fr

BBC Radio Cymru

Gwleidydda

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

N'hésitez pas à visiter le site du podcast et à soutenir son créateur : www.bbc.co.uk

Auteur

BBC Radio Cymru

Catégorie

Government

Site du podcast

www.bbc.co.uk

Dernier épisode

14 oct. 2026

Où écouter ?

Les podcasts dans l'appli Replaio Radio Bientôt disponible

Les podcasts arrivent très bientôt dans l'appli. Installe-la dès maintenant et découvre en avant-première une toute nouvelle façon de vivre les podcasts

Télécharger sur Google Play Installe-la gratuitement Android près de 10 M de téléchargements · note de 4,8 iOS bientôt

Épisodes

Canlyniad Hanesyddol 08.05.2026

Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. Cofiwch bod modd i chi gysylltu a'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy ebostio gwleidydda@bbc.co.uk

Cyfri'r Oriau 05.05.2026

Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd wedi bod a beth allwn ni ei ddisgwyl ddydd Gwener ar ddiwrnod y cyfri. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Cofio'r Cyfri 02.05.2026

Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick mae'r ddau yn trafod atgofion o ddyddiau Margaret Thatcher hyd at gyfnod Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan.

Yr Wythnos Olaf 29.04.2026

Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais. Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu, trafod yr arolwg barn diweddara’ ac yn dadansoddi sut all y nifer sy'n mynd ati i bleidleisio effeithio ar y canlyniad wythnos nesaf. Mae'r panel hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysyllt...

Dadansoddi'r Dadlau 23.04.2026

Wedi ei recordio yn syth ar ôl y Ddadl Fawr yng Nghaerfyrddin, Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cnoi cil ar y dadlau.

Dadleuon a Dadansoddi 22.04.2026

Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei gael? Mae'r tri hefyd yn dadansoddi'r arolygon barn diweddaraf. Mae Elliw, Richard a Betsan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc....

Ymgyrch Dawel? 15.04.2026

Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru hyd yma, gan edrych yn benodol ar faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Newid Byd 08.04.2026

Mae Vaughan yn ôl ac yn ymuno â Bethan a Richard i drafod sefyllfa'r Dwyrain Canol a sut mae digwyddiadau yno am newid ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? Mae'r tri yn trafod cyhoeddi maniffesto'r Blaid Werdd ar gyfer Etholiad y Senedd fis nesa'. Ac mae Etholiad Senedd Yr Alban hefyd yn cael sylw'r tri. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Fetio cyn Fotio 01.04.2026

Ar ôl i nifer o ymgeiswyr dynnu eu henwau yn ôl, mae Bethan a Richard yn trafod y fetio mae'r pleidiau'n gorfod ei wneud cyn Etholiad y Senedd. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae Aelod o'r Senedd Llafur Alun Davies yn trafod gobeithion y blaid yn yr etholiad. Ac mae Bethan a Richard yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio...

Ta Ta Criw '21 25.03.2026

Gyda thymor y chweched Senedd yn dod i ben - mae Bethan a Richard yn trafod y newidiadau sydd wedi bod i'r pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid. Mae Richard yn trafod yr arolwg barn diweddaraf ar etholiad y Senedd ym mis Mai a chawn glywed am gysylltiad Byrllysg y Senedd a maes awyr Heathrow. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gw...

Y Llywydd - Degawd yn y Gadair 23.03.2026

Gyda thymor y Senedd yn dod i ben, fe aeth Bethan Rhys Roberts i'r siambr newydd y Senedd ym Mae Caerdydd i holi'r Llywydd, Elin Jones. Mewn cyfweliad estynedig mae'r ddwy yn trafod ei degawd yn y swydd, cyfarfod y Frenhines am y tro olaf a beth all y dyfodol edrych ar ol etholiad mis Mai.

Tu ôl i'r Llen - Y Paratoi at Lywodraethu 18.03.2026

Gyda 50 diwrnod tan etholiad Senedd Cymru, mae cyn bennaeth staff y Prif Weinidog yng nghyfnod Mark Drakeford, Des Clifford sy'n ymuno â Bethan a Richard i drafod y paratoadau sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil i'r posibilrwydd o lywodraeth newydd. Mae'r tri hefyd yn trafod sylwadau gan gyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw nad oes angen rôl Ysgrifennydd Cymru. A chofiwch fod modd cy...

Stunts a Datganoli 11.03.2026

Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau o fewn y blaid Lafur ar ôl i nodyn gan Syr Keir Starmer rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau datganoledig. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru. Ac ar ôl l...

Ras y Maniffestos 04.03.2026

Gyda'r Ceidwadwyr a Reform UK yn lansio eu maniffestos yr wythnos hon mae Vaughan a Richard yn trafod eu pwysigrwydd. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod cynllun 100 niwrnod cynta' Plaid Cymru pe baen nhw mewn llywodraeth ar ôl Etholiad y Senedd ym mis Mai. Ac mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhy...

Golau Gwyrdd i'r Gwyrddion 27.02.2026

Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton and Denton mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd y canlyniad. Mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod beth all hyn golygu ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Sgandalau Gwleidyddol 25.02.2026

Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd. Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton. Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Nôl ar y cledrau? 18.02.2026

Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ariannu cynlluniau i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru gyda buddsoddiad o £14 biliwn o bunnau, mae Vaughan a Richard yn trafod y wleidyddiaeth tu ôl i'r datganiad. Mae'r cynhyrchydd teledu, Steffan Morgan yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod ei raglen fydd ar S4C, Reform UK - Tu ôl i'r llenni, sy'n dilyn y blaid yn ardal Llanelli a Chaerfyrddin. Mae...

Wythnos Ryfeddol 11.02.2026

Ar ôl wythnos dymhestlog yn Downing Street, mae aelod Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod y pwysau sydd wedi bod ar Keir Starmer a'r feirniadaeth bod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan heb fynegi safbwynt clir am ei ddyfodol. Mae'r tri yn trafod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth a gobeithion Llafur ar gyfer Etholiad y Senedd.

Dewis Dan-nisgwyl? 05.02.2026

Ar ôl i Reform UK ddewis eu harweinydd yng Nghymru - Vaughan, Richard a Dan Davies sy'n holi; pwy yw Dan Thomas? A beth yw arwyddocâd ei benodiad i'r blaid? Ac wrth i'r pwysau gynyddu ar Keir Starmer - mae'r tri'n dadansoddi effaith sgandal Peter Mandelson ar arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

Anawsterau’r Arglwydd 04.02.2026

Ar ôl i'r heddlu ddechrau ymchwiliad troseddol i honiadau bod Peter Mandelson wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein pan oedd e'n weinidog cabinet, mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o niwed mae'r sgandal wedi neud i arweinyddiaeth y Prif Weinidog Keir Starmer. Mae'r tri hefyd yn trafod y diweddara' yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ateb eich cwestiynau. Cofiwch bod modd cysyll...

Blocio Burnham 28.01.2026

Ar ôl i Faer Manceinion, Andy Burnham gael ei atal rhag sefyll yn yr isetholiad ar gyfer San Steffan mae Vaughan a Richard yn trafod beth all hynny olygu i'r Prif Weinidog, Keir Starmer. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi’r tensiynau o fewn Llafur Cymru ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood fynnu na fydd Senedd Cymru yn cael pŵer ar blismona. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd tr...

Croesi'r Llawr? 21.01.2026

Ar ôl i ddau aelod mainc flaen y Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid yn San Steffan a Bae Caerdydd, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod arwyddocâd hynny i'r Torïaid a Reform. Hefyd fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol pleidiau, mae Gareth Hughes o'r blaid Werdd yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru wedi arolwg barn calonogol iddi hi yn ddiweddar. Cofiwc...

Prif Weinidog Nesaf Cymru? 14.01.2026

Bethan Rhys Roberts yn holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion blaenllaw o’r gwahanol bleidiau. Rhagor o drafod hefyd gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

"Her fwyaf Llafur yng Nghymru ers 1983" 07.01.2026

Aelod Llafur Blaenau Gwent o'r Senedd, Alun Davies sy'n westai ar y podlediad yr wythnos hon, ac wrth edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru eleni mae'n dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu’r her etholiadol fwyaf yng Nghymru ers 1983. Mae Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn trafod ei sylwadau ac yn dadansoddi gobeithion y blaid ar gyfer mis Mai. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd t...

Ta Ta 2025, Helo 2026 29.12.2025

Wrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf Jones a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Dan Davies. Ymhlith y pynciau dan sylw; buddugoliaeth Plaid Cymru...

Écoute le podcast Gwleidydda sur Replaio

La radio et les podcasts dans une seule appli - gratuite, sans inscription. Installe-la dès aujourd'hui et ne rate pas le lancement

Télécharger sur Google Play

Replaio n'est pas éditeur de podcasts ; les noms des émissions, les visuels et l'audio appartiennent à leurs auteurs et sont diffusés via des flux RSS publics