Golwg Cyf.

Ar Y Soffa

Tv CY ↓ 21 Folgen

Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.

Autor

Golwg Cyf.

Kategorie

Tv

Podcast-Website

golwg.360.cymru

Neueste Folge

7. Jul 2026

Wo hören?

Podcasts in der App Replaio Radio Bald verfügbar

Podcasts kommen bald in die App. Installiere sie jetzt und erlebe als Erster einen ganz neuen Blick auf Podcasts

Bei Google Play herunterladen Kostenlos installieren Android 5 Mio.+ Downloads · Bewertung 4,8 iOS bald

Folgen

Effi O Blaenau 07.07.2026

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ffilm newydd, Effi o Blaenau. Mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc o Flaenau Ffestiniog sy'n byw gyda'i mam-gu. Ei harfer wythnosol yw mynd allan gyda'i ffrindiau, nes bod un noson yn Llandudno yn rhoi cipolwg iddi ar fywyd cwbl wahanol. Wrth i'r stori ddatblygu, mae'r ffilm yn archwilio themâu fel tlodi, dosbarth cymdei...

Comedis Byrion 09.06.2026

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod Comedis Byrion, cyfres o sgetshis comedi ar S4C sy'n cyfuno hiwmor swreal, cymeriadau ecsentrig a syniadau annisgwyl. Mae'r gyfres yn arddangos gwaith awduron a chynhyrchwyr o Gymru, gan roi llwyfan i leisiau ffres a syniadau gwreiddiol gael eu profi ar y sgrin. Wrth adolygu'r gyfres, mae Kate a Gwilym yn trafod yr eiliadau...

Anfamol 21.04.2026

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod ail gyfres Amfamol. Yn dilyn ei thaith i famolaeth yn y gyfres gyntaf, mae Cyfres 2 yn gweld Ani yn llywio heriau bod yn fam sy’n gweithio wrth geisio dod o hyd i gariad. Mae’r gyfres yn mynd i’r afael â pherthnasoedd deurywiol, hunan-dderbyn a phrofiadau rhianta cwiar a chyfoes, gyda chyfuniad o onestrwydd a hiwmor. Ac efal...

Under Salt Marsh 17.03.2026

Un arall o ddramâu trosedd sydd dan sylw’r mis yma yw  Under Salt Marsh . Mae’r gyfres chwe phennod yn dilyn Jackie Ellis, cyn-dditectif sydd bellach yn athrawes yn nhref arfordirol Morfa Halen. Pan ddarganfyddir corff ei myfyriwr, Cefin, wedi boddi, mae’r digwyddiad yn ysgwyd y gymuned ac yn gorfodi Jackie i ddychwelyd at ei gorffennol. Mae’r gyfres yn archwilio themâu fel cyfrinachau mewn cymune...

Dal Y Mellt 10.02.2026

Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan sylw’r mis yma, sef Dan y Mellt. Yn dilyn y gyfres gyntaf, mae’r sioe yn dychwelyd gyda thôn hollol wahanol i unrhyw beth welwyd ar S4C o’r blaen. Lladrad traddodiadol sydd wrth galon y stori, gyda themâu cryf o drosedd a brad, wrth i’r criw gael eu tynnu’n ôl i fyd peryglus sy’n profi eu teyrngarwch a’u perthnasau i’r eithaf. Beth sydd gan Kate a Gwilym i d...

STAD 16.12.2025

Pa mor debyg ydy cyfres STAD â bywyd go iawn yng Nghaernarfon? Dyna un o’r pethau sydd ar feddwl Dyfan a Kate wrth drin a thrafod cyfres nos Sul ddiweddaraf S4C.  Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.

Y Golau: Dŵr 06.11.2025

Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan y chwyddwydr y mis yma, sef Y Golau: Dŵr. Mae’n dilyn stori Caryl Hughes, y myfyriwr prifysgol sy’n astudio newyddiaduraeth, ac sydd nôl yn Llanemlyn ar drywydd stori am gronfa ddŵr yr ardal. Yn ôl Kate Woodward, mae yma gyswllt difyr Cymreig rhwng y gyfres â ffilm Yr Ymadawiad, cyfresi Pen Talar ac Under Salt Marsh, a hyd yn oed Pobol y Cwm yn ddiweddar......

The Guest 14.10.2025

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres BBC, The Guest. Mae'n ddrama bedair rhan seicolegol sy’n canolbwyntio ar berthynas beryglus rhwng Ria, glanhäwr ifanc, a’i chyflogwr cyfoethog, Fran. Sut mae pŵer, dosbarth a chyfrinachau tywyll yn cael eu trin yn y gyfres? Dyna sy'n mynd â sylw Kate a Gwilym y tro hwn. Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podl...

Hafiach 08.09.2025

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres Hafiach. Wedi’i gosod yn y Rhyl a Phrestatyn, a'i thargedu at wylwyr 13 oed a thu hwnt. Mae’r gyfres yn dod â materion bywyd go iawn i’r sgrin gan gynnwys profiadau ffoaduriaid, trosedd, yr amgylchedd a heriau mewn perthnasoedd. Ond a yw 13 oed yn rhy ifanc i wylio’r gyfres? Beth yw barn Kate a Gwilym? Cwmni Golwg s...

Death Valley 24.06.2025

Yn y bennod hon o Ar y Soffa, drama drosedd sy’n mynd â sylw Gwilym Dwyfor a Kate Woodward.   Ond nid drama drosedd arferol yw Death Valley. Mae’r gyfres sydd wrthi’n cael ei darlledu ar BBC 1 yn ddrama gomedi sydd wedi’i gosod a’i ffilmio yng Nghymru.   Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa – y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.

Oed Yr Addewid 21.05.2025

Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod Oed  Yr Addewid. Ffilm Gymraeg gan Emlyn Williams a ryddhawyd yn 2001. Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi'r hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor,...

Bariau - Cyfres 2 15.04.2025

Mae’r ddrama garchar gafaelgar, Bariau, wedi dychwelyd ar gyfer ail gyfres gan fynd â ni nol tu ôl i ddrysau Carchar y Glannau. Ar ôl digwyddiadau ysgytwol y gyfres gyntaf, mae’r tensiynau o fewn waliau'r carchar yn uwch nag erioed. Yn yr ail gyfres, mae’r frwydr am reolaeth yn fwy ffyrnig nag erioed, a does neb yn ddiogel rhag penderfyniadau eu gorffennol.   Bu Gwilym Dwyfor a Dr Kate Woodward yn...

Out There 31.03.2025

Yn y bennod hon, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn edrych ar Out There, y ddrama chwe rhan ar ITV, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru. Gyda Martin Clunes yn chwarae’r brif ran, mae'r ddrama ddwys hon yn dilyn brwydr anobeithiol tad i achub ei fab rhag crafangau gang cyffuriau. Ymunwch â Kate a Gwilym wrth iddyn nhw drafod beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim.

Ar y Ffin 23.12.2024

Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Wooward yn trafod y ddrama newydd sydd ar y gweill ar S4C, Ar y Ffin.   Mae Ar y Ffin yn dilyn yr Ynad profiadol, Claire Lewis Jones, yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a’i theulu mewn peryg. Wrth i’r gwirionedd gael ei ddatgelu a chanlyniadau ddod i’r amlwg, rhaid i Claire wynebu ei rhagfarnau a’i phenderfyniadau ei hun. Daw’r ffi...

Cleddau 11.11.2024

Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward wedi bod yn trafod y ddrama drosedd newydd ar S4C, Cleddau. Wedi’i seilio yn Sir Benfro, mae’r ddrama yn dilyn llofruddiaeth nyrs sy’n dod fel sioc enfawr i gymuned drefol fach. O’r actio i’r teitlau agoriadol, mi fyddan nhw’n trafod y cyfan...

Lost Boys and Fairies 28.06.2024

Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama newydd gan BBC One, Lost Boys and Fairies. Wedi'i seilio yng Nghaerdydd, mae'r ddrama ddwyieithog yn dilyn Gabriel ac Andy, ar eu taith i fabwysiadu eu plentyn cyntaf. Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno ga...

Creisis 23.05.2024

Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y gyfres newydd chwe rhan S4C. Drama sy’n camu i fyd bregus iechyd meddwl a galar, Creisis. Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwy...

Twin Town 26.04.2024

Ym mhedwaredd bennod Ar y Soffa, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn edrych yn ôl ar ffilm nostalgic, y comedi tywyll sy'n dathlu chwarter canrif ers cael ei ryddhau - Twin Town. Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a the...

The Way 14.03.2024

Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ddrama wefreiddiol newydd, sef début cyfarwyddol Michael Sheen, The Way.

Bariau 25.01.2024

Yn ail bennod Ar y Soffa mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn croesawu gwestai arbennig - Ciron Gruffydd, awdur y gyfres ddrama newydd, Bariau.

Pren Ar Y Bryn 21.12.2023

Ym mhennod gyntaf Ar Y Soffa, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y ddrama swreal a chomedi tywyll newydd gan S4C, Pren Ar Y Bryn.

Höre den Podcast Ar Y Soffa in Replaio

Radio und Podcasts in einer App - kostenlos und ohne Anmeldung. Installiere sie noch heute und verpasse den Start nicht

Bei Google Play herunterladen

Replaio ist kein Herausgeber von Podcasts; die Namen der Sendungen, Cover und Audioinhalte gehören ihren Autoren und werden über öffentliche RSS-Feeds verbreitet