech chi'n cwblhau deugain o dasgau er mwyn canlyn darpar bartner? Ac ai Kim Kardashian neu Zendaya yw Blodeuwedd ein hoes...

Insta v realiti 20.10.2022

Pa mor agored ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth sy'n cael lle ar y grid, a beth sy'n cael ei gadw ar gyfer ffrindiau agos yn unig? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn rhannu profiadau a barn am y da, y drwg a'r dryslyd wrth gyhoeddi ar-lein.

Gwrywdod gwenwynig 13.10.2022

Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod gwrywdod gwenwynig. Boed mewn bywyd personol neu yrfa, pa effaith mae dod wyneb yn wyneb ac agweddau fel yma wedi'i gael arnyn nhw? Mae'r dair yn rhannu straeon personol a thrawiadol am eu profiadau, a'n ystyried beth allwn ni gyd ei wneud i herio arferion trafferthus. Tanysgrifiwch i glywed pob pennod ar BBC Sounds.

Ga’i weld dy CV? 05.10.2022

Pa mor bwysig yw uchelgais a gyrfa wrth chwilio am gariad? I Melanie, mae'n hanfodol. Ond dyw Mali a Jalissa ddim mor siwr… Yn y bennod yma mae'r dair yn trafod gwaith, gyrfaoedd, uchelgais, arian a mwy. Beth yw'r gyfrinach pan mae'n dod at berthynas?

Beth yw ‘Fetishization’? 28.09.2022

Ydych chi'n gyfarwydd â'r gair 'fetishization'? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod ystyr y term, a'i gysylltiad anghyfforddus gyda hunaniaeth person. Sut mae'n effeithio ar fenywod heddiw, a sut mae wedi gwneud i'r dair deimlo yn eu bywydau nhw? Tanysgrifiwch i Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.

Delwedd corff 21.09.2022

Beth sy’n cael effaith ar y ffordd rydych chi’n meddwl am eich hun a'ch corff? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhoi pwysau arnom ni i geisio edrych ein gorau pob awr o’r dydd. Ond ydi hyn yn newid a phobl ifanc bellach yn chwilio am brofiad ar-lein mwy realistig? Mewn sgwrs agored a hwyliog mae Mel, Mal a Jal yn trafod sut mae eu agwedd nhw at eu cyrff yn newid o hyd, ac effaith y disgwyliad...

Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad 20.09.2022

Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds ac mae'r ffrindiau yn dal i siarad am y pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bydd sgyrsiau hwyliog am bethau hapus a heriol bywyd, gan gynnwys gyrfaoedd, dêtio, hunaniaeth, teulu a mwy. Bydd llwyth o chwerthin ar hyd y ffordd a digonedd o straeon a safbwyntiau difyr am fywydau'r tair.

Listen to the Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.