Llwyddo'n Lleol 2050
Lleisiau Lleol
Yng nghwmni Ffion Emyr, mae'r podlediad yma yn dathlu lleisiau lleol a llwyddiant lleol yn ardal ARFOR!Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR ac wedi’i hysbrydoli gan y prosiect Llwyddo’n Lleol, rydyn ni yma i ddangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol bywiog yn aros amdanoch chi – yma yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y gyfres, byddwn yn cwrdd â phobl ysbrydoledig sy’n profi bod ffynnu’n bosib heb adael cartref. O entrepreneuriaid i arloeswyr, mae ganddyn nhw i gyd stori i’w rhannu – ac mae’n fraint cael bod yma i’w hadrodd.
Author
Llwyddo'n Lleol 2050
Category
Podcast website
Latest episode
Apr 1, 2025
Where to listen?
Podcasts in the app Replaio Radio Coming soonPodcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts
Episodes
Sgwrs gyda Tom Owen a Lisa Taylor 01.04.2025 28:29
Yn y bennod yma , rydyn ni'n siarad gyda Lisa Taylor, artist talentog sy'n cael ei hysbrydoli gan dirweddau Cymru a'r elfennau naturiol o'n cwmpas , a Tom Owen, sylfaenydd y cwmni poblogaidd iawn Swig Smwddis . A mi fyddan nhw'n rhannu eu profiadau o weithio a datblygu gyrfa ym a yn ARFOR.
Sgwrs gyda'r asiantaeth greadigol ddigidol Libera 25.03.2025 24:12
Yn y bennod yma mae Ffion yn cael sgwrs gydag Alun a Megan o Libera, sef asiantaeth greadigol ddigidol wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal â dysgu mwy am y cwmni a'u gwaith, cawn glywed sut mae cefnogaeth Elfen Yrfaol Llwyddo'n Lleol wedi eu helpu i ehangu'r tîm!
Sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr 18.03.2025 22:09
Yn y bennod yma rydym yn cael sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr. Mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth gan Llwyddo'n Lleol drwy'r Elfen Gyrfaol i gyflogi Tara. Gwrandewch ar y sgwrs i gael clywed sut mae gefnogaeth yma wedi bod o fudd i Tara a Helen!
Sgwrs gyda Morlais - Trafod yr Elfen Gyrfaol, Ynni Llanw a mwy! 11.03.2025 16:03
Yn y bennod yma, rydyn ni'n siarad gyda Hannah a Caryl o Morlais, sef prosiect ynni llif llanw gan Menter Môn. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut mae Elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi caniatau i Caryl weithio gyda Morlais, tra hefyd yn astudio yn y brifysgol. Byddwn hefyd yn dysgu ychydig mwy am waith y prosiect a darganfod yr holl gyfleoedd sydd yn dod ohonno.
Ydi Dychwelyd yn Fethiant? 25.02.2025 14:01
Yn y bennod hwn, rydyn ni'n mynd i drafod un o'r syniadau mwyaf dadleuol sy'n wynebu llawer o bobl sy'n gadael eu cymunedau lleol – y gred fod 'dychwelyd adref' yn rhyw fath o fethiant. Rydyn ni'n croesawu dau westai arbennig sydd â phrofiadau uniongyrchol o'r daith hon – Huw Rees a Daniel Thomas. Mae'r ddau yn wreiddiol o ardal ARFOR ond wedi symud i ffwrdd i Gaerdydd a Llundain, cyn dychwelyd ad...
Magu Teulu yn ARFOR 18.02.2025 18:50
Yn y bennod yma rydyn ni'n mynd i ganolbwyntio ar faes sy'n agos at galon llawer ohonon ni – magu teulu yng Ngorllewin Cymru. Rydyn ni'n sgwrsio â dwy westai arbennig – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees. Mae'r ddwy yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn yr ardal, y manteision unigryw sydd gan fywyd yma i'w gynnig, yn ogystal â'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu.
Does Dim Byd I'w Wneud Yma! 11.02.2025 15:47
Yn y bennod yma rydyn ni'n mynd i herio'r gred gyffredin bod 'dim byd i'w wneud' yn ardal ARFOR. Rydyn ni'n cael cwmni dau westai arbennig sy'n profi'r gwrthwyneb: Gwen Owen, sy'n rhedeg Môn Girls Run, ac Steff Rees, sy'n trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous yn ardal Ceredigion. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, byddwn yn clywed sut mae'r ddau ohonyn nhw'n helpu i greu cyfleoedd, cysylltu pobl ifa...
Rhedeg Busnes yn ARFOR 24.01.2025 18:47
Yn y bennod yma, rydyn ni'n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a'r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol. Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy'n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy'n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Ma...
Similar podcasts
Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.