S4C

Hansh

Comedy CY ↓ 72 episodes

Criw Hansh (ac ambell westai arbennig) yn trafod rhai o'r pynciau a fideos diweddaraf.

Author

S4C

Category

Comedy

Podcast website

hanshs4c.fireside.fm

Latest episode

Jan 12, 2024

Where to listen?

Podcasts in the app Replaio Radio Coming soon

Podcasts are coming to the app soon. Install now and be the first to see a whole new take on podcasts

Get it on Google Play Install for free Android 5M+ downloads · 4.8 rating iOS soon

Episodes

Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam 05.08.2019

Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delph...

Cymru Wyllt: Mari a Geraint 22.07.2019

Geraint Iwan sy'n holi Mari Huws, y ffilmwneuthurwr ifanc, sydd yn trafod y ffilm ddogfen newydd Wythnos Yng Nghymru Wyllt, ffilm sy'n dilyn taith Mari i galon Ceredigion i ddarganfod mwy am y prosiect dadleuol sydd ar gychwyn yno i adael 10,000 hectar o'r tir fynd nôl yn wyllt. Gwyliwch y ffilm yma - https://youtu.be/-0gXEKlm8FU

Clwb 26-30 Mir a Tom: Mooncups, Mêl a Malu Cachu 10.07.2019

Croeso i Glwb 26-30 Mir a Tom! Yn y podlediad hwn bydd Tomos Dafydd a Miriam Isaac yn trafod penblwyddi trychinebus, gwyliau cerdd yr haf ac enwau babi rhyfedd. Pam fod Miriam yn cysgu gyda chyfrifiannell? Beth oedd Bryn Terfel yn meddwl o Tomos? A beth sydd yn gyffredin rhwng Love Island a Golden Balls? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant. Welcome to Mir and Tom’s Club 26-3...

Genod Gwaedlyd 10.06.2019

Croeso i gwrt y Genod Gwaedlyd! Yn y podlediad hwn bydd Hanna Jarman a Mari Beard, ysgrifenwyr Merched Parchus a connoisseurs y byd gwir drosedd, yn trafod sut nath serial killers ysbrydoli nhw i ysgrifennu’r gyfres. Mae’r pynciau eraill yn y doc yn cynnwys: Pa bodlediadau gwir drosedd dyle bod chi’n gwrando arno, pam fod Ted Bundy yn gymaint o sylwhead a pam fod Florida mor weird? * RHYBUDD * - y...

Elena Cresci: Muay Thai ar y meddwl 13.05.2019

Yn y podlediad hwn bydd Miriam Isaac yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Elena Cresci am ei siwrnai chwyldroadol o’r ystafell newyddion i’r cylch bocsio Muay Thai. Mae Elena yn sôn am beth yrrodd hi i drawsnewid o nofis dibrofiad i ennill yn y cylch; sut mae bob cic a bob dyrniad yn helpu iddi frwydro salwch meddwl; a’u breuddwyd o gerdded allan i’r cylch i gerddoriaeth Dafydd Iwan! RHYBUDD: Yn cynnwy...

Esyllt Ethni-Jones yn cyflwyno: Iwan a Rhianna 25.04.2019

Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!

HIV, PrEP a Fi....Stori Guto 09.04.2019

Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd. RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cym...

Aled ac Adam: Memes Gorau 2018 27.02.2019

Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma yn edrych nôl ar memes gorau 2018. Pa memes fydd yn neud y 'cut', pam fydd John Ogwen yn gwneud Thanos da a beth yw'r pwynt neud podlediad ar memes yn y lle cyntaf? Rhybudd – yn cynnwys rhegi a spoilers!

S & M Hansh....Sam a Miriam: Helo 2019 28.01.2019

Mae S & M Hansh yn ȏl gyda Sam Rhys a Miriam Isaac yn dweud hwyl fawr i 2018 a helo i 2019 gan edrych ar beth sy’n dod lan y flwyddyn hon. Ar yr agenda mae rholiau sosej vegan, Love Island, addunedau blwyddyn newydd (wrth gwrs) a llawer mwy. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Uchafbwyntiau cerddorol Rhys, Garmon ac Elan 28.12.2018

Mae di bod yn flwyddyn ANHYGOEL i gerddoriaeth Gymraeg, gyda llwyth o albyms gwych newydd yn cael eu rhyddhau, sylw i fandiau yng Nghymru a thu hwnt, a gigs a gŵyliau dan eu sang. Dyma Rhys Gwynfor, Elan Evans a Garmon ab Ion yn trafod rhai o’u huchafbwyntiau personol ar gyfer Ochr 1.

Tatŵs: Iwan a Geraint 05.12.2018

Mae Geraint Iwan yn holi Iwan Pitts, sydd wedi cytuno i gael ei datŵio yn fyw ar Facebook Hansh. Y gynulleidfa fydd yn dewis pa datŵ (ac yn lle) mae Iwan yn ei gael. Hefyd yn cael ei drafod - Piers Morgan, tatŵs gwyneb, Coronation Street a mwy! Rhybudd – yn cynnwys rhegi.

Mynd i Mecca....Stori SGRAMEER 14.11.2018

Sam Rhys sy'n holi Ameer 'SGRAMEER' Rana am ei bererindod ddiweddar i Mecca. Mae Ameer yn trafod y rhesymeg tu ôl mynd i Mecca, y broses o baratoi a'i deimladau tuag at Islam nawr ei fod e nôl yng Nghymru. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.

S&M Hansh...Sam a Miriam 10.10.2018

Sam Rhys a Miriam Isaac sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Ar yr agenda, STIs, llawdriniaeth cosmetig ac...Aquabus? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Hit it, DJ: Welsh, Hywel ac Iwan 03.10.2018

Rhybudd – yn cynnwys rhegi! Mae’r Welsh Whisperer a’r Brodyr Pitts yn trafod gigs, hwdis Bryn Fôn, Pobol y Cwm, Rhys Mwyn ac yn ateb eich cwestiynau.

Delio gyda Trolls Hansh: Sam Rhys a Cai Morgan 10.09.2018

Sam Rhys a Cai Morgan sydd yng ngofal podlediad Hansh yr wythnos hon. Bydd y ddau yn trafod rhai o'u hoff sylwadau...cas....o fideo Cai 'Barn Amhoblogaidd Friends', a bydd Sam yn sôn am ei brofiad o gael ei dderbyn i'r Barry Horns. Hefyd rhai o benawdau papurau newyddion od Cymru....Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Arctig: Môr o Blastig? – Mari a Geraint 05.09.2018

Yn y bennod arbennig yma, mae Geraint Iwan yn holi Mari Huws, aeth ar fordaith 3,000km o Gymru i’r Arctig i ymchwilio i lefelau’r plastig yno. Gwyliwch y ffilm ar YouTube Hansh: https://www.youtube.com/watch?v=JdiEO0Cla-s

Oedolion Gwbl Aeddfed: Aled Illtud ac Adam Gilder 29.08.2018

Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma. Atgofion 'fuzzy' Pride Cymru, sut i beidio edrych ar ôl pysgod a phryd i ddefnyddio rap byrfyfyr i osgoi unrhyw sefyllfa ddiflas. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Steddfod Sbeshial: Gareth, Garmon a HyWelsh 16.08.2018

Gareth yr Orangutan yn cyflwyno podlediad arbennig gydag uchafbwyntiau o noson A Oes Hansh? yng Nghaffi Maes B, cân gan HyWelsh a sgyrsiau ffôn gyda Garmon ab Ion a Hywel Pitts (Rhybudd! Yn cynnwys rhegi)

Cydymdeimlo â Logan Paul?: Cai Morgan a Siân Adler 01.08.2018

Cai Morgan a Siân Adler sy’n cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos yma. Maen nhw’n trafod Y Sioe Frenhinol, bod yn Fegan, cyfweliad Logan Paul gyda Casey Neistat a chyfres newydd 'rhyfedd-od' Siân ar Hansh. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Trics y trêd: Rhys a Heledd 18.07.2018

Rhys Gwynfor a Heledd Watkins yn trafod Pwllfilod, gigs, gwyliau heb gynllun, Steddfod yn y ddinas, a be sy ar y gweill gan HMS Morris.

Torri tir newydd: Ger, Al Parr a DAJ 05.07.2018

Al Parr a Geraint Iwan yn trafod taith Mari Huws i fesur plastig yr Arctig, tân mawr Carmel, Rhyl, Sgrameer a sgetshys. Hefyd, cipolwg ar eitem newydd Srprs.me gyda gwestai arbennig, David Aaron Jones (DAJ). Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Tu ôl y cyrtans: Gareth, Geraint ac Iwan 20.06.2018

Similar podcasts

Podlediad Tudur Owen BBC Radio Cymru Comedy · CY · 93 episodes 全资讯平台自动化平台加持,流量提升包揽健康中国与长江网阅读量 全资讯平台自动化平台加持,流量提升包揽健康中国与长江网阅读量 Comedy · CY · 5 episodes 多平台新闻资讯运营赋能,自动化平台优化,助力权威内容传播提升 多平台新闻资讯运营赋能,自动化平台优化,助力权威内容传播提升 Comedy · CY · 5 episodes 在线全自动下单环境下,多平台视频与文章互动及流量提升实操指南 在线全自动下单环境下,多平台视频与文章互动及流量提升实操指南 Comedy · CY · 5 episodes 流量提升策略助力B站一键三联和哔哩三连单币版互动管理高效化 流量提升策略助力B站一键三联和哔哩三连单币版互动管理高效化 Comedy · CY · 5 episodes 从真实互动视角解析微博自动化平台内容扩散节奏与数据结构关系 从真实互动视角解析微博自动化平台内容扩散节奏与数据结构关系 Comedy · CY · 5 episodes 如何通过自动化平台提升腾讯视频评论互动和B站自定义评论,增强视频社交效果 如何通过自动化平台提升腾讯视频评论互动和B站自定义评论,增强视频社交效果 Comedy · CY · 5 episodes 如何通过汽车之家品牌空间阅读与小红书真机粉提升品牌曝光,自动化平台助力精准投放 如何通过汽车之家品牌空间阅读与小红书真机粉提升品牌曝光,自动化平台助力精准投放 Comedy · CY · 5 episodes

Listen to the Hansh podcast in Replaio

Radio and podcasts in one app - free, with no sign-up. Install today and do not miss the launch

Get it on Google Play

Replaio is not a podcast publisher; show names, artwork and audio belong to their authors and are distributed through public RSS feeds.