andybmedia

Rhaglen Cymru

History CY ↓ 100 episodes

Hanes darlledu a llawer mwy

Author

andybmedia

Category

History

Podcast website

rhaglencymru.podbean.com

Latest episode

Jul 9, 2026

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Pwysigrwydd dysgu 10.04.2026

Y bennod ail-wampio olaf ... am y tro! Hanes y rhaglenni dysgu ar radio a theledu dros y blynyddoed a'u heffeithiolrwydd + Aran Jones o 'Say Something In' yn trafod y weithred o ddysgu iaith a tharged y miliwn o siaradwyr Cymraeg. https://www.saysomethingin.com/cy Tro nesaf fe fydd Andy yn ôl o'r holidês yng Nghymru (a Lloegr). rhaglencymru@hotmail.com    

Andy ac Alexandra Road 03.04.2026

Pennod ail-wampio arall wrth i Andy sôn am ei gyfnod gyda'r BBC yn ei swyddfeydd yn Heol Alecsandra Abertawe - adeilad a gaewyd y llynedd ar ddiwedd degawdau o ddarlledu. Stori bersonol a hanes corfforaethol a geir! Fe fydd Andy yn ôl o'i wyliau cyn hir. rhaglencymru@hotmail.com  

Ar drothwy etholiad 27.03.2026

Pennod 'ail-wampio' arall, y tro hwn tipyn o hanes am ddarlledu etholiadaol a sgwrs yng nghwmni'r Athro Richard Wyn Jones am ei brofiadau o nosweithiau hir mewn stiwdio. Mae Richard yn bennaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru -  https://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-governance-centre rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân rhaglenni etholiadol y BBC - 'Arthur' gan Rick Wakeman https://yo...

Byrbod y BBC 25.03.2026

Yn y bennod fer hon, Andy Bell yn trafod penodiad Matt Brittin fel pennaeth newydd y BBC. Heriau A dyletswyddau i’r dyn a oedd yn rhan o dim rheoli Google. rhaglencymru@hotmail.com    

Cymraeg o'r Ynys Werdd 20.03.2026

Cyfres 'Ail Wampio' yn dechreu gyda gwers hanes am ddarlledu cynnar yn Iwerddon - pennod sydd wedi derbyn enwebiad gan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026. Mae Raidió Teilifís Éireann yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni ... ac yr oedd y Gymraeg yn rhan o'r hanes hwnnw. Dr Ffion Owen yw gwestai Andy Bell mewn trafodaeth am ddarllediad arbennig ar Fawrth y 4ydd, 1927. Y perfformwyr oedd y Brodyr Francis a G...

Byrbod Berkshire 18.03.2026

Ymateb sydyn i ddwy stori ym mhapurau Llundain heddiw (Mawrth 18) ‘Byrbryd’ = snack felly ‘byrbod’ am bodlediad sydyn o lai na 5 munud a recordwyd yn Berkshire

Y digidol a'r dyfodol 13.03.2026

Pennod amrywiol A chyffrous!! Aled Jones o'r Y Pod Dot Cymru yw'r gwestai mewn 'Sgwrs Fawr' arall.  Ble mae'r digidol yn sefyll ar y tirwedd cyfryngol gyda dyfodol S4C a'r BBC dan y chwyddwydr? Hefyd, mae Aled yn sôn am fenter newydd: Gwobrau Podlediadau Cymraeg - https://ypod.cymru/gwobrau Mae'na sylw hefyd i ymateb S4C i'r ymgynghoriad ar Adolygiad Siarter y BBC. https://www.s4c.cymru/cy/y-wasg/...

Wedi'i enwebu!!! 12.03.2026

Dyma un o ddwy bennod 'Rhaglen Cymru' sydd wedi eu henwebu ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026!!! https://www.celticmediafestival.co.uk/nominees   Mae'r bennod hon am chwerthin ... a ydy'r Gymraeg yn ddoniol? Yr awdur Mike Parker yn trafod agweddau tuag ati gan raglenni comedi Seisnig ar y radio a theledu. Fe gewch glywed enghreifftiau o "ffraethineb" dros y blynyddoedd hefyd!! Mike yw awdur "Ne...

Gwleidyddiaeth a'r cyfryngau 05.03.2026

Pennod hir AC amrywiol. Gweithgareddau PEDAIR plaid wrth i ymgyrch etholiad Senedd Cymru boethi - oes 'na sôn am faterion cyfryngol?  Sylw hefyd i ymateb y BBC i'r papur gwyrdd ar ddarlledu cyhoeddus - 'BBC i Bawb'. Ac fel cyd-bwysedd i'r areithio ac ati, 'Y Sgwrs Fawr' ddiweddara - Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith yn cynnig syniadau ar gyfer dyfodol cyfryngau Cymraeg. Gwrandewch, rhannwch, tanys...

Dathlu Dewi 27.02.2026

Cyfle i nodi hanes Gŵyl Ddewi blwyddyn arbennig iawn. Andy yn olrhain hanes yr allbwn radio a theledu 1958 ynghyd â'i gyd-destun. Roedd y diwrnod ei hunan bach yn siomedig o ran cynnwys, ond o fewn dyddiau daeth rhaglen Gymraeg syfrdanol o lwyddiannus i deledu'r DU - 'Gwlad Y Gân'. A'r gân ar ddechreu'r pod? Neb llai na Dominico Modugno yn canu 'Nel Blu Dipinto Di Blu' AKA 'Volare'! https://youtu....

Tipyn o bopeth 20.02.2026

Pennod fer gyda gwahanol eitem o fyd darlledu yr Ynysoedd Prydeinig. Ac mae teitl y bennod yn golygu rhywbeth hanesyddol i Andy - roedd ganddo raglen ddwyieithog wythnosol ar Radio Prifysgol Abertawe yn y 70au yn dwyn yr un enw. Roedd 'ToB' yn gyfle i fynd i bob cyfeiriad heb chwilio'n ormodol am naratif!! rhaglencymru@hotmail.com      

Dafydd Y Bîb 13.02.2026

Dafydd Meredydd yw gwestai'r podlediad y tro hwn. Mae'n trafod ffigurau gwrandio Radio Cymru, yr her digidol ac ambell i elliffant yn yr ystafell!!! Pennod fatha sgwrs arferol a 'Sgwrs Fawr' fer!!!! rhaglencymru@hotmail.com yw'r cyfeiriad Cerddoriaeth gloi: Picocchio's Picnic (arwyddgân 'Helo Bobol') https://youtu.be/7Q-ZboEVRO0?si=zvN-7jsuTfTcnfZW  

Pennod Nesaf Y Pod 10.02.2026

Rhagflas o'r sgwrs gyda Dafydd Meredydd, BBC Cymru. rhaglencymru@hotmail.com

RTÉ @ 100: Bethan Kilfoil 06.02.2026

Bethan Kilfoil, un o hoelion wyth ystafell newyddion RTÉ, darlledwr cyhoeddus Iwerddon, yn ymuno â'r pod i drafod yr Ynys Werdd, y profiad o ohebu'n Gymraeg o dramor a llawer mwy. Mae Bethan yn gyfranwraig gyson i gylchgrawn 'Barn'. Mwy am hanes cynnar RTÉ: https://www.rte.ie/brainstorm/2025/1229/1543306-2rn-rte-radio-launch-new-years-day-1926-seamus-hughes/ A'r cysylltiad Cymreig a Chymraeg: http...

Y Sgwrs Fawr: Dyfrig Jones 30.01.2026

Dr. Dyfrig Jones o Brifysgol Bangor sy'n lansio ein cyfres achlysurol lle mae'na gyfle i wyntyllu syniadau am ddyfodol cyfryngau cyhoeddus. Y sgwrs hon yn cynnig cyd-destun a syniadau gwreiddiol am sut i ddiogelu'r sector sy'n gyfan gwbl allweddol i ffyniant y Gymraeg. Dyma fwy am Dyfrig:  https://research.bangor.ac.uk/cy/persons/dyfrig-jones rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi ac arwyddgân...

Cyfryngau Cyhoeddus yn y Senedd 23.01.2026

Adroddiad am gyfarfod Bwyllgor Diwylliant Seenedd Cymru 22ain Ionawr, lle bu'r BBC, S4C ac Ofcom yn cyflwyno tystiolaeth. Y bennod hon yn rhan o sylw'r podlediad i'r drafodaeth am y BBC, S4C a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mwy am y cyfarfod: https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx? CId=742&MId=15712&Ver=4 Cerddoriaeth gloi: 'Scandanavian Shuffle' gan Swe Danes #bwriadol  https:...

Y Ddau Andy 16.01.2026

Andy Walton AKA'r Welsh Whisperer yw'r gŵr gwadd - mae'n trafod cyflwr adloniant Cymraeg, pwysigrwydd y rhaglen 'Sgorio' i chwarewyr pêl-droed uchelgeisiol a llawer mwy. https://www.welshwhisperer.cymru Hefyd mae'na sôn am welliannau i wasanaethau sain BBC Cymru i'r Cymry alltud, Andy yn cael ei gyhoeddi yn Iwerddon a diwedd radio Rwseg yn Latfia. Erthygl Saesneg am y Gymraeg ar radio Dulyn yn y 1...

Y diaspora yn dathlu - Gwelliannau BBC Cymru 14.01.2026

Pod fer iawn am welliannau i arlwy Cymraeg y BBC i'r bobl sy'n byw dramor. Mae'r hafan "Gwrando Rhyngwladol" yn awr yn fyw ar wefan ac ap Cymru Fyw!!! Er mwyn cynnig cymorth mae Andy yn cynnal gwers fach am sut i gyrraedd y cynnwys. Mae criw BBC Cymru wedi gwenud ymdrech arbennig i wella sefyllfa druenus yn sgîl tawelu BBC Sounds yn fyd eang.  Diolch iddnyt. Rhagor gan Andy yn y bennod go iawn nes...

Lansio'r Sgwrs Fawr 09.01.2026

Wrth ddechreu trafodaeth am batrwm cyfryngau cyhoeddus yn y dyfodol dyma ail ymweliad âg archif 'Rhaglen Cymru'. Cofiwch rannu a thanysgrifio i'r podlediad. rhaglencymru@hotmail.com Cerddoriaeth gloi: Arwyddgân 'Jack The Ripper - Barlow & Watt'.  Cyfres ddifyr tu hwnt o 1973!!! https://youtu.be/i3GYcqqR6LM?si=Z8c6As7Ch-9fDisg    

2026 - Blwyddyn Fawr 03.01.2026

Mae darlledu cyhoeddus yn y fantol eleni. Cyhoeddwyd papur gwyrdd am ddyfodol y BBC cyn y Nadolig, nawr mae'na gyfnod o ymgynghori cyn creu cynigion am natur cyfryngau cyhoeddus. Gyda'r Gymraeg (a'r Gaeleg) yn llwyr ddibynnol ar arian cyhoeddus am ei lle yn y byd darlledu a digidol fe fydd canlyniadau'r drafodaeth am y BBC ymhellgyrhaeddol. Bwriad Rhaglen Cymru yw cynnig llwyfan i'r drafodath hon...

Rhys Mwyn 31.12.2025

Sgwrs am bob math o bethe gyda Rhys Mwyn. Dechreuad arbennig i 2026. Trafod iechyd meddwl, cyflwr cerddoriaeth yng Nghymru a'r weithred o guradu rhaglen wythnosol a chymuned y rhaglen honno. rhaglencymru@hotmail.com

Gosod seiliau newyddion Cymraeg 27.12.2025

Y Pod dog cyntaf yn hanes Rhaglen Cymru yw hwn  ... a dyma gyfle i'w glywed unwaith eto. Andy yn adrodd hanes y gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf - y bwletin am bump adeg yr Ail Ryfel Byd. Cynnig am gystadleuaeth Eisteddfodol oedd y sgript yn wreiddiol - dim teilyngdod !!  Cysylltwch: rhaglencymru@hotmail.com  

Harry Secombe 25.12.2025

Pennod swmpus o bod dog (podlediad dogfennol) gan Andy am y Cymro a Goon Harry Secombe. Trwy ei wybodaeth o'r Goon Show ac Abertawe + gwaith ymchwil gwreiddiol a bach o bendroni mae e'n ceisio gosod un o Gymry amlyca cyfryngau'r canrif ddiwethaf yn ei gyd destun Cymreig. Cerddoriareth gloi: 'Lucky Strike', un o arwyddgâneoun y Goon Show. Mwy am y Goons: https://goonshow.org A'r podlediad amdanynt,...

Darlledu Dolig a fu 24.12.2025

Cyfarchion y tymor oddi wrth Andy B yn Canberra bell. Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau. Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C? O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes. Addasiad o bennod a ryddhawyd yn 2024. rhaglencymru@hotmail.com Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Go...

Cofio Vaughan Hughes 19.12.2025

Sgwrs gydag Alun Ffred Jones am ei gyfrol 'O Fôn i Fynwy - Cofio Vaughan Hughes' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. "Doedd o ddim ofn ei dweud hi fel yr oedd hi. Mi ges i bleser mawr yn dilyn ei siwrnai ddifyr, a dethol peth o’i waith ar gyfer y gyfrol hon," - Alun Ffred Jones. Hanesion difyr a dalennol + tipyn o sgwrs am bwysigrwydd cyfryngau cyhoeddu parthed y Gymraeg. Y llyfr: https://carreg-gwalch.cym...

Listen to the Rhaglen Cymru podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.