ADY a'r Gymraeg

ADY a'r Gymraeg

Cyfres o bodlediadau newydd sy'n canolbwyntio ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Gymraeg. Trystan Williams, Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY a'r Gymraeg sy’n arwain y sgyrsiau. Yn ystod y podlediadau hyn, byddwch yn clywed am sut mae addysgwyr ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi teithio'r wlad a byddwn yn dod ag enghreifftiau i chi o'r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.

Autor

ADY a'r Gymraeg

Kategorie

Education

Podcast-Website

www.stiwdiobox.com

Neueste Folge

25. Sep 2025

Wo hören?

Podcasts in der App Replaio Radio Bald verfügbar

Podcasts kommen bald in die App. Installiere sie jetzt und erlebe als Erster einen ganz neuen Blick auf Podcasts

Bei Google Play herunterladen Kostenlos installieren Android 5 Mio.+ Downloads · Bewertung 4,8 iOS bald

Folgen

Asesu Anghenion Llythrennedd Uwchradd trwy’r Gymraeg 25.09.2025

Rhiannon Packer a Marjorie Thomas o Brifysgol Met Caerdydd sy’n sgwrsio gyda Trystan yn y rhifyn hon yn trafod y gwaith o gynhyrchu’r asesiad llythrennedd safonedig holistaidd cyntaf yng Nghymru.  Fe fyddwn yn trafod asesu anghenion llythrennedd disgyblion uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mudiad Meithrin 25.09.2025

Menna Machreth sy’n ymuno â Trystan i drafod sut mae Mudiad Meithrin wedi ac yn ymateb i anghenion plant yn y blynyddoedd cynnar yn sgil y ddeddf ADY. Mudiad sy'n arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin

Siwrne Siarad 25.09.2025

Emma Griffiths, athrawes arbenigol Iaith a Lleferydd o Sir Gaerfyrddin sy’n trafod y cynllun Siwrne Siarad, cynllun dwyieithog sydd ar gael i ysgolion ar draws y wlad i’w ddefnyddio i gefnogi datblygiad iaith plant a phobl ifanc.

Seicoleg Addysg 25.09.2025

Yn y rhifyn hwn, Lynwen (Caerfyrddin) a Helen (Castell Nedd Port Talbot) sy’n trafod eu gwaith fel Seicolegwyr Addysg.

Athrawon Arbenigol Nam Golwg 25.09.2025

Owain (Cyngor Caerdydd) a Mair (Sir Benfro), dau o athrawon arbenigol Nam Golwg Cymru sy’n ymuno yn y rhifyn hwn.  Ceir trafodaeth ar waith athrawon Nam Golwg Cymru gan gynnwys yr heriau a’r dechnoleg sydd ar gael i gefnogi dysgwyr a chanddynt nam ar eu golwg

Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor 27.02.2025

Yn cadw cwmni i Trystan yn y rhifyn hon yw Ruth Elliott sy’n gweithio yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor. cdm-dyslecsia@bangor.ac.uk  https://www.dyslexia.bangor.ac.uk/index.php.cy

Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor 27.02.2025

Yn y rhifyn hwn fe fyddwch yn clywed gan Gruff Prys yng Nghanolfan Bedwyr yn trafod datblygiadau yn y maes technoleg cyfrwng Cymraeg a sut gall y dechnoleg cefnogi dysgwyr a chanddynt ADY.tts.techiaith.cymru  Trawsgrifiwr (Welsh Transcriber) |

Niwrowahaniaeth Cymru 25.02.2025

Sioned Thomas o Niwrowahaniaeth Cymru sy’n cadw cwmni yn y rhifyn hwn yn trafod eu gwaith ar draws Cymru.  Hafan - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team

DACC – Castell Nedd Port Talbot 25.02.2025

Criw o staff Awdurdod Castell Nedd Port Talbot sy’n cadw cwmni i Trystan yn y rhifyn hon yn trafod eu gwaith o hyrwyddo a datblygu addysg Cyfrwng Cymraeg trwy’r pwyllgor DACC – Datblygu Addysg Cynhwysol Cymru

Canolfan Noddfa, Wrecsam 25.02.2025

Rhifyn yng nghwmni staff canolfan Noddfa yn Wrecsam yn gwrando ar y ffordd mae’r ganolfan yn cefnogi disgyblion sy’n wynebu heriau wrth gael mynediad i addysg prif lif yn y Sir.

Höre den Podcast ADY a'r Gymraeg in Replaio

Radio und Podcasts in einer App - kostenlos und ohne Anmeldung. Installiere sie noch heute und verpasse den Start nicht

Bei Google Play herunterladen

Replaio ist kein Herausgeber von Podcasts; die Namen der Sendungen, Cover und Audioinhalte gehören ihren Autoren und werden über öffentliche RSS-Feeds verbreitet