Improvement Cymru

Trafod Gwelliant

Health CY ↓ 9 Folgen

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

Autor

Improvement Cymru

Kategorie

Health

Podcast-Website

www.spreaker.com

Neueste Folge

28. Apr 2024

Wo hören?

Podcasts in der App Replaio Radio Bald verfügbar

Podcasts kommen bald in die App. Installiere sie jetzt und erlebe als Erster einen ganz neuen Blick auf Podcasts

Bei Google Play herunterladen Kostenlos installieren Android 5 Mio.+ Downloads · Bewertung 4,8 iOS bald

Folgen

Creu amodau i gynnal gwelliant 28.04.2024

Pa mor bwysig yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Beth yw'r effaith ar les a chynhyrchiant? Yn ein trafodaeth gyda'r gwestai, Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, mae’n son am ei phrofiadau ac arbenigedd ar faterion diogelwch seicolegol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Felindre. Mae Nicola Williams wedi bod yn arweinydd blaenllaw ar gyfer mentrau diogelwch seicolegol. Mae hi...

Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999 21.04.2024

Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65 oed yn cwympo pob blwyddyn, mae’r straen ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol. Mae’r podlediad yma yn trafod prosiect cydweithredol sy'n anelu at leihau galwadau ambiwlans pan fo rhywun yn cael codwm yn y cartref yng Nghymru. Esbonia Eleri D’Arcy...

Hwb Llywio Clinigol - lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans 14.04.2024

Sut mae lleddfu’r pwysau cynyddol sydd ar adrannau brys ysbytai a gwasanaethau ambiwlans?  Yn y bennod hon mae Dr Dewi Rogers meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn son am ddull o gydweithio arloesol o enw’ r Hyb Llywio Clinigol. Fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel, mae’r hwb hwn yn cynnig adnodd canolog i sefydliadau fel cartrefi gofal, gan ddarparu cyngor a chymorth...

Call 4 Concern 07.04.2024

Pan fydd cyflwr claf yn gwaethygu at bwy ddylai’r claf neu’r teulu droi ato os , yn eu tyb nhw, bod yr achos yn cael ei anwybyddi gan y tîm meddygol? Yr ateb yw’r gwasanaeth Call 4 Concern.  Yn y bennod hon mae Eirian Edwards uwch ymarferydd nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod y gwasanaeth arloesol cafodd ei gyflwyno gan y Bwrdd fis Ebrill 2023.  Yn ôl Eirian, roedd 'na gydn...

'Ffordd Toyota' gyda Nick Pearn 27.09.2022

Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wrai...

Meddylfyrd Dylunio gyda Dr Philip Webb 20.09.2022

Ar gyfer y bennod hon o 'Trafod Gwelliant', rydym yn trafod gwelliant ac arloesedd gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru (RIW). Pan ofynnwyd iddo am egwyddorion meddwl dylunio, dywedodd Philip, 'Dwi'n meddwl bod meddwl dylunio yn fath o gyfuniad rhwng emosiwn ac athroniaeth i mi. Os ydyn ni wir yn rhoi pobl yng nghanol popeth rydyn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i ni gynnwys pob...

Sepsis codi ymwybyddiaeth gyda Terence Canning 20.09.2022

Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, siaradodd Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU â Martine Price, Nyrs Arweiniol gyda Gwelliant Cymru am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis. Dywedodd Terence, ‘Ond yr hyn y byddem yn ei ddweud gyda sepsis yw, nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn neb. Mae'n effeithio ar bawb. Felly mae angen i ni gasglu straeon y cleifi...

Barod i Fynd gyda Catherine Roberts a Robert Foley 06.09.2022

Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, eisteddodd Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i lawr gyda'r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, i dynnu sylw at y gwaith parhaus o wella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful...

Trafod Gwelliant gyda Gwelliant Cymru 30.08.2022

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

Höre den Podcast Trafod Gwelliant in Replaio

Radio und Podcasts in einer App - kostenlos und ohne Anmeldung. Installiere sie noch heute und verpasse den Start nicht

Bei Google Play herunterladen

Replaio ist kein Herausgeber von Podcasts; die Namen der Sendungen, Cover und Audioinhalte gehören ihren Autoren und werden über öffentliche RSS-Feeds verbreitet